Skip to main content

Sut mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn deall ac yn mynd i’r afael ag anghymesuredd hiliol yn ein gwaith

Saif Gwasanaeth Erlyn y Goron wrth galon y system cyfiawnder troseddol. Mae ein herlynwyr yn penderfynu a ddylid cyhuddo rhywun o’r troseddau mwyaf difrifol. Mae’r penderfyniadau a wnawn yn cael effaith ddofn ar fywydau dioddefwyr a diffynyddion ac mae’n hanfodol ein bod yn glynu wrth y safonau atebolrwydd a thryloywder uchaf.

Dyna pam y gwnaethom gynnal rhaglen ymchwil gynhwysfawr i graffu ar ein gwaith ein hunain a sicrhau ein bod yn cyrraedd y safonau uchaf.

Drwy gyfrwng yr ymchwil hwn, rydym wedi canfod tystiolaeth o anghymesuredd yn ein penderfyniadau. Rydym hefyd wedi nodi ffyrdd y gallwn roi sylw i wraidd y broblem hon - fel a nodir yn ein cynllun gweithredu manwl. Mae canfyddiadau ein hymchwil wedi bod wrth wraidd y gwaith o greu’r cynllun gweithredu - gan sicrhau ein bod yn gallu gwneud newid ystyrlon a fydd yn targedu unrhyw anghymesuredd yn effeithiol ac yn gadarn.

Sut mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn deall ac yn mynd i'r afael ag anghymesuredd hiliol yn ein gwaith - ein Cynllun Gweithredu

Darllenwch ein Cynllun Gweithredu