Sut mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn deall ac yn mynd i'r afael ag anghymesuredd hiliol yn ein gwaith - ein Cynllun Gweithredu
Cyflwyniad i’r Cynllun Gweithredu
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wrth galon y system cyfiawnder troseddol, ein rôl ni yw penderfynu a ddylid cyhuddo rhywun o’r troseddau mwyaf difrifol. Mae’r penderfyniadau a wnawn yn cael effaith ddofn ar fywydau dioddefwyr a diffynyddion, ac felly mae’n hanfodol bod tegwch ac annibyniaeth yn gonglfeini i bwy ydym ni a sut rydym ni’n gwneud y penderfyniadau hyn.
Cydnabyddir yn eang y ceir cynrychiolaeth anghymesur o leiafrifoedd ethnig ar draws y system cyfiawnder troseddol gyfan. Mae ymchwil cynhwysfawr wedi dweud wrthym fod y gwahaniaeth hwn yn cael ei adlewyrchu yn ein cyfraddau cyhuddo - gyda phobl o leiafrifoedd ethnig sydd dan amheuaeth yn fwy tebygol o gael eu cyhuddo o drosedd tebyg na phobl wyn Prydeinig sydd dan amheuaeth.
Rhaid inni wneud yn well. Rhaid inni beidio â bod yn hunanfodlon – byddwn yn cymryd camau pendant i fynd i’r afael ag anghymesuredd a sicrhau newid.
Felly, rydym wedi creu cynllun gweithredu sy’n cyflwyno rhaglen waith gynhwysfawr i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol anghymesuredd a gwreiddio newid ystyrlon ar draws Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Cafodd y cynllun gweithredu hwn ei greu ar y cyd â chydweithwyr a phartneriaid allanol. At hynny, mae’r camau rydym yn eu cymryd wedi cael eu llywio gan ymchwil cynhwysfawr a gwaith craffu annibynnol. Drwy weithredu ar sail y dystiolaeth, gallwn fod yn hyderus y bydd ein gwaith yn arwain at newid cynaliadwy.
Mae gan bob un rhan o Wasanaeth Erlyn y Goron rôl i’w chwarae, ac mae’r cynllun gweithredu yn disgrifio dull sy’n cael ei ddefnyddio ar draws y sefydliad. Bydd y cynllun hwn yn ein galluogi i feithrin diwylliant ac arferion gwrth-hiliol, gan ddileu rhagfarn hiliol yn ein penderfyniadau a gweithio gyda phartneriaid cyfiawnder troseddol eraill i roi sylw i anghymesuredd hiliol ar draws y system.
Dim ond dechrau ein siwrnai yw’r cynllun gweithredu hwn. Byddwn yn dal ati i weithio gyda’n staff, ein cymunedau a’n partneriaid i adeiladu ar ein cynnydd, ac i ddal i graffu arnom ein hunain o safbwynt y mater pwysig hwn.
Our Overarching Aim
The CPS is an anti-racist organisation, eliminating racial bias in our decision-making and working with other criminal justice system agencies to address race disproportionality across the system and build public confidence.
Yr hyn yr ydym am ei gyflawni
Sut y byddwn yn cyflawni'r nodau hyn
Cynllun Gweithredu - llwytho i lawr
Gallwch lawrlwytho copi PDF o'n Cynllun Gweithredu yma. Efallai na fydd y ddogfen hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.