Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Dreisio a Throseddau Rhyw Difrifol (RASSO) 2025

|Publication

Dadlwythwch y ddogfen hon ar ffurf PDF

Cyflwyniad

Dyma ein strategaeth ar dreisio a throseddau rhyw difrifol (RASSO1) ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Yn sylfaen i’r strategaeth mae ymrwymiad i sicrhau bod y person cywir yn cael ei erlyn am y drosedd gywir. Mae’n adlewyrchiad eglur o’r rôl y gall Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) ei chwarae wrth fwrw’r maen i’r wal gyda newidiadau i’r system cyfiawnder troseddol drwyddo draw – trobwynt yn y ffordd y byddwn, at ein gilydd, yn edrych ar ein gwaith.

Rydym yn gobeithio y bydd pawb sy’n ymwneud â’r ymateb cyfiawnder troseddol i RASSO yn ymuno â ni yn yr ymgyrch uchelgeisiol hon am welliannau. Mae’n deillio o ystyriaeth ofalus a nifer o sgyrsiau gyda’n herlynwyr rheng-flaen profiadol, partneriaid ar draws y system cyfiawnder troseddol a’r grwpiau dioddefwyr sy’n cynghori a chraffu ar ein gwaith. Rydym yn ddiolchgar dros ben iddynt am eu cyfraniad.

Ni ellir peidio â sylweddoli’r effaith a gaiff RASSO ar ddioddefwyr, eu teuluoedd a’u cymunedau. Er ein bod wedi gweld cynnydd hir dymor yn y modd mae’r system cyfiawnder troseddol yn ymateb i’r troseddau hyn, mae angen gwneud mwy i annog dioddefwyr i riportio eu camdriniaeth gyda hyder ac i’w cefnogi drwy’r broses gyfiawnder troseddol er mwyn dod â mwy o droseddwyr o flaen eu gwell.

Nid yw gwneud penderfyniadau yn yr achosion hyn yn hawdd. Mae angen asesiad cytbwys a gofalus o’r holl dystiolaeth berthnasol, yn cynnwys unrhyw beth mewn perthynas â’r sawl sydd dan amheuaeth, i sicrhau achos teg a’n bod yn sicrhau cyfiawnder i bawb.

Mae’r CPS yn rhannu pryder mawr y cyhoedd, er gwaetha’r cynnydd yn y blynyddoedd diwethaf yn nifer yr achosion sy’n cael ei riportio i’r heddlu, bod nifer yr achosion sy’n cyrraedd y llysoedd wedi gostwng. Mae gweithio gyda phartneriaid hyd a lled y system cyfiawnder troseddol ynghyd â grwpiau dioddefwyr, i geisio deall pam bod hyn yn digwydd, a’r ffordd orau ymlaen, yn gwbl hanfodol ac yn fater o frys.

Mae ein strategaeth yn adlewyrchu ymrwymiad y CPS i’r perwyl hwn ac mae’n deillio o gyd-destun ein strategaeth pum mlynedd gyffredinol: CPS 2025. Mae’n cynnig gweledigaeth pum mlynedd, a bob blwyddyn bydd camau tuag at gyrraedd yr amcanion hyn yn cael eu cynnwys yn ein cynllun busnes. Byddwn yn asesu’r effaith bydd darparu’r gweithgareddau hyn yn ei gael drwy nifer o fesurau llwyddiant fydd yn canolbwyntio ar safon y gwasanaeth a ddarperir gan y CPS.

Nid yw symud ymlaen yn bosib oni bai bod yna ymdrech unedig, hirdymor a buddsoddiad o bob rhan o’r system cyfiawnder troseddol. Croesawn felly’r gwaith a’r craffu sydd ar y gweill gan yr arolygwr traws-Lywodraeth i’r mater. Rydym yn ymrwymo i gefnogi ei ddatblygiad ac ymateb i’w argymhellion - gan gynnwys yr argymhellion a ddaw gyda hyn yn yr ymateb i’r arolygiad ar y cyd o’r heddlu a’r CPS.

Mae’r CPS yn dibynnu ar waith hanfodol yr heddlu, y Bar allanol, y llysoedd, gwasanaethau arbenigol ac eraill. Mae meithrin partneriaethau cryfion - ar lefel leol a chenedlaethol - a dangos arweiniad effeithiol ar draws yr holl system cyfiawnder troseddol yn flaenoriaeth sy’n sylfaen i’n strategaeth yn ei gyfanrwydd. Mae mynd i’r afael â throseddau difrifol o’r fath yn gofyn am ddulliau cyfunol, cynhwysfawr ac mae rôl y CPS yn gwbl hanfodol yn hyn o beth, er mai dim ond un elfen ydyw o ran cynnig datrysiad ystyrlon.

Max Hill KC, Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus
Rebecca Lawrence, Prif Weithredwr

RASSO: Cyd-destun a sialensiau

Mae treisio a throseddau rhywiol difrïol yn droseddau dinistriol tu hwnt a all adael eu hôl am gyfnod hir iawn. Mae’r rhan fwyaf o’r troseddau hyn gan ddynion yn erbyn menywod a marched ond gallant hefyd fod yn droseddau yn erbyn dynion a bechgyn2. Maent yn digwydd ym mhob cymuned ac yn ymwneud â throseddwyr a dioddefwyr sydd ag amrywiaeth o nodweddion gwarchodedig, ac o amrywiaeth o gefndiroedd economaidd a chymdeithasol.

Targedir dioddefwyr RASSO yn aml iawn gan droseddwyr oherwydd un neu fwy o nodweddion gwarchodedig neu fath arall o fregusrwydd. Gall y ffactorau hyn gynnig mynediad neu gyfle hawdd i’r troseddwr, a bydd y troseddwr yn gobeithio o bosib na fydd y sawl sy’n agored i niwed yn riportio’r drosedd, ac y bydd pobl yn llai tebygol o’u credo os ydynt yn gwneud hynny. Rydym yn ymrwymo i ddarparu cymorth pellach i’n herlynwyr er mwyn datblygu strategaethau achosion effeithiol sy’n datgelu’r ymddygiad hwn.  

Mae RASSO yn parhau i fod yn un o feysydd mwyaf cymhleth ein gwaith ac mae’r drosedd o dreisio yn aml yn cael ei gamddeall. Mae sawl ffactor all wneud hon yn drosedd sy’n anodd ei herlyn, ac mae’n iawn bod erlynwyr arbenigol, wedi eu hyfforddi i lefel uchel iawn yn rheoli achosion o’r fath.

Mewn nifer o achosion ni fydd arwyddion gweledol o niwed ac mae treisio’n aml yn drosedd a gyflawnir gan rywun sy’n nabod y dioddefwr. Mae tystiolaeth seicolegol sylweddol yn dangos bod ymateb niwrolegol i drawma a achosir gan dreisio ac ymosodiad rhyw yn gallu amharu ar allu’r dioddefwr i gyflwyno disgrifiad clir a chyson o’r digwyddiad. Ar ôl y digwyddiad, mae rhai dioddefwyr yn mynd yn ôl at y sawl sydd dan amheuaeth a/ neu’n cysylltu â nhw gyda neges gyfeillgar i leihau’r risg y byddant yn cael eu targedu drachefn gan yr ymosodwr, neu oherwydd eu bod am geisio anghofio am y gamdriniaeth er mwyn mynd yn ôl at ryw fath o normalrwydd. I’r rheiny nad ydynt yn arbenigwyr yn y maes mae ymateb fel hyn i achos o dreisio yn gallu ymddangos yn wrth-reddfol ac yn cael effaith anffafriol ar ddirnadaeth o hygrededd y dioddefwr ac unrhyw honiad a wneir.

Rhaid i ddioddefwyr oresgyn rhwystrau fel cywilydd, euogrwydd, