Strategaeth 2030 Gwasanaeth Erlyn y Goron
Ein gweledigaeth
Rydym yn un o’r partneriaid dibynadwy yn y gwaith o drawsnewid system cyfiawnder troseddol sy'n gwneud y cyhoedd yn fwy diogel.
Ein diben
Rydym yn Erlyn achosion troseddol sydd wedi cael eu hymchwilio gan yr heddlu a sefydliadau ymchwilio eraill yng Nghymru a Lloegr.
Cyd-destun
Mae ein gwasanaeth yn cael ei siapio'n llwyr gan y cyd-destun cymhleth yr ydym yn gweithredu ynddo, a dros y pum mlynedd nesaf bydd y system cyfiawnder troseddol yn wynebu byd sy'n newid yn gyflym. Er mwyn ymateb yn effeithiol, bydd angen i ni groesawu diwygiadau pwysig ac angenrheidiol ochr yn ochr â'n partneriaid.
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn wasanaeth cyhoeddus hanfodol, ac rydym wedi ymateb yn gyson i'r heriau enfawr rydym wedi'u hwynebu dros y deugain mlynedd diwethaf. Rydym yn un rhan o system cyfiawnder troseddol ehangach sy'n dod â gwahanol gyrff cyhoeddus at ei gilydd i sicrhau cyfiawnder i ddioddefwyr, tystion a diffynyddion.
Wrth i gymdeithas gael ei gweddnewid - boed hynny drwy ddeallusrwydd artiffisial, llai o ymddiriedaeth neu newidiadau o genhedlaeth i genhedlaeth mewn agweddau - mae gweithgarwch troseddol hefyd yn dal i ddatblygu. Mae'r newidiadau cyflym hyn yn arwain at risgiau newydd a chyfleoedd newydd, a rhaid i ni fod yn ymwybodol o'r ddau.
Yn y cyfamser, mae’r heriau parhaus yn ei gwneud yn anoddach inni wella ac yn cymryd mwy o amser, sefyllfa sy'n cael ei gwaethygu gan amgylchiadau ariannol heriol. Mae llai o bobl yn dewis gyrfaoedd ym maes cyfiawnder troseddol, ac er mwyn darparu'r gwasanaeth cyhoeddus gorau mae angen inni wneud mwy i ddenu a chadw'r doniau gorau.
Mae achosion yn dod yn fwy cymhleth, mae maint y dystiolaeth yn cynyddu'n gynt ac yn gynt, ac mae ein llwyth achosion yn dal yn llawer iawn uwch nag yr oedd cyn y pandemig.
Mae'r ffactorau hyn yn cyfyngu ar gapasiti yn y system ac yn golygu bod oedi'n gyffredin, a chaiff hynny effaith annerbyniol ar ddioddefwyr, tystion a diffynyddion.
Ond mae rhesymau dros fod yn optimistaidd hefyd. Mae cyfiawnder troseddol yn dod yn fwyfwy integredig, gyda gwell cydweithio a gwerthfawrogiad cynyddol o’n cyd-ddibyniaeth yn y system. Os gallwn ni weithio'n well gyda'n gilydd, gallwn fynd i'r afael â materion systemig, cyflawni blaenoriaethau'r llywodraeth, a chael llawer mwy o effaith.
Bydd ein hymrwymiad i welliant parhaus - gan gynnwys harneisio potensial technoleg - yn ein helpu i ymateb yn fwy hyblyg ac effeithiol i’r dyfodol doed a ddêl.
Bydd gweithio mewn ffordd fwy clyfar yn cyfrannu rhywfaint at roi i’n bobl y lle sydd ei angen arnynt i ganolbwyntio ar yr hyn rydyn ni'n gwybod sydd bwysicaf i'r cyhoedd: adeiladu'r achosion gorau posibl, rhoi i ddioddefwyr, tystion a diffynyddion y gwasanaeth y maent yn ei haeddu, a gweithio gyda'n gilydd i wneud ein cymunedau'n fwy diogel.
Sut mae ein strategaeth yn gweithio
Ein nod strategol
Rydym yn sicrhau cyfiawnder drwy erlyniadau cyhoeddus annibynnol, teg ac effeithiol
Buddion, Canlyniadau a Blaenoriaethau strategol
Buddion: Rydym yn cynyddu’r gallu ar draws Gwasanaeth Erlyn y Goron
Rydym am i bawb yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron ffynnu a bod ar ei orau. Rydym yn buddsoddi yn ein pobl i sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu parchu a'u gwerthfawrogi am y gwaith a wnânt.
Buddion: Rydym yn gwella ansawdd gwaith achosion
Mae gwaith achosion yn sail i bopeth a wnawn i sicrhau cyfiawnder i ddioddefwyr. Rydyn ni'n anelu i gyrraedd safonau ansawdd uchel a chynhyrchu achosion cryf.
Buddion: Rydym yn lleihau oedi yn y system cyfiawnder troseddol
Drwy gydweithio'n effeithiol â phartneriaid, rydym yn mynd i'r afael ag oedi yn y system cyfiawnder troseddol gyfan er mwyn sicrhau canlyniadau amserol a chyfiawn i bawb.
Buddion: Rydym yn cynyddu ymddiriedaeth yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron
Rydym yn rhoi dioddefwyr wrth galon y system cyfiawnder troseddol gan hyrwyddo amgylchedd cefnogol, parchus a theg.
Byddwn yn mesur
y galw
- data ar atgyfeiriadau, llwyth achosion a diwrnodau eistedd.
- prydlondeb achosion a thasgau allweddol.
sicrwydd
- data sicrwydd ar wneud penderfyniadau, ansawdd ffeiliau a chydymffurfiaeth.
- cyflawni rhaglenni a gwireddu manteision.
- amrywiadau mewn perfformiad.
adborth
- agweddau'r cyhoedd at Wasanaeth Erlyn y Goron.
- hyder yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron drwy arolygon cenedlaethol swyddogol.
y gweithlu
- profiadau ein pobl.
- sut caiff ein pobl eu trin.
- denu a chadw ein pobl mewn swyddi allweddol.