Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Strategaeth Adfocatiaeth CPS 2025

|Publication

Tabl Cynnwys

Rhagair

Mae adfocatiaeth CPS - ar lafar ac yn ysgrifenedig - yn dod â'r gyfraith, a'n rôl fel erlynwyr, yn fyw.  Dyma'r cyfrwng yr ydym yn esbonio ein penderfyniadau, yn cyflwyno ein hachosion, ac yn cefnogi tystion trwyddo i roi eu tystiolaeth orau ym mhob gwrandawiad ac ar draws pob llys.

Adfocadau yw llais y CPS. Mae eu harweinyddiaeth cyfreithiol yn pennu sut y cynhelir gwrandawiadau ond hefyd beth sy'n digwydd rhwng gwrandawiadau, sut mae ein sefydliad yn gweithredu, sut y symudir achosion ymlaen a sut rydym yn ymgysylltu â'n partneriaid i godi hyder ymhlith y cyhoedd.

Dyma pam rydym yn dal wedi ein hymrwymo i gynnal ein gallu eiriolaeth ac yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu a chynyddu yn llysoedd yr ynadon a'r llysoedd uwch.

Rydym wedi cyflawni llawer dros y pum mlynedd diwethaf.  Rydym wedi recriwtio llawer o bobl i rolau eirioli mewnol, ynghyd â hyfforddi a datblygu gwell.  Ar yr un pryd, rydym wedi cryfhau'r perthnasoedd sydd gennym â darparwyr a rhanddeiliaid Adfocatiaeth allanol.

Mae ein gweledigaeth ar gyfer 2025 yn adeiladu ar y cynnydd hwnnw, gan ddarparu fframwaith ar gyfer llwyddiant parhaus. Yn sail i hynny mae'r egwyddor o  gyfarwyddo'r adfocad cywir ar gyfer yr achos cywir ac mae'n nodi gwerth a phwysigrwydd cael carfan dalentog, addasadwy ac amrywiol o adfocadau sy'n cyflenwi cyfiawnder i'r cyhoedd rydym yn eu gwasanaethu trwy erlyniadau teg ac annibynnol.

Max Hill CB
Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus


Ein hymagwedd a nodau strategol

  • Mae ein pobl wrth galon popeth a wnawn.
  • Mae ein gallu digidol yn galluogi ein llwyddiant.
  • Trwy ein partneriaethau strategol, rydym yn llunio fframwaith cyfreithiol, polisi a gweithredu sy'n hwyluso ein rôl graidd: erlyniadau annibynnol a theg.
  • Mae safonau uchel o ansawdd gwaith achos yn hanfodol i gyflenwi cyfiawnder.
  • Rydym yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y system cyfiawnder troseddol i sicrhau bod y cyhoedd yn ddiogelach.

Mae pawb yn y CPS yn chwarae eu rhan wrth gyflenwi pob nod strategol.  Mae popeth a wnawn yn cyfrannu at ein nod sylfaenol o adeiladu hyder ymhlith y cyhoedd trwy gyflenwi gwasanaethau sydd yn deg ac yn cael eu deall gan bob cymuned.

Ein Pobl
Mae cymorth i lwyddiant a lles ein pobl yn galluogi pawb i ffynnu.

Gallu Digidol
Mae ein buddsoddiad mewn gallu digidol yn ein helpu i addasu i natur troseddu sy'n newid yn gyflym a gwella'r ffordd y cyflawnir cyfiawnder.

Partneriaethau Strategol
Mae'r CPS yn llais blaengar mewn strategaethau traws-lywodraethol a chydweithredu rhyngwladol i drawsnewid y system cyfiawnder troseddol.

Ansawdd Gwaith Achos
Mae arbenigedd cyfreithiol, ansawdd gwaith achos a chydweithredu'r CPS ar draws y system cyfiawnder troseddol yn cadw'r cyhoedd yn ddiogelach.

Hyder y Cyhoedd
Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i wasanaethu dioddefwyr a thystion a chynnal hawliau diffynyddion mewn ffordd sydd yn deg ac yn cael ei deall gan bob cymuned.


Cyflwyniad

Mae adfocatiaeth yn allweddol i gyflawni nodau strategol ein sefydliad.

