Skip to main content

Canllawiau polisi ar erlyn troseddau yn erbyn pobl hŷn

Gwasanaeth Erlyn y Goron

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn deall natur ddifrifol troseddau yn erbyn pobl hŷn. Rydyn ni’n cydnabod y gall pobl hŷn brofi ystod eang a chymhleth o droseddau. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod cyfiawnder yn cael ei roi i bobl hŷn drwy erlyn troseddau a gyflawnwyd yn eu herbyn yn effeithiol a thrwy roi cymorth wedi'i deilwra i ddioddefwyr hŷn drwy gydol y broses cyfiawnder troseddol.

Rydyn ni’n cydnabod amgylchiadau a phrofiadau amrywiol pobl hŷn. Beth bynnag yw oedran y dioddefwr neu’r tyst, dylid asesu eu hanghenion cymorth yn unigol. Efallai y bydd pobl hŷn yn cael eu targedau weithiau oherwydd eu bod yn fregus neu’r canfyddiad eu bod yn fregus. Gall dioddefwyr hŷn hefyd wynebu rhwystrau ychwanegol wrth gael mynediad at gyfiawnder, ac efallai y bydd angen cymorth wedi'i deilwra arnynt i'w galluogi i gymryd rhan yn effeithiol yn y broses cyfiawnder troseddol. Serch hynny, bydd faint o gymorth sydd ei angen yn amrywio, ac ni fydd llawer o bobl hŷn yn ystyried eu hunain yn fregus nac angen cymorth ychwanegol.

Mae’r canllawiau hyn yn egluro sut mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn nodi, yn monitro ac yn erlyn troseddau yn erbyn pobl hŷn a sut rydyn ni’n cefnogi pobl hŷn sy’n ddioddefwyr ac yn dystion i droseddau.

At ddibenion ein polisi a'n canllawiau, defnyddir y term “dioddefwr” i ddisgrifio person y mae trosedd wedi'i gyflawni yn ei erbyn, neu'r achwynydd mewn achos sy'n cael ei ystyried neu ei erlyn gan Wasanaeth Erlyn y Goron.

Diben ein polisi yw:

  • Sicrhau bod gan bobl hŷn yr un mynediad at gyfiawnder â phobl iau a bod ganddynt lais yn y System Cyfiawnder Troseddol.

  • Nodi troseddau sy’n targedu pobl hŷn cyn gynted â phosib.

  • Nodi lle gall troseddau yn erbyn pobl hŷn orgyffwrdd â meysydd polisi eraill fel cam-drin domestig, trais yn erbyn menywod a merched, troseddau casineb ac iechyd meddwl.

  • Adeiladu achosion cryf gyda'n partneriaid sy'n bodloni'r profion o fewn y Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron.

  • Asesu anghenion unigol dioddefwyr a thystion, waeth beth fo'u hoedran.

  • Cefnogi dioddefwyr a thystion i roi eu tystiolaeth orau.

  • Cyfathrebu â dioddefwyr a thystion yn effeithiol drwy sicrhau eu bod yn derbyn y wybodaeth iawn ar yr amser iawn. Dylid teilwra’r cyfathrebu i gyd-fynd ag anghenion unigol y dioddefwr neu'r tyst.

  • Gwahodd llysoedd i gynyddu'r ddedfryd am droseddau yn erbyn pobl hŷn ar y sail bod targedu dioddefwr bregus yn ffactor gwaethygedig sy'n cynyddu difrifoldeb y drosedd.

  • Gweithio’n agos gyda’r heddlu, asiantaethau cyfiawnder troseddol, ysgolheigion, rhanddeiliaid cymunedol a chyrff eraill i adnewyddu ein dealltwriaeth o droseddau yn erbyn pobl hŷn ac i wella ein hymateb iddynt.

  • Gwella ymwybyddiaeth o droseddau yn erbyn pobl hŷn a hyder y cyhoedd i riportio achosion a fydd yn cynnwys rhoi cyhoeddusrwydd i achosion lle cafwyd erlyniad llwyddiannus.

  • Monitro gweithrediad y polisi hwn.

Wrth dderbyn achosion sy’n cynnwys pobl hŷn, byddwn yn ymwybodol o’r canlynol:

  • Gall troseddau yn erbyn pobl hŷn fod yn seiliedig ar ragfarn oed neu ragfarn yn erbyn pobl hŷn.

  • Mae'r gred sy'n seiliedig ar stereoteipiau bod pobl hŷn fel grŵp rywsut yn gynhenid ​​agored i niwed, yn wan, yn dargedau hawdd, 'allan o gysylltiad' ac yn agored i sgamiau neu'n fwy tebygol o fod â chynilion, yn agwedd sy'n ysgogi rhai troseddau yn erbyn pobl hŷn.

  • Gall pobl hŷn sydd â dementia neu gyflyrau sy'n gysylltiedig ag oedran brofi galluedd sy'n amrywio. Mae hyn yn golygu y gall eu galluedd i ddeall gwybodaeth ac i wneud penderfyniadau newid dros gyfnod byr o amser, a gallai hefyd amrywio mewn perthynas â gwahanol fathau o benderfyniadau.

  • Ni ddylem wneud rhagdybiaethau ynglŷn â dibynadwyedd, hygrededd na chymhwysedd dioddefwr neu dyst ar sail eu hoedran na’r ffaith eu bod yn fregus oherwydd eu hoedran.

Wrth benderfynu a yw erlyn troseddau yn erbyn pobl hŷn er budd y cyhoedd, rhaid i’n herlynwyr roi ystyriaeth i’r Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron. Mae'r Cod yn nodi lle'r oedd y drosedd wedi'i chymell gan unrhyw fath o ragfarn, gan gynnwys yn erbyn oedran y dioddefwr neu fod y person dan amheuaeth wedi targedu neu wedi camfanteisio ar y dioddefwr neu wedi dangos gelyniaeth tuag at y dioddefwr oherwydd eu hoedran, mae’n fwy tebygol bod angen erlyniad. Mae ffactorau eraill sy'n berthnasol i fudd y cyhoedd yn cynnwys lle:

  • mae’r person dan amheuaeth mewn safle o awdurdod a/neu ymddiriedaeth o ran eu perthynas â'r dioddefwr;

  • mae’r drosedd wedi cael effaith ar iechyd corfforol, emosiynol a/neu iechyd meddwl y dioddefwr – mae ymchwil wedi dangos y gall pobl hŷn sydd wedi wynebu trosedd ddioddef mwy o afiechyd, yn gorfforol ac yn feddyliol, na'u cyfoedion nad ydynt wedi bod yn ddioddefwyr troseddau [Lachs et al, 2006 and Serfaty et al, 2015];

  • bod y drosedd wedi’i hailadrodd neu wedi parhau dros gyfnod o amser, neu mae sail i gredu bod y drosedd yn debygol o barhau neu gael ei hailadrodd;

  • mae'r troseddwr wedi ‘grŵmio’r’ dioddefwr fel eu bod yn teimlo bod ganddynt berthynas agos â nhw;

  • ystyriwyd bod y dioddefwr yn fregus gan y person dan amheuaeth;

  • cafodd y dioddefwr ei anafu;

  • defnyddiodd y person dan amheuaeth arf;

  • gwnaeth y person dan amheuaeth fygythiadau cyn neu ar ôl y drosedd;

  • cynlluniodd y person dan amheuaeth y drosedd;

  • mae bygythiad parhaus i iechyd a diogelwch y dioddefwr neu unrhyw un arall sydd, neu a allai ddod, yn rhan o'r drosedd; ac

  • mae gan y person dan amheuaeth hanes troseddol, yn enwedig unrhyw euogfarnau am droseddau yn erbyn pobl hŷn.

Os yw’r prawf tystiolaethol yn cael ei fodloni mewn achosion o esgeulustod neu gamdriniaeth bwriadol, bydd budd y cyhoedd bron wastad o blaid erlyn, oherwydd y safle o ymddiriedaeth a oedd gan y person dan amheuaeth mewn perthynas â'r dioddefwr, yn ogystal â sefyllfa natur fregus eithafol y dioddefwr.

Mae angen i erlynwyr ystyried hefyd a yw’r erlyniad yn debygol o gael effaith andwyol ar iechyd corfforol neu feddyliol a llesiant y dioddefwr. Os oes tystiolaeth bod yr erlyniad yn debygol o gael effaith andwyol ar y dioddefwr, gallai hyn fod yn ffactor arwyddocaol sy'n tueddu tuag at beidio ag erlyn. Dylai rhoi ystyriaeth i farn y dioddefwr, a'i bwyso yn erbyn ffactorau eraill budd y cyhoedd, gan wastad ystyried difrifoldeb y drosedd a pha fesurau neu gymorth a allai fod ar gael i leihau'r effaith ar y dioddefwr.

