English

Gwnewch gais i ddod yn Trais Rhywiol a Throseddau Rhywiol Difrifol Uwch Erlynydd y Goron

Ymunwch â Gwasanaeth Erlyn y Goron fel Uwch Erlynydd y Goron yn ein tîm Trais Rhywiol a Throseddau Rhywiol Difrifol, a chael dyfodol sy’n bwysig.


Ceisiadau ar agor tan 29 Mawrth 2026.

Pam Gwasanaeth Erlyn y Goron?

Rydym yn amddiffyn y cyhoedd drwy erlyn y person cywir am y drosedd gywir. Rydym yn annibynnol ac yn gwneud penderfyniadau’n deg ac yn wrthrychol drwy ddilyn ein Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron.

Adolygu tystiolaeth a gwneud penderfyniadau erlyn mewn achosion cymhleth a sensitif

Cynghori’r heddlu ac ymchwilwyr eraill ar waith achos

Mae swyddi gwag ledled Cymru a Lloegr

Manteisiwch ar ein rhaglen hyfforddi arbenigol

25 diwrnod o wyliau bob blwyddyn, 30 diwrnod ar ôl 5 mlynedd

Pensiwn cyfrannol cystadleuol o hyd at 28.9%

Ymunwch â ni fel Trais Rhywiol a Throseddau Rhywiol Difrifol Uwch Erlynydd y Goron, a manteisiwch ar ein cynllun cynefino a hyfforddi cynhwysfawr, cymorth llesiant, a chyfleoedd i ddysgu a datblygu yn eich gyrfa. Rydych chi’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymdeithas, ac yn ein helpu ni i sicrhau cyfiawnder yn rhai o’r achosion troseddol mwyaf sensitif a chymhleth. Os ydych chi’n gyfreithiwr sydd wedi’i hyfforddi’n dda ac sydd â phrofiad o gyfraith droseddol, dyma gyfle i chi.

Cwestiynau? Ymunwch â’n sgyrsiau byw ar y we i gael rhagor o wybodaeth.
18
Mawrth 1-1.45pm: https://meetandengage.com/amlb37jxo
26
Mawrth 1-1.45pm: https://meetandengage.com/amlb3ar3s

‘Mae cefnogi dioddefwyr drwy’r broses cyfiawnder troseddol yn swydd sy’n rhoi llawer o foddhad. Rydych chi’n gweld yr effaith mae eich gwaith yn ei chael, ac mae hynny’n gwneud y cyfan yn werth chweil.’ - Danielle, Uwch Erlynydd y Goron

‘P’un a ydych chi wedi gweithio ar achosion RASSO o’r blaen ai peidio, mae rhaglen gynefino dda iawn ar gael. Mae llawer o bobl brofiadol y gallwch ddysgu oddi wrthynt.’ - David, Uwch Erlynydd y Goron

Pam y dylech chi ein hystyried ni

Cewch foddhad yn eich swydd wrth weithio i Wasanaeth Erlyn y Goron. Mae ein pobl yn ganolog i bopeth a wnawn – rydym ni’n gofalu am eich llesiant ac yn rhoi cyfleoedd i chi gael dysgu a datblygu. Rydym ni hefyd wedi cael ein dewis yn un o’r cyflogwyr mwyaf deniadol gan weithwyr proffesiynol a myfyrwyr ym maes y gyfraith, yn arolwg diweddaraf Universum sy’n cael ei gydnabod yn fyd-eang.

Universum survey results emblem. Most attractive employers by professionals 2024.

Ymunwch â ni fel Trais Rhywiol a Throseddau Rhywiol Difrifol Uwch Erlynydd y Goron RASSO, a chael swydd sydd â phwrpas.  

Cadwch y wybodaeth ddiweddaraf am ein swyddi

Gallwch gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr i gael gwybod mwy am ein swyddi gwag gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron.