Skip to main content

Gweithiwr gofal iechyd wedi'i garcharu am ymosod yn rhywiol ar gleifion

Mae gweithiwr gofal iechyd a ymosododd yn rhywiol ar ddau glaf yn ystod archwiliadau meddygol wedi cael ei ddedfrydu i garchar yn Llys y Goron Merthyr Tudful.

Ymosododd Ieuan Crump, 27 oed, ar y menywod ar achlysuron gwahanol pan oedd yn gweithio yn Ysbyty'r Faenor yng Nghwmbrân.  Digwyddodd yr ymosodiadau pan oedd Crump yn cynnal sganiau ac archwiliadau fel rhan o'i swydd.

Gwadodd Crump yr honiadau ond, ar ôl clywed yr holl dystiolaeth, cafodd y rheithgor ef yn euog o naw trosedd o ymosodiad rhywiol.

Dywedodd Michael Jenkin o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Fe wnaeth Ieuan Crump gamfanteisio ar y pŵer oedd ganddo dros ddwy fenyw pan oeddent ar eu mwyaf agored i niwed, er ei foddhad rhywiol ei hun.

“Roedd ei weithredoedd bwriadol a phwrpasol yn achos o dor-ymddiriedaeth eithafol.

“Roedd dewrder y ddwy fenyw wrth roi eu tystiolaeth i'r rheithgor wedi galluogi Gwasanaeth Erlyn y Goron i gyflwyno achos cryf, a arweiniodd at yr euogfarnau hyn, a diolchwn iddynt am eu cymorth.”

Dedfrydwyd Ieuan Crump ar 18 Rhagfyr 2025 i naw mlynedd o garchar a gorchmynnwyd iddo gofrestru fel troseddwr rhyw. Gosodwyd Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol hefyd ynghyd â dau orchymyn atal amhenodol.

Nodiadau i olygyddion

  • Daw Ieuan Crump (dyddiad geni: 26/1/1998) o Gilfach, Caerffili
  • Yn dilyn treial, fe'i cafwyd yn euog o 6 ymosodiad rhywiol, yn groes i adran 3 Deddf Troseddau Rhywiol 2003; a 3 ymosodiad drwy dreiddio, yn groes i adran 2 Deddf Troseddau Rhywiol 2003
  • Digwyddodd y troseddau ar 10 Awst 2021 a 13 Awst 2021
  • Mae Michael Jenkin yn Uwch Erlynydd y Goron yn nhîm Trais a Throseddau Rhywiol Difrifol (RASSO) Gwasanaeth Erlyn y Goron Cymru
  • Darllenwch am ein dull gweithredu wedi'i ddiweddaru ar gyfer erlyn, stelcio, seiberdroseddu, treisio a throseddau rhywiol difrifol, a cham-drin domestig yn y fersiwn lawn o strategaeth Trais yn erbyn Menywod a Merched Gwasanaeth Erlyn y Goron 2025-2030, ar ein gwefan: Strategaeth Trais yn erbyn Menywod a Merched 2025-2030 | Gwasanaeth Erlyn y Goron
Back to CPS News centre