Monitro Troseddau yn Erbyn Pobl Hŷn

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn defnyddio ‘rhybudd’ electronig ar gyfer Troseddau yn Erbyn Pobl Hŷn ar ein system rheoli achosion. Mae defnyddio rhybuddion yn ein helpu i nodi achosion perthnasol a'u monitro drwy gydol y broses erlyn. Mae hefyd yn caniatáu i ni fonitro a chyhoeddi data ar ein perfformiad yn yr achosion hyn. Mae hyn yn ein helpu i adnabod tueddiadau a phatrymau, ystyried ble gallai fod angen i ni ganolbwyntio hyfforddiant neu efallai darparu canllawiau ychwanegol i erlynwyr.

Er mwyn nodi a monitro math neu gategori penodol o drosedd, mae angen i ni ei ddiffinio. Nid oes diffiniad statudol o drosedd yn erbyn person hŷn. Nid oes consensws chwaith ar draws adrannau'r Llywodraeth ynglŷn â pha derfyn oedran sy'n gyfystyr â pherson hŷn neu bobl hŷn. Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn awgrymu mai 60 neu 65 yw'r oedrannau a ddefnyddir amlaf mewn gwledydd datblygedig. Mae mudiadau’r trydydd sector yn y DU sy’n cefnogi dioddefwyr hŷn sydd wedi wynebu troseddau hefyd yn cefnogi trothwy oed o 60 yn gyffredinol gan fod hyn yn adlewyrchu pryd y gall nifer o bobl ddechrau uniaethu fel person 'hŷn' a chael mynediad at wasanaethau cymorth arbenigol. Yn unol â’r farn honno, ein diffiniad ar gyfer trosedd yn erbyn person hŷn yw: 

Unrhyw drosedd sy’n ymwneud â dioddefwr 60 oed neu’n hŷn

Mae’r rhybudd yn berthnasol waeth beth fo'r math o drosedd, a waeth a dargedwyd y dioddefwr am y rheswm eu bod yn fregus oherwydd eu hoedran neu’r dybiaeth eu bod yn fregus oherwydd eu hoedran.

Unwaith y bydd achos wedi'i nodi fel trosedd yn erbyn person hŷn, polisi Gwasanaeth Erlyn y Goron yw peidio â thynnu'r rhybudd am unrhyw reswm heblaw gwall gweinyddol. Mae hyn yn arwydd o'n hymrwymiad i drin pob trosedd o'r fath o ddifri ac i roi pwyslais ar anghenion a safbwyntiau’r dioddefwr drwy gydol y broses.

Y fframwaith cyfreithiol ar gyfer troseddau yn erbyn pobl hŷn

Nid oes unrhyw droseddau penodol sy'n berthnasol i bobl hŷn yn unig. Serch hynny, rydyn ni’n ymwybodol bod pobl hŷn yn cael eu targedu'n amlach mewn perthynas â rhai mathau o droseddau.

Mae canllawiau erlyn Gwasanaeth Erlyn y Goron yn darparu gwybodaeth fanwl am y ddeddfwriaeth berthnasol yn ogystal â dolenni i ganllawiau ar feysydd eraill fel troseddau casineb, twyll, cam-drin domestig a gorfodaeth a rheolaeth.

Dylai'r cyhuddiadau a ddewiswn mewn unrhyw erlyniad adlewyrchu difrifoldeb yr amgylchiadau bob amser, unrhyw elfen o ragfwriad neu ddyfalbarhad yn ymddygiad y diffynnydd, bwriad y diffynnydd y gellir ei brofi, a difrifoldeb unrhyw anaf a ddioddefwyd gan y dioddefwr. Rhaid i'r cyhuddiadau ein helpu i gyflwyno'r achos yn glir ac yn syml a rhaid iddynt roi'r pŵer i'r llys bennu’r ddedfryd iawn.

Ymddygiad troseddol

Gall troseddau yn erbyn pobl hŷn fod ar sawl ffurf gan gynnwys esgeulustod, cam-drin ariannol a thwyll, cam-drin geiriol, ymosodiad corfforol a rhywiol, cam-drin domestig gan gynnwys gorfodaeth a rheolaeth, bygythiadau, lladrad, bwrgleriaeth a difrod troseddol. Gall troseddau yn erbyn pobl hŷn gael eu cyflawni ar-lein neu all-lein neu drwy alwadau diwahoddiad dros y ffôn, sgamiau drwy’r post neu ar garreg y drws neu gall fod patrwm sy'n cynnwys rhywfaint neu'r cyfan o'r ymddygiad hwn.

