Dedfrydu dyn am sawl trosedd casineb
Mae dyn wedi cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd am nifer o droseddau ac ymosodiadau casineb.
Plediodd Rasheed Jama, 20, yn euog i bedwar trosedd o 20 Mehefin 2025 ymlaen, a oedd yn cynnwys ymosodiad wedi’i waethygu gan ffactorau hiliol ar heddwas a gafodd ei gam-drin yn wrth-Semitaidd hefyd.
Cafodd Jama hefyd ei ddedfrydu am dri throsedd o 29 Awst 2025 ymlaen, a oedd yn cynnwys ymosodiad wedi’i waethygu gan ffactorau hiliol, a throsedd o aflonyddu wedi’i waethygu gan ffactorau crefyddol lle defnyddiwyd iaith wrth-Semitaidd eto tuag at swyddog.
Dedfrydwyd Jama i gyfanswm o 18 mis o garchar.
Dywedodd Paul Jenkins o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Mae troseddau casineb, o unrhyw fath, yn ffiaidd a does dim lle iddyn nhw yn ein cymdeithas.
Ni fydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn oedi cyn erlyn y troseddau hyn pa bryd bynnag y bodlonir y prawf cyfreithiol.
“Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’r heddlu a’n partneriaid cyfiawnder troseddol i wneud yn siŵr bod troseddwyr yn cael eu dwyn gerbron y llys a bod y llysoedd yn ymwybodol o unrhyw elyniaeth a ddangosir fel rhan o drosedd.”
Nodiadau i olygyddion
- Daw Rasheed Jama (Dyddiad Geni: 10/5/2006) o Grangetown, Caerdydd
- Plediodd yn euog i ymosodiad wedi’i waethygu gan ffactorau crefyddol; 4 x ymosodiad ar weithiwr brys; clwyfo; bod ym meddiant arf ymosodol; ymosod wedi’i waethygu gan ffactorau crefyddol drwy guro; aflonyddu wedi’i waethygu gan ffactorau crefyddol
- Cafodd ei ddedfrydu ar 27 Mai 2026
- Mae Paul Jenkins yn Uwch Erlynydd Rhanbarth y Goron yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) Cymru.