Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Sut rydym yn gweithio gyda’r heddlu wrth iddynt adeiladu eu hachos

Mewn achosion o dreisio neu ymosodiad rhywiol difrifol, rydym yn cynnig ‘cyngor cynnar’ i’r heddlu. Mae hyn yn golygu, os byddant yn gofyn am gyngor gennym, ein bod yn gweithio gyda nhw cyn gynted â phosibl i’w cynghori ynghylch pa fath o dystiolaeth i chwilio amdani i’w helpu i adeiladu’r achos. 

Mae gweithio gyda’n gilydd yn ein helpu i adeiladu achosion cryf mor gyflym ac mor effeithiol â phosibl.

Pa fath o dystiolaeth fydd yr heddlu’n chwilio amdani?

Bydd y math o dystiolaeth y bydd yr heddlu’n chwilio amdani yn dibynnu ar amgylchiadau eich achos. Gwaith yr heddlu yw chwilio am unrhyw beth sy’n cefnogi’r hyn rydych chi wedi’i ddweud wrthynt, ond hefyd unrhyw beth sy’n ei danseilio neu’n cefnogi’r hyn y mae’r sawl sy’n cael ei amau yn ei ddweud.

Mae’n bwysig bod yr heddlu’n creu darlun llawn o’r hyn a ddigwyddodd, gan gynnwys unrhyw dystiolaeth y gallai’r amddiffyniad ei chyflwyno os bydd yr achos yn mynd i dreial.

Mae’r dystiolaeth y bydd yr heddlu’n ei chasglu yn aml yn cynnwys pethau fel:

  • Recordiad fideo o’ch cyfweliad neu unrhyw ddatganiad ysgrifenedig rydych chi wedi’i roi i’r heddlu
  • Eich Datganiad Personol Dioddefwr – os ydych wedi darparu un
  • Datganiadau gan unrhyw dystion eraill neu recordiadau fideo o gyfweliadau â hwy
  • Unrhyw adroddiad a ddarparwyd gan yr unigolyn a amheuir yn ystod ei gyfweliad â’r heddlu
  • Tystiolaeth Teledu Cylch Cyfyng o’r digwyddiad neu ddigwyddiadau sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad
  • Tystiolaeth feddygol - tystiolaeth gan feddyg neu weithiwr meddygol proffesiynol arall yw hon
  • Tystiolaeth ddigidol a gasglwyd o ffonau clyfar, cyfrifiaduron tabled neu ddeunydd a lwythwyd i lawr o gyfrifiaduron

Mewn rhai achosion, bydd yr heddlu’n gofyn am gael edrych ar eich dyfeisiau digidol, fel eich ffôn symudol, gliniadur neu gyfrifiadur tabled, fel rhan o’u hymchwiliad. Er enghraifft, efallai y bydd negeseuon neu luniau ar eich dyfais a all helpu i brofi dyddiadau, amseroedd neu rannau pwysig eraill o’r achos. Gall y deunydd hwn ein helpu i lunio’r achos cryfaf posibl.

Cyn gofyn am eich dyfais, bydd yr heddlu bob amser yn ystyried a oes ffordd arall o gasglu’r dystiolaeth, er enghraifft drwy edrych ar ddyfais yr unigolyn dan amheuaeth. Mewn llawer o achosion, bydd yr heddlu’n trafod hyn â ni a byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i wneud yn siŵr mai dim ond pan fydd hynny’n gyfreithiol angenrheidiol y byddwn yn gofyn am gael edrych ar eich dyfeisiau. 

Os oes angen casglu tystiolaeth o’ch dyfais, bydd yr heddlu’n gofyn i chi lofnodi ffurflen ganiatâd a fydd yn esbonio pam mae angen eich dyfais arnynt, beth y byddant yn chwilio amdano (a beth na fyddant) ar eich dyfais a phwysigrwydd y dystiolaeth hon i’r ymchwiliad. Byddant hefyd yn egluro’r effaith bosibl ar erlyniad os na fyddwch yn rhoi eich dyfais iddynt. 

Dim ond gwybodaeth sy’n berthnasol i’r achos y bydd yr heddlu’n edrych arni. Mae pob achos yn wahanol, a bydd y penderfyniad ynghylch beth sy’n berthnasol yn dibynnu ar y ffeithiau unigryw yn eich achos. 

Pan fo’n bosibl, bydd yr heddlu’n ystyried a ydynt yn gallu tynnu sgrinluniau yn hytrach na chadw gafael ar eich dyfeisiau a byddant bob amser yn ceisio eu dychwelyd atoch cyn gynted â phosibl. Os bydd angen i’r heddlu ddal gafael ar eich ffôn am gyfnod, gallant gynnig dyfais arall i chi yn y cyfamser. Mae gennych hawl dan y Cod Dioddefwyr i gael unrhyw eiddo a gymerwyd fel tystiolaeth yn ôl cyn gynted ag y bo modd. 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch sut byddwn ni’n defnyddio'r dystiolaeth a gesglir oddi ar eich dyfais, gallwch ofyn i’ch cyswllt yn yr heddlu a bydd yn fodlon ateb eich cwestiynau. 

Defnyddio gwybodaeth sydd gan bobl neu sefydliadau eraill amdanoch chi

Mewn rhai achosion, bydd angen i’r heddlu edrych ar wybodaeth sydd gan bobl neu sefydliadau eraill amdanoch chi. Weithiau, mae hyn yn cael ei alw’n ‘ddeunydd trydydd parti’.  

Er enghraifft, efallai y bydd angen iddynt edrych ar gofnodion meddygol os ydych wedi siarad â'ch meddyg am y digwyddiad.  

Dim ond os bydd ganddynt reswm dros gredu y gallai fod yn berthnasol i’ch achos y bydd yr heddlu yn edrych ar y math hwn o wybodaeth. 

Er enghraifft, ni all yr heddlu ofyn am gael gweld eich cofnodion meddygol ‘rhag ofn’ y gallai fod rhywbeth sy’n berthnasol i’r ymchwiliad. Ni allant ofyn am gael gweld gwybodaeth dim ond am eu bod yn ymchwilio i drosedd rhywiol chwaith. 

Cyn gofyn am wybodaeth gan drydydd parti, rhaid i’r heddlu ystyried a oes ffordd arall y gallent gael gafael ar yr wybodaeth sy’n berthnasol yn eu barn hwy, er enghraifft drwy siarad â thyst.   

Os bydd yr heddlu’n penderfynu bod angen iddynt ofyn am wybodaeth gan drydydd parti, byddant yn gwneud yn siŵr bod eu cais yn canolbwyntio ar yr wybodaeth a allai, yn eu barn hwy, fod yn berthnasol i’r achos. Er enghraifft, os oeddent yn gofyn am eich cofnodion meddygol, gallent ofyn am gael gweld cofnodion mis penodol yn hytrach na’ch cofnod meddygol llawn. 

Bydd yr heddlu’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr ymchwiliad a dylech roi gwybod iddynt os oes gennych gwestiynau neu bryderon am unrhyw un o’r mathau o dystiolaeth y gallent chwilio amdanynt. 

Os ydych am wneud hynny, mae gennych hawl i roi datganiad personol ddioddefwr, dan y Cod Dioddefwyr. Mae hyn yn ychwanegol at eich datganiad tyst ac mae’n gyfle i chi egluro sut mae’r drosedd wedi effeithio arnoch chi ac unrhyw bryderon sydd gennych am yr achos. 

Gallwch ysgrifennu eich datganiad personol dioddefwr gyda’r heddlu ar yr un pryd ag y byddwch yn rhoi eich datganiad tyst iddynt neu gallwch ei ychwanegu at yr achos ar unrhyw adeg cyn pob un o’r gwrandawiadau llys. 

Unwaith y byddwch wedi gwneud datganiad, ni allwch ei dynnu’n ôl ond gallwch ddarparu fersiwn wedi’i ddiweddaru ar unrhyw adeg. Dylech ofyn i’ch cyswllt yn yr heddlu os hoffech wneud hyn. 

Bydd yr heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron a’r llysoedd yn defnyddio’ch datganiad i’n helpu i ddeall sut mae’r drosedd wedi effeithio arnoch chi. Bydd hyn yn ein helpu i adeiladu’r achos cryfaf posibl a hefyd yn sicrhau eich bod yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch drwy’r broses cyfiawnder troseddol. Bydd tîm yr amddiffyniad hefyd yn gallu gweld eich datganiad fel rhan o’r deunydd y mae’n rhaid i ni ei rannu â nhw cyn y treial – gallwch ddarllen rhagor am hyn yn yr adran ar yr hyn y mae angen i ni ei wneud cyn y treial.

Faint o amser y bydd ymchwiliad yr heddlu’n ei gymryd?

Mae pob achos yn wahanol ac nid oes un ateb i’r cwestiwn hwn. Gall rhai achosion fod yn syml tra bydd gan eraill lawer o wahanol fathau o ymholiadau y bydd angen i’r heddlu eu dilyn neu ymchwilio iddynt.

Mae gennych hawl dan y Cod Dioddefwyr i gael gwybodaeth am yr ymchwiliad, felly os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am hynt eich achos, gallwch gysylltu â’ch cyswllt yn yr heddlu, a fydd yn fwy na pharod i’ch helpu.  

Gall fod yn anodd aros am ddiweddariadau tra bydd yr ymchwiliad yn parhau ond bydd yr heddlu bob amser yn gwneud eu gorau i gasglu tystiolaeth cyn gynted â phosibl fel nad ydych yn aros yn hwy nag sydd ei angen. 

Scroll to top