Gall digwyddiadau fod yn ddigwyddiadau untro neu fod yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau sydd wedi digwydd dro ar ôl tro ac wedi’u targedu. Gall pobl hŷn brofi troseddau nid yn unig yn eu cartrefi eu hunain ond mewn llefydd eraill, er enghraifft, mewn cartrefi nyrsio, cartrefi gofal preswyl, ysbytai ac mewn mannau cyhoeddus.

Rydyn ni’n cydnabod y gall troseddau yn erbyn pobl hŷn ddigwydd yn aml yng nghyd-destun cam-drin a chamdriniaeth sy'n cynnwys partner, aelod o’r teulu, ffrind agos neu weithiwr gofal. Mae Canllawiau Cam-drin Domestig Gwasanaeth Erlyn y Goron yn rhoi gwybodaeth fanwl i erlynwyr ar elfen rhywedd ymddygiad troseddol o'r fath yn ogystal â'r angen i osgoi rhagdybiaethau am oedran y dioddefwr a natur y berthynas â'u camdriniwr.

Gall unigrwydd a theimlo’n ynysig fod yn ffactorau risg allweddol mewn rhai mathau o droseddau yn erbyn pobl hŷn a’u targedu. Efallai bod dioddefwyr yn fwy tebygol o fod mewn cysylltiad â throseddwr a dioddef sgam os ydynt yn unig neu'n ynysig.

Rydyn ni’n cydnabod y gall pobl hŷn gael eu targedu am gyfuniad o resymau, gan gynnwys cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth drawsryweddol, hil, crefydd ac anabledd. Lle ceir tystiolaeth bod troseddwyr wedi’u cymell gan elyniaeth neu’n dangos gelyniaeth ar sail y nodweddion hyn, bydd hyn yn gyfystyr â throsedd casineb a bydd yn gymwys i gael cynnydd yn y ddedfryd. Bydd erlynwyr yn ystyried y cyhuddiadau mwyaf priodol ac yn gwneud cais i'r llysoedd am gynnydd priodol yn y ddedfryd, yn seiliedig ar yr holl nodweddion gwaethygedig perthnasol. Gweler gwe-dudalen Gwasanaeth Erlyn y Goron ar droseddau casineb am fwy o wybodaeth.

Natur fregus dioddefwyr a thystion hŷn

Fel y nodwyd ar ddechrau’r Canllawiau Polisi hyn, rydyn ni’n cydnabod amrywiaeth amgylchiadau pobl hŷn ac nad yw nifer o bobl hŷn yn fregus nac angen cymorth mewn unrhyw ffordd. Serch hynny, bydd eraill yn dibynnu ar gymorth i reoli eu materion a bydd faint o gymorth sydd ei angen yn wahanol yn dibynnu ar eu hamgylchiadau personol. Gall y bobl hŷn hyn gael eu targedu gan droseddwyr am y rheswm eu bod yn fregus oherwydd eu hoedran neu’r canfyddiad eu bod yn fregus oherwydd eu hoedran neu lle maent mewn amgylchiadau agored i niwed. Rydyn ni’n awyddus i osgoi rhoi barn anghywir ynglŷn â dibynadwyedd neu hygrededd person hŷn fel tyst sy'n rhoi tystiolaeth yn y llys. Gall barn o'r fath arwain at benderfyniad anghywir wrth gyhuddo neu danseilio llwyddiant posib yr erlyniad.

Yn unol ag egwyddorion Deddf Galluedd Meddyliol 2005, rhaid tybio bod gan berson alluedd oni bai bod tystiolaeth i brofi fel arall. Rydyn ni’n cydnabod, hyd yn oed os nad oes gan ddioddefwr alluedd, neu os nad oes ganddo alluedd dros dro, y gall fod yn gymwys o hyd i roi tystiolaeth.

