Wyth dyn wedi’u cyhuddo o droseddau treisio a cham-fanteisio’n rhywiol ar blant yn Ne Cymru
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi awdurdodi Heddlu Gwent i gyhuddo wyth o ddynion mewn cysylltiad â cham-fanteisio'n rhywiol ar blant.
Mae Shafaq Mohammed, 58, Syed Mohammed Ashan Taqvi, 65, Mohammed Sheikh Abdul Hannan, 54, Kevin Lawrence, 54, Sheikh Mohammed Tahir Ullah, 73, Aminur Rahman Chowdhury, 58, Shakeel Babur, 58, Murad Ali, 57, wedi cael eu cyhuddo o droseddau cam-fanteisio’n rhywiol a threisio plant yn rhan o grŵp grŵmio a oedd yn gweithredu yn Ne Cymru yn ystod y 1980au a'r 1990au.
Dywedodd Jenny Hopkins, Prif Erlynydd y Goron ar gyfer Gwasanaeth Erlyn y Goron:
“Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi penderfynu erlyn wyth dyn gyda chyhuddiadau o dreisio a cham-drin plant yn rhywiol mewn perthynas â throseddu honedig rhwng 1985 a 1996 – yn dilyn ymchwiliad Heddlu Gwent i weithgarwch gangiau grŵmio cyfundrefnol yn Ne Cymru.
“Mae ein herlynwyr wedi gweithio i sefydlu bod yna ddigon o dystiolaeth i ddod â’r achos i’r llys a’i fod er budd y cyhoedd i fynd ar drywydd achos troseddol.
“Rydym wedi gweithio’n agos gyda Heddlu Gwent wrth iddo gynnal ei ymchwiliad.
“Rydym yn atgoffa pawb dan sylw bod achos troseddol yn erbyn y diffynyddion hyn yn weithredol a bod ganddyn nhw yr hawl i dreial teg.
“Mae’n hanfodol na ddylai fod unrhyw adrodd, sylwebaeth na rannu gwybodaeth ar-lein a allai ragfarnu’r achosion hyn mewn unrhyw ffordd.”
Dywedodd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd Andrew Tuck o Heddlu Gwent:
“Mae Ymgyrch Oak yn ymchwiliad cymhleth a hirdymor i gam-fanteisio’n rhywiol ar blant ar sail grŵp yn Ne Cymru. Trwy ein partneriaeth â Gwasanaeth Erlyn y Goron, rydym nawr wedi cyrraedd y cam arwyddocaol hwn lle mae wyth dyn wedi cael eu cyhuddo.
“Mae cefnogi dioddefwyr wedi bod wrth wraidd ein hymchwiliad. Ochr yn ochr ag asiantaethau arbenigol, rydym yn parhau i roi cymorth iddynt.
“Rwy’n gwybod bod ymchwiliadau o’r natur hon yn debygol o achosi pryder yn ein cymunedau ond mae’n hanfodol i’r dioddefwyr yn yr achos hwn ac i uniondeb yr ymchwiliad nad oes unrhyw beth a allai effeithio ar yr achosion llys yn cael ei bostio ar y cyfryngau cymdeithasol.
“Bydd unrhyw un sy’n riportio cam-drin plant yn cael ei gymryd o ddifrif, a byddem yn annog unrhyw un sydd wedi dioddef camdriniaeth neu sydd â phryderon am rywun a allai fod yn dioddef i ddod i siarad â ni. Byddwn yn gwrando arnoch ac yn ymchwilio i bob trosedd, a byddwn hefyd yn sicrhau eich bod yn cael unrhyw gymorth neu gefnogaeth sydd ei hangen arnoch.”
Notes to editors
Nodiadau i olygyddion:
Shafaq Mohammed, dyddiad geni: 08.09.1967 -
• 11 cyhuddiad o gam-fanteisio'n rhywiol ar blant gan gynnwys troseddau treisio
Syed Mohammed Ashan Taqvi, dyddiad geni 25.10.1960 -
• Tri chyhuddiad o dreisio
Mohammed Sheikh Abdul Hannan, dyddiad geni: 10.10.1971 -
• Wyth cyhuddiad o gam-fanteisio’n rhywiol ar blant gan gynnwys troseddau treisio
Kevin Lawrence, dyddiad geni: 29.02.1972 -
• Tri chyhuddiad o gam-fanteisio'n rhywiol ar blant gan gynnwys troseddau treisio
Sheikh Mohammed Tahir Ullah, dyddiad geni: 20.02.1953 -
• Dau gyhuddiad o dreisio
Aminur Rahman Chowdhury, dyddiad geni: 26.06.1968 -
• Un cyhuddiad o dreisio
Shakeel Babur, dyddiad geni: 15.05.1968 -
• Pedwar cyhuddiad o ymosodiad anweddus
Murad Ali, dyddiad geni: 30.06.1969 -
• Dau gyhuddiad o dreisio
Mae'r achosion yn erbyn y diffynyddion hyn yn weithredol ac mae ganddynt hawl i dreial teg.
Mae’n hanfodol na ddylai fod unrhyw adrodd, sylwebaeth na rannu gwybodaeth ar-lein a allai ragfarnu’r achosion hyn mewn unrhyw ffordd.