Fe'i cyflenwir - ar draws pob lleoliad llys - trwy gyfuniad o'n hadfocadau mewnol ein hunain, ac adfocadau allanol, megis erlynwyr asiant neu aelodau'r Bar hunan-gyflogedig, yn cynrychioli'r Goron.

Hefyd mae ein cydweithwyr ym maes cyflenwi gweithredol, sy'n darparu'r llwyfan ar gyfer adfocatiaeth effeithiol, yn allweddol i lwyddiant ein hadfocadau.

Mae'r strategaeth hon yn adeiladu ar CPS 2025, gan nodi bod pawb yn y CPS yn chwarae eu rhan wrth gyflenwi pob nod strategol. Mae'n cymryd i gyfrif ein heriau uniongyrchol, a sut rydym am gyflenwi a chynnal ein gallu adfocatiaeth dros y pum mlynedd nesaf. Mae'n disgrifio beth rydym yn ei ddisgwyl gan ein hadfocadau a sut y byddwn yn eu cefnogi i ddatblygu'r arbenigedd a'r ymddygiadau sydd eu hangen i fod yn eithriadol.

Mae'n cefnogi Ardaloedd lleol ac Is-adrannau Gwaith Achos wrth ddarparu gwasanaethau adfocatiaeth wydn o ansawdd uchel, yn unol â'r angen busnes, a mewn ymateb i gyfleoedd ar gyfer twf. Cefnogir y strategaeth gan gynllun cyflenwi cenedlaethol.   

Sue Hemming, Cyfarwyddwraig Gwasanaethau Cyfreithiol | Greg McGill, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol | Claire Lindley, CCP 2025 Arweinydd y Strategaeth Adfocatiaeth


Ein Pobl

Nod:

Caiff ein hadfocadau eu cefnogi i gyflenwi adfocatiaeth o ansawdd uchel - gan weithio ac arwain wrth gofio ein gwerthoedd.

Canlyniadau:

  • Rolau adfocatiaeth mewnol - o Erlynydd Cyswllt i Brif Adfocad y Goron - ac mae llwybrau i symud ymlaen yn glir, ac yn gydnaws â rolau adfocatiaeth allanol, lle mae'n briodol
  • Mae adfocadau talentog sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, yn cael eu denu a'u cadw ar bob lefel yn y llysoedd is ac uwch, trwy gyfuniad o fesurau, gan gynnwys Llwybr Adfocad y Goron a chymorth parhaol ar gyfer prentisiaethau Cyfreithwyr
  • Mae gan ein hadfocadau yn llysoedd yr ynadon a Llys y Goron yr offer a'r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo
  • Mae ein holl erlynwyr mewnol wedi'u hyfforddi'n dda ac yn addasadwy, gyda mynediad parhaus i hyfforddiant a dysgu adfocatiaeth i gefnogi pob agwedd ar eu datblygiad, gan gynnwys ymagwedd newydd at ddatblygu ein hadfocadau uwch
  • Cefnogir rhannu syniadau ac arferion gorau ar gyfer adfocatiaeth ar draws y sefydliad, gan gynnwys trwy gynadleddau adfocatiaeth blynyddol

Gallu Digidol

Nod:

Byddwn yn harneisio technoleg newydd fel ei bod yn hysbysu ac yn cefnogi sut rydym yn cyflawni adfocatiaeth.

Canlyniadau:

  • Mae offer digidol yn gwella'r ffordd rydym yn cyflwyno tystiolaeth ac yn esbonio'r achos i'r llys 
  • Rydym yn erlyn ac yn cynyddu achosion yn y llys yn hyderus - gan gyfuno adfocatiaeth o bell ac yn bersonol, er mwyn sicrhau yr ymdrinir ag achosion cyn gynted â phosibl, yn unol â buddiannau cyfiawnder
  • Rydym yn defnyddio systemau clyfar i sicrhau bod ein hadfocad dewisol yn cyd-fynd â'n briff a'n hegwyddorion adleoli
  • Mae proses y Panel Adfocadau CPS yn symud ar-lein ar gyfer pob cyfranogwr
  • Cyflwynir technoleg newydd i gefnogi ein swyddogaeth glercio ac olrhain dyrannu achosion

Partneriaeth Strategol

Nod:

Gan weithio'n gydweithredol, byddwn yn cyflenwi adfocatiaeth sy'n diwallu anghenion y CJS modern ac yn hwyluso ein rôl graidd: erlyniadau teg ac annibynnol.

Canlyniadau:

  • Cyflenwir cyfiawnder yn effeithiol, yn arloesol, ac yn ddiogel, mewn cydweithrediad â'r farnwriaeth, y Bar, Cymdeithas y Gyfraith a rhanddeilaid CJS eraill
  • Mae ein Panel Adfocadau'n cynnwys carfan brofiadol, medrus, ac amrywiol o erlynwyr allanol, a mae'n cynnig cyfleoedd mwy i gynyddu
  • Mae cynlluniau ffioedd CPS ar gyfer adfocadau allanol yn cael eu hadolygu'n rheolaidd
  • Mae ymgysylltu'n effeithiol â'n partneriaid allanol yn sicrhau bod ein hadfocatiaeth bob amser o'r ansawdd uchaf ac y rhoddir mwy o flaenoriaeth i faterion megis amrywiaeth
  • Cyhoeddir Datganiad Amrywiaeth a Chynhwysiant CPS ar gyfer y Bar

Ansawdd Gwaith Achos

Nod:

Bydd yr adfocad cywir ar gyfer yr achos yn arwain o'r rheng flaen - gan wneud gwahaniaeth positif ym mhob gwrandawiad er mwyn symud achosion ymlaen, gan esbonio penderfyniadau ac yn cydweithio ag eraill i wella ansawdd ein gwaith achos.

Canlyniadau:

  • Mae cadw at egwyddorion briffio'n sicrhau y cyfarwyddir yr adfocad cywir ar gyfer yr achos ar bob achlysur
  • Defnyddir economi cymysg o adfocadau mewnol ac allanol, gan fodloni ein hanghenion ac yn cefnogi hirhoedledd wrth ddarparu gwasanaethau adfocatiaeth o ansawdd uchel
  • Mae ein hadfocadau'n derbyn cyfarwyddiadau manwl a phwrpasol ym mhob achos, gan amlygu materion perthnasol ac yn amlinellu penderfyniadau allweddol ynghylch gwaith achos
  • Mae ein hadfocadau'n ychwanegu gwerth, gan gydymffurfio â disgwyliadau a gofynion CPS i gynyddu achosion yn benderfynol ym mhob gwrandawiad
  • Mae ein hadfocadau'n darparu cyngor ysgrifenedig amserol, manwl a chlir ar dystiolaeth a/neu haeddiant apeliadau
  • Cyflawnir safonau uchel o adfocatiaeth ar draws yr holl lysoedd ac ym mhob achos

Hyder y Cyhoedd

Nod:

Bydd ein hadfocadau'n erlyn mewn ffordd sydd yn sicrhau cyfiawnder ac yn cefnogi dioddefwyr, tystion, yn cynnal hawliau diffynyddion, a sydd yn deg ac yn cael ei deall gan bob cymuned.

Canlyniadau:

  • Mae tystion yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth i roi eu tystiolaeth orau, yn cael eu cynorthwyo'n gywir ac yn gwybod mwy am yr hyn i'w ddisgwyl cyn iddynt roi eu tystiolaeth
  • Mae ein hadfocadau'n cyfathrebu'n glir ac yn effeithiol gyda dioddefwyr a thystion, yn y llys ac y tu allan iddo, fel eu bod yn deall canlyniadau achosion a sut mae ein gwaith yn helpu i'w cadw'n ddiogel
  • Mae'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu'n ystyried eu bod yn cael eu hadlewyrchu'n well yn amrywiaeth ein hadfocadau 
  • Mae gan ein hadfocadau - mewnol ac allanol - sicrwydd ansawdd

Mesur Llwyddiant

Byddwn yn defnyddio mesurau llwyddiant wedi'u halinio i CPS 2025 i olrhain ein cynnydd yn ôl nodau strategol a'r canlyniadau strategol sy'n sail iddynt.

Bydd gwirio ein cynnydd yn rheolaidd fel hyn yn sicrhau ein bod yn parhau i symud yn gadarn tuag at gyflawni ein nodau strategol.

Available to download

Strategaeth Eiriolaeth CPS 2025 (fersiwn Saesneg, dogfen PDF, oddeutu 384kb)
Scroll to top