Byddwn yn:

  • Peidio â gwneud rhagdybiaethau am ddibynadwyedd neu hygrededd tyst hŷn, a herio eraill sy'n gwneud hynny

  • Sicrhau bod pobl hŷn yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael iddynt i roi eu tystiolaeth orau

  • Adolygu a monitro'r gefnogaeth sydd ei hangen, a all amrywio yn ôl iechyd ac amgylchiadau

  • Bod yn fwy tebygol o erlyn achosion lle mae'r drosedd wedi'i chymell gan unrhyw fath o ragfarn yn erbyn oedran person, neu dystiolaeth o gamfanteisio a thargedu ar sail oedran, lle bo digon o dystiolaeth i wneud hynny

  • Bod yn ymwybodol bod iaith yn bwysig a dim ond defnyddio'r term 'bregus' mewn perthynas â phobl hŷn pan fo'n briodol yng nghyd-destun y gyfraith a ffeithiau'r achos

  • Cydnabod y gall y gred sy'n seiliedig ar stereoteipiau bod person hŷn yn ‘fregus' fod yn ffactor cymhellol mewn troseddau sy’n cael eu cyflawni yn eu herbyn.

Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am ddibynadwyedd a hygrededd dioddefwyr a thystion, yn ogystal ag ystyriaethau o dan y Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005, yng nghanllawiau erlyn Gwasanaeth Erlyn y Goron ar Droseddau yn Erbyn Pobl Hŷn.

Riportio troseddau yn erbyn pobl hŷn

Mae’n bwysig bod pob trosedd yn erbyn pobl hŷn yn cael eu riportio i’r heddlu. Mae hefyd yn amhrisiadwy i'r heddlu gael gwybod am unrhyw ymddygiad o’r gorffennol neu batrymau ymddygiad sy'n ymwneud â'r un dioddefwr neu droseddwr, fel y gellir ystyried yr holl amgylchiadau'n briodol.

Cyfrifoldeb yr heddlu yw ymchwilio i’r digwyddiad ac i gasglu tystiolaeth ynghylch a oes trosedd wedi'i chyflawni. Lle bo trosedd wedi'i chyflawni, mae ymchwilydd yr heddlu yn gyfrifol am gasglu tystiolaeth o ansawdd uchel i gefnogi’r erlyniad. Bydd yr heddlu'n cydweithio'n agos â'r GIG, gwasanaethau cymdeithasol ac unrhyw awdurdod cyfrifol arall fel rhan o'u hymchwiliad.

Gall riportio trosedd, rhoi datganiad a chael eich galw i roi tystiolaeth yn y llys fod yn brofiad brawychus i unrhyw un. Rydyn ni’n cydnabod y gall pobl hŷn brofi rhwystrau penodol yn hynny o beth. Gall y rhain gynnwys problemau trafnidiaeth a symudedd, anhawster sefyll yn ystod achosion llys, anawsterau gweld a chlywed, ofn cael eu symud o'u cartref, amharodrwydd i droseddoli ymddygiad aelod o'r teulu, dibyniaeth ar eu cam-driniwr, y risg o fwy o unigrwydd a theimladau o gywilydd o fod wedi dioddef sgam.

Mae’r heddlu yn gyfrifol am ystyried pa fesurau cymorth y gallai fod eu hangen ar ddioddefwr neu dyst yn ystod y broses ymchwilio. Gwasanaeth Erlyn y Goron sy’n gyfrifol am ystyried y cymorth sydd ei angen ar ddioddefwr neu dyst yn ystod y broses erlyn. Ceir mwy o wybodaeth yn yr adran ‘cymorth’ isod.

Byddwn yn gweithio gydag asiantaethau eraill, er enghraifft, Y Safonau Masnach Cenedlaethol, sy'n awdurdod ymchwilio ac erlyn ac sy’n gallu dod ag achosion sifil ac erlyniadau troseddol gerbron.

Ymchwiliad troseddol

Byddwn yn chwilio am fwy o dystiolaeth wrth yr heddlu lle bo angen i amlygu ble gallai dioddefwyr fod wedi cael eu targedu am y rheswm eu bod yn fregus oherwydd eu hoedran neu’r canfyddiad eu bod yn fregus oherwydd eu hoedran. Byddwn yn cyflwyno'r dystiolaeth hon i'r llys fel ffactor gwaethygedig sy'n cynyddu difrifoldeb y drosedd. Mewn rhai achosion, efallai y byddwn yn cynghori'r heddlu i fynd ar drywydd ymholiadau rhesymol eraill. Gall hyn gynnwys edrych ar ddigwyddiadau a riportiwyd yn y gorffennol yn ymwneud â'r un dioddefwr, neu'r un person dan amheuaeth. Gall hefyd olygu cael gwybodaeth neu dystiolaeth gan aelodau'r teulu, neu asiantaethau fel Gwasanaethau Cymdeithasol neu’r GIG.

