Skip to main content

Dedfrydu dyn am ymosodiad a chamdriniaeth gwrth-Semitaidd

Mae dyn o’r Rhondda a ymosododd ar ddyn arall a defnyddio iaith wrth-Semitaidd tuag ato wedi cael ei ddedfrydu yn Llys Ynadon Merthyr Tudful.

Cerddodd Phillip Lawless, 48 oed, heibio dyn a oedd yn mynd â siopa i’w dŷ ar 29 Medi 2025. Clywodd y dyn Lawless yn gwneud sylwadau gwrth-Semitaidd sarhaus tuag ato.

Ychydig yn ddiweddarach, cerddodd Lawless heibio’r dyn am yr eildro ac unwaith eto defnyddiodd gamdriniaeth gwrth-Semitaidd tuag ato. Ar yr achlysur hwn, fe boerodd Lawless yng ngwyneb y dyn. 

Dywedodd Rebecca Foster o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Mae troseddau casineb yn cael effaith ddinistriol, nid yn unig ar ddioddefwyr unigol ond hefyd ar y cymunedau ehangach y mae’n eu targedu.

“Does dim lle i wrth-Semitiaeth nac unrhyw fath arall o gasineb yn ein cymdeithas, a bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn erlyn y troseddau hyn yn ddi-oed, pan fydd y prawf cyfreithiol yn cael ei fodloni.

“Rydym yn gweithio’n agos gyda’r heddlu a’n partneriaid cyfiawnder troseddol i wneud yn siŵr bod troseddwyr yn cael eu dwyn gerbron y llys a bod y llysoedd yn ymwybodol o unrhyw elyniaeth a ddangosir fel rhan o drosedd.”

Cafodd Lawless ei ddedfrydu i 18 wythnos i garchar wedi’i gohirio am flwyddyn, a oedd yn cynnwys cynnydd yn y ddedfryd oherwydd bod y troseddau’n droseddau casineb. Gosodwyd gorchymyn atal hefyd am ddwy flynedd.

Nodiadau i olygyddion

  • Cynnydd mewn dedfrydu troseddau casineb: Pan brofir bod unrhyw drosedd wedi cynnwys gelyniaeth tuag at nodwedd warchodedig, rhaid i’r llys drin hyn fel rhywbeth mwy difrifol. Mae’r trosedd ei hun yn aros yr un fath, ond mae’n ofynnol i farnwyr gynyddu’r ddedfryd i adlewyrchu’r niwed a achosir gan gasineb
  • Mae Phillip Lawless (dyddiad geni: 29/5/1978) o Tylorstown, Rhondda
  • Plediodd yn euog i ymosodiad cyffredin wedi’i waethygu gan ffactorau crefydd drwy ymosod yn groes i adran 29(1)(c) a (3) o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 ac aflonyddwch, braw neu drallod bwriadol a waethygir gan grefydd yn groes i adran 31(1)(b) a (4) o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998
  • Mae Rebecca Foster yn Uwch Erlynydd Rhanbarth y Goron yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) Cymru. 
Back to CPS News centre

Related Pages

Hate crime

Related Publications

Public statement on prosecuting racist and religious hate crime

Hate crime Policy and Guidance