Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Menyw wedi'i dedfrydu am ddarpau gwybodaeth ffug ar ffurflen yr heddlu ar ôl gwrthdrawiad car

|News, Fraud and economic crime

Mae menyw a roddodd wybodaeth ffug ar ffurflen yr heddlu ar ôl gwrthdrawiad car wedi'i dedfrydu am wneud rhywbeth gan fwriadu gwyrdroi hynt cyfiawnder.

Danuta Czajk, 45, oedd y teithiwr mewn lorri gludo VW a wnaeth wrthdroi i gerbyd arall ar 10 Rhagfyr 2024. Roedd y Lorri gludo VW yn cael ei yrru gan ddyn. 

Fe wnaeth gyrrwr y cerbyd a darwyd gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru, a ddisgrifiodd yrrwr gwryw a theithiwr benyw y Lorri gludo VW gan ddarparu ffotograff o'r pâr i'r heddlu. Ar y pryd, roedd y gyrrwr gwryw anhysbys wedi gwrthod darparu ei fanylion i'r modurwr. Fe wnaeth archwiliad gan yr heddlu ddatgelu Czajk fel y gyrrwr a yswiriwyd ar y cerbyd.

Anfonwyd Rhybudd o Erlyniad Bwriadedig i Czajk o ystyried mai hi oedd yr unig bersol a yswiriwyd i yrru'r Lorri gludo VW. Fe wnaeth Czajk lofnodi a dychwelyd y ffurflen gan ddweud mai hi oedd y gyrrwr ar adeg y gwrthdrawiad. 

Cywelwyd Czajk gan yr heddlu ac atebodd "dim sylw" i'r cwestiynau. Fw wnaeth y swyddog ei chydnabod fel y fenyw yn y ffotograff, ac fel teithiwr y car - nid y gyrrwr - fel yn nhystiolaeth y tystion.

Pan ddaeth yr achos gerbron Llys y Goron Yr Wyddgrug, fe wnaeth Czajk bledio'n euog i'r drosedd o wneud rhywbeth gan fwriadu gwyrdroi hynt cyfiawnder.

Dyweddd Deanne McGinty: "Fe wnaeth Czajk lofnodi ffurflen swyddogol i ddweud mai hi oedd gyrrwr cerbyd pan nad oedd hyn yn wir.

"Gall weithredoeddd fel hyn arwain at danseilio'r System Gyfiawnder Troseddol ac mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn eu cymryd o ddifrif iawn.

"Mae'r achos hwn yn atgoffa perchnogion a gyrwyr cerbydau am bwysigrwydd darparu gwybodaeth gywir pan ofynnir am wneud hynny gan yr heddlu neu awdurdodau eraill."

Dedfrydwyd Danuta Czajk yn Llys y Goron Yr Wyddgrug i wyth mis o garchar, wedi'i ohirio am 18 mis, a gorchmynnwyd iddo gwblhau 15 diwrnod o Ofyniad Gweithgareddau Adsefydlu a thri mis o fonitro llwybrau.

Nodiadau i olygyddion

  • Mae Danuta Czajk (Dyddiad Geni: 6/11/1979) yn dod o Wrecsam
  • Digwyddodd y dedfrydu ar 4 Medi 2025
  • Mae Deanne McGinty yn Erlynydd Uwch y Goron yn CPS Cymru-Wales. 

Further reading

Scroll to top