Penderfyniadau cyhuddo

Wrth wneud penderfyniadau cyhuddo mewn achosion o droseddau yn erbyn pobl hŷn, fel ym mhob achos, rhaid i erlynwyr gymhwyso’r Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron.

Mechnïaeth

Os oes risg wirioneddol o berygl, bygythiadau neu droseddau ailadroddus, byddwn yn ceisio amddiffyn dioddefwyr a thystion drwy wneud cais i'r llys i gadw'r diffynnydd yn y ddalfa lle bo'n briodol, neu drwy ofyn i'r llys osod amodau mechnïaeth lle bo modd (er enghraifft, peidio â mynd yn agos at unrhyw berson a enwir neu gadw draw o ardal benodol).

Erlyn a dedfrydu

Byddwn yn cyflwyno tystiolaeth o’r holl ffactorau gwaethygedig a allai gynyddu difrifoldeb y drosedd a’r ddedfryd. Bydd hyn yn cynnwys effaith y drosedd ar y dioddefwr, unrhyw niwed a achoswyd iddynt a lle maent wedi cael eu targedu am y rheswm eu bod yn fregus oherwydd eu hoedran neu’r canfyddiad eu bod yn fregus oherwydd eu hoedran.

Er nad oes deddfwriaeth droseddol benodol sy'n ymwneud â phobl hŷn fel dioddefwyr, mae canllawiau dedfrydu yn ei gwneud yn ofynnol i‘r llysoedd gynyddu'r ddedfryd am droseddau yn erbyn pobl hŷn sydd wedi’u targedu am y rheswm eu bod yn fregus neu’r canfyddiad eu bod yn fregus, gan gynnwys bod yn fregus oherwydd eu hoedran.

Byddwn yn tynnu sylw’r llys at Ddatganiad Personol Dioddefwyr, sy’n rhoi cyfle i ddioddefwyr ddisgrifio effeithiau’r drosedd arnynt, i fynegi eu pryderon ac i nodi os oes angen unrhyw gymorth arnynt ai peidio. Mae gwneud Datganiad Personol Dioddefwyr yn hollol ddewisol. Mae gan ddioddefwyr hawl i ddewis a hoffent ddarllen eu Datganiad Personol Dioddefwyr yn uchel mewn llys, a fyddent yn hoffi i rywun arall ei ddarllen yn uchel neu a ddylid ei chwarae (os yw’n cael ei recordio). Efallai y bydd Datganiad Effaith ar y Gymuned yn cael ei wneud hefyd i ddangos effaith troseddu ar y gymuned ehangach, gan gynnwys lle mae troseddwr wedi targedu nifer o unigolion am y rheswm eu bod yn fregus oherwydd eu hoedran neu’r canfyddiad eu bod yn fregus oherwydd eu hoedran.

Mae gennym gyfrifoldeb i gynorthwyo’r llys wrth ddedfrydu. Bydd erlynwyr yn gwneud cais am orchmynion ychwanegol neu ategol priodol, gan gynnwys gorchmynion atal ac iawndal am golled, anaf neu ddifrod. Byddwn wastad yn ystyried anghenion y dioddefwr, gan gynnwys y cwestiwn am eu diogelwch yn y dyfodol a'r angen i atal troseddu pellach.

Mae gan y llys ddyletswydd i roi rhesymau dros y ddedfryd mae'n ei rhoi, ac i egluro effaith y ddedfryd honno.

Tynnu’n ôl

Weithiau bydd dioddefwyr yn gofyn i’r heddlu beidio â bwrw ymlaen â'u hachos ymhellach neu’n gofyn am dynnu eu cwyn yn ôl. Gall fod nifer o resymau pam gallai hyn ddigwydd, ond nid yw'n golygu y bydd yr achos yn cael ei stopio’n awtomatig. Bydd angen i'r erlynydd ganfod pam y tynnwyd cefnogaeth i erlyniad yn ôl ac ystyried y risg o niwed pellach ac effaith naill ai bwrw ymlaen neu beidio â bwrw ymlaen, gan bwyso a mesur yr holl ffactorau perthnasol sy'n ymwneud â budd y cyhoedd. O ran cymhwyso’r Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron, byddwn yn erlyn pob achos lle ceir digon o dystiolaeth, lle mae gwneud hynny er budd y cyhoedd, a lle nad oes unrhyw ffactorau sy'n ein hatal rhag gwneud hynny.

