Skip to main content

Two men sentenced for exploitation of teenage girl

Dedfrydu dau ddyn am gamfanteisio ar ferch yn ei harddegau

Mae dau ddyn wedi cael eu dedfrydu yn Llys y Goron Casnewydd am gamfanteisio ar ferch agored i niwed 14 oed oedd mewn gofal. Dedfrydwyd un o’r dynion am dreisio hefyd.

Ar 6 Medi 2021, teithiodd Azad Ahmed, 50 a Wasee Shikel, 51, o Gaerdydd i ardal Port Talbot lle gwnaethant gwrdd â dwy ferch yn eu harddegau.

Roedd y ddwy ferch yn feddw ac fe'u gyrrwyd i leoliad anghysbell. Yna treisiodd Ahmed ar lafar un o'r merched yng nghefn y cerbyd. Yna rhoddodd y ddau ddyn ganabis ac alcohol i'r ddwy ferch.

Ar 20 Medi 2021, casglwyd y ddwy ferch eto gan y ddau ddyn. Treisiodd Ahmed yr un dioddefwr ar lafar eto a chyflawni ymosodiad rhywiol pellach.

Cafwyd Ahmed a Shikel ill dau yn euog yn dilyn treial.

Dywedodd John Griffiths o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Roedd y ddau ddiffynnydd wedi targedu merch agored i niwed ac wedi rhoi cyffuriau ac alcohol iddi er mwn cyflawni’r ymosodiadau rhywiol.

“Roedd eu troseddau’n fwriadol ac yn oeraidd, ac ni ddangoswyd unrhyw barch at y dioddefwr.

“Mae’r dioddefwr wedi bod yn ddewr iawn yn dod ymlaen ac yn codi llais yn erbyn y dynion hyn. Ei chryfder wrth wneud hynny sydd wedi caniatáu i Wasanaeth Erlyn y Goron ddod â’r camdrinwyr hyn o flaen eu gwell.

“Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cymryd pob honiad o gam-drin rhywiol o ddifri ac mae wedi ymrwymo i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell pryd bynnag y bodlonir ein prawf cyfreithiol.”

Dedfrydwyd y ddau ddyn i 12 mlynedd o garchar gydag estyniad pedair blynedd, a gosodwyd gorchymyn atal amhenodol ar y ddau ddyn.

Nodiadau i olygyddion

  • Mae cyfyngiadau adrodd gydol oes awtomatig yn berthnasol yn yr achos hwn. Holwch Lys y Goron.
  • Daw Azad Ahmed (Dyddiad Geni: 8/9/1975) o Grangetown, Caerdydd.
  • Fe’i cafwyd yn euog o drefnu neu hwyluso teithio person arall gyda’r bwriad o gam-fanteisio arnynt, rhwng 5 a 21 Medi 2021, yn groes i a.2(1) o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015; Treisio x 2 a Gweithgarwch rhywiol gyda phlentyn.
  • Daw Wasee Shikel (Dyddiad Geni: 10/12/1974) o’r Sblot, Caerdydd.
  • Fe’i cafwyd yn euog o drefnu neu hwyluso teithio person arall gyda’r bwriad o gam-fanteisio arnynt, rhwng 5 a 21 Medi 2021, yn groes i a.2(1) o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015.
  • Cafodd y ddedfryd ei rhoi ar 10 Gorffenaf 2026.
  • Mae John Griffiths yn Uwch Erlynydd y Goron yn Uned Gwaith Achos Cymhleth Gwasanaeth Erlyn y Goron Cymru.
  • Darllenwch am ein dull gweithredu wedi'i ddiweddaru ar gyfer erlyn troseddau rhywiol difrifol a threisio, troseddau seibr, stelcio a cham-drin domestig yn y fersiwn lawn o strategaeth Trais yn erbyn Menywod a Merched Gwasanaeth Erlyn y Goron 2025-2030, ar ein gwefan: Strategaeth Trais yn erbyn Menywod a Merched 2025-2030
Back to CPS News centre