Two men sentenced for exploitation of teenage girl
Dedfrydu dau ddyn am gamfanteisio ar ferch yn ei harddegau
Mae dau ddyn wedi cael eu dedfrydu yn Llys y Goron Casnewydd am gamfanteisio ar ferch agored i niwed 14 oed oedd mewn gofal. Dedfrydwyd un o’r dynion am dreisio hefyd.
Ar 6 Medi 2021, teithiodd Azad Ahmed, 50 a Wasee Shikel, 51, o Gaerdydd i ardal Port Talbot lle gwnaethant gwrdd â dwy ferch yn eu harddegau.
Roedd y ddwy ferch yn feddw ac fe'u gyrrwyd i leoliad anghysbell. Yna treisiodd Ahmed ar lafar un o'r merched yng nghefn y cerbyd. Yna rhoddodd y ddau ddyn ganabis ac alcohol i'r ddwy ferch.
Ar 20 Medi 2021, casglwyd y ddwy ferch eto gan y ddau ddyn. Treisiodd Ahmed yr un dioddefwr ar lafar eto a chyflawni ymosodiad rhywiol pellach.
Cafwyd Ahmed a Shikel ill dau yn euog yn dilyn treial.
Dywedodd John Griffiths o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Roedd y ddau ddiffynnydd wedi targedu merch agored i niwed ac wedi rhoi cyffuriau ac alcohol iddi er mwn cyflawni’r ymosodiadau rhywiol.
“Roedd eu troseddau’n fwriadol ac yn oeraidd, ac ni ddangoswyd unrhyw barch at y dioddefwr.
“Mae’r dioddefwr wedi bod yn ddewr iawn yn dod ymlaen ac yn codi llais yn erbyn y dynion hyn. Ei chryfder wrth wneud hynny sydd wedi caniatáu i Wasanaeth Erlyn y Goron ddod â’r camdrinwyr hyn o flaen eu gwell.
“Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cymryd pob honiad o gam-drin rhywiol o ddifri ac mae wedi ymrwymo i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell pryd bynnag y bodlonir ein prawf cyfreithiol.”
Dedfrydwyd y ddau ddyn i 12 mlynedd o garchar gydag estyniad pedair blynedd, a gosodwyd gorchymyn atal amhenodol ar y ddau ddyn.
Nodiadau i olygyddion
- Mae cyfyngiadau adrodd gydol oes awtomatig yn berthnasol yn yr achos hwn. Holwch Lys y Goron.
- Daw Azad Ahmed (Dyddiad Geni: 8/9/1975) o Grangetown, Caerdydd.
- Fe’i cafwyd yn euog o drefnu neu hwyluso teithio person arall gyda’r bwriad o gam-fanteisio arnynt, rhwng 5 a 21 Medi 2021, yn groes i a.2(1) o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015; Treisio x 2 a Gweithgarwch rhywiol gyda phlentyn.
- Daw Wasee Shikel (Dyddiad Geni: 10/12/1974) o’r Sblot, Caerdydd.
- Fe’i cafwyd yn euog o drefnu neu hwyluso teithio person arall gyda’r bwriad o gam-fanteisio arnynt, rhwng 5 a 21 Medi 2021, yn groes i a.2(1) o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015.
- Cafodd y ddedfryd ei rhoi ar 10 Gorffenaf 2026.
- Mae John Griffiths yn Uwch Erlynydd y Goron yn Uned Gwaith Achos Cymhleth Gwasanaeth Erlyn y Goron Cymru.
- Darllenwch am ein dull gweithredu wedi'i ddiweddaru ar gyfer erlyn troseddau rhywiol difrifol a threisio, troseddau seibr, stelcio a cham-drin domestig yn y fersiwn lawn o strategaeth Trais yn erbyn Menywod a Merched Gwasanaeth Erlyn y Goron 2025-2030, ar ein gwefan: Strategaeth Trais yn erbyn Menywod a Merched 2025-2030