Datblygiadau’r achos – gwybodaeth i ddioddefwyr

Gellir dod o hyd i wybodaeth ynglŷn â sut mae dioddefwyr troseddau yn cael gwybod am ddatblygiadau’r achos ar Adran Dioddefwyr a Thystion gwefan Gwasanaeth Erlyn y Goron.

Hawl Dioddefwyr i Adolygiad

Ar gyfer penderfyniadau cymwys, os yw dioddefwr yn gofyn am adolygiad o benderfyniad Gwasanaeth Erlyn y Goron i beidio â dwyn achos cyfreithiol, neu i ddod ag achos i ben, byddwn yn edrych eto ar y penderfyniad i weld a oedd hynny’n iawn. Am wybodaeth ar sut i ofyn am adolygiad o benderfyniad, darllenwch y Canllawiau ar Hawl Dioddefwyr i Gael Adolygiad.

Cymorth

Mae’n bwysig nodi bod y rhan fwyaf o droseddau yn erbyn pobl hŷn yn arwain at ble euog wrth ddiffynyddion, gan leihau'r angen i ddioddefwyr a thystion roi tystiolaeth yn y llys. Serch hynny, lle bo angen i ddioddefwyr a thystion roi tystiolaeth, rydyn ni wedi ymrwymo i’w cefnogi i roi eu tystiolaeth orau.

Rydyn ni’n cydnabod y gallai fod angen cymorth ar bobl hŷn i'w galluogi i roi tystiolaeth ac i sicrhau bod ganddynt yr un mynediad at gyfiawnder. Uwchlaw popeth, rydyn ni’n cydnabod bod rhaid trin pobl hŷn gydag urddas waeth beth fo'u hamgylchiadau.

Rydyn ni’n gwybod bod y rhai sydd wedi’u heffeithio gan droseddau yn erbyn pobl hŷn weithiau’n gyndyn neu’n methu â riportio’r digwyddiad heb gymorth. Hyd yn oed os nad oes angen cymorth, rydyn ni’n gwybod efallai na fydd rhai pobl hŷn yn riportio achosion i'r heddlu oherwydd eu bod yn ofni erledigaeth gyson, oherwydd bod y troseddwr yn ffrind neu'n aelod o'r teulu, oherwydd ofnau ynghylch parhau i fod yn ddibynnol ar y troseddwr neu’n cael eu symud o'u cartref ei hunain a'u rhoi mewn sefydliad neu gartref preswyl. Efallai y bydd pobl hŷn yn cael eu targedu oherwydd yr amgylchedd maen nhw’n byw ynddo, er enghraifft, mewn ysbyty, cartref gofal neu yn eu cartref eu hunain. Hyd yn oed os yw achosion yn cael eu riportio, efallai y bydd pobl hŷn yn gyndyn i roi tystiolaeth oherwydd eu bod yn ofni cael eu bygwth os caiff y troseddwr ei erlyn ac efallai y bydd angen cymorth arnynt i wneud hynny.

Gellir cefnogi dioddefwyr sy'n ‘fregus’ neu 'dan fygythiad' drwy geisiadau i'r llys am Fesurau Arbennig. Cyfres o ddarpariaethau yw Mesurau Arbennig sy’n helpu tystion sy’n ‘fregus’ neu wedi’u ‘bygwth’ i roi eu tystiolaeth orau yn y llys a helpu i leddfu rhywfaint o'r straen sy'n gysylltiedig â rhoi tystiolaeth. Gall mesurau arbennig gynnwys y defnydd o sgriniau yn y llys fel nad yw’r dioddefwr neu’r tyst yn gorfod gweld y diffynydd, neu roi tystiolaeth o lys barn ar wahân drwy ddolen fideo. Gall y mesurau hyn helpu i leihau straen a gorbryder. Mae cyfyngiadau adrodd awtomatig yn berthnasol i ddioddefwyr sydd wedi’u treisio a throseddau rhywiol difrifol eraill. Gall cyfyngiadau adrodd fod yn gymwys mewn amgylchiadau eraill hefyd, os bodlonir meini prawf penodol, i ddiogelu hunaniaeth y dioddefwr rhag cael sylw yn y cyfryngau.

Pan fydd tyst hŷn yn brin o alluedd i wneud penderfyniad mewn perthynas ag achos, byddwn yn gweithio gyda'i gynrychiolydd / chynrychiolydd penodedig ac yn unol ag egwyddorion Deddf Galluedd Meddyliol 2005. Lle bo hynny ar gael ac yn briodol, byddwn yn gweithio gydag Eiriolwyr Galluedd Meddyliol Annibynnol a benodwyd o dan y Ddeddf i gynorthwyo tystion hŷn i wneud penderfyniadau am roi tystiolaeth a pha gymorth y gallai fod ei angen arnynt er mwyn gwneud hynny.

O dan y Cod Ymarfer ar gyfer Dioddefwyr Troseddau, mae gan ddioddefwyr yr hawl i gael y wybodaeth ddiweddaraf am eu hachos ac i gael gwybod pan fydd penderfyniadau pwysig yn cael eu cymryd. Un o'r ffyrdd rydyn ni’n cynnal yr hawl hon yw drwy rhoi gwybod i ddioddefwyr am ein penderfyniad i atal neu newid cyhuddiad yn sylweddol drwy ein cynllun Cyfathrebu a Chydlynu â Dioddefwyr (VCL). Byddwn yn sicrhau bod ein deunydd cyfathrebu i ddioddefwyr yn briodol i'w hanghenion a'u bregusrwydd unigol. Lle bo'n briodol, bydd hyn yn ystyried unrhyw ffactorau sy'n gysylltiedig ag oedran fel iechyd, amhariad ar y synhwyrau, anghenion gwybyddol, anableddau, mynediad digidol neu ddibyniaeth ar eraill.

Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth yn yr adran Dioddefwyr a Thystion ar wefan Gwasanaeth Erlyn y Goron.

Yn ogystal, gall asiantaethau’r trydydd sector gynnig cymorth pwrpasol wedi'i deilwra ar gyfer pobl hŷn sydd wedi dioddef troseddau. Mae’r rhain yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, Age UK, Age Cymru a Hourglass.

Dyletswydd cydraddoldeb

Rydyn ni’n awdurdod cyhoeddus at ddibenion deddfwriaeth cydraddoldeb. Mae'r polisi hwn a'n canllawiau cyfreithiol cysylltiedig yn rhan allweddol o'n hymdrechion i fodloni ein rhwymedigaethau o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus i ddileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon ymhlith pobl oherwydd eu hoedran ac i hyrwyddo cydraddoldeb a chysylltiadau da.

Gweithio gyda rhanddeiliaid

Rydyn ni’n gweithio’n lleol ac yn genedlaethol gyda’r heddlu a phartneriaid eraill sydd â rôl wrth fynd i’r afael â throseddau yn erbyn pobl hŷn, yn ogystal ag unigolion, grwpiau cymunedol ac ysgolheigion sydd â phrofiad ac arbenigedd mewn perthynas â throseddu o'r fath. Mae hyn yn sicrhau ein bod yn gallu adnewyddu ein dealltwriaeth yn barhaus o natur troseddau yn erbyn pobl hŷn ac yn gallu gwella ein hymateb iddynt.

Monitro a gweithredu

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi ymrwymo i fonitro effaith y Canllawiau Polisi hyn. Rydyn ni hefyd wedi ymrwymo i fonitro a chyhoeddi data ar ein perfformiad ym mhob achos a nodwyd fel un sy'n ymwneud â throsedd yn erbyn person hŷn.

Byddwn hefyd yn derbyn adborth ar ein perfformiad drwy ein paneli lleol a chenedlaethol sy’n craffu ar achosion, penderfyniadau a pholisïau Gwasanaeth Erlyn y Goron.

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi ymrwymo i gadw ei gyhoeddiadau dan adolygiad a bydd y canllawiau polisi hyn a’r canllawiau erlyn atodol yn cael eu hadolygu yn unol â’r ymrwymiad hwn.

Dylid nodi mai dim ond gwaith y Gwasanaeth Erlyn y Goron y gall Gwasanaeth Erlyn y Goron ei fonitro.

Related Prosecution Guidance

Older People: Prosecuting Crimes against

updated: 30 Apr 2020; 8 Jul 2026
Fraud and economic crime Hate crime Victims, Witnesses and Community Impact

Related Pages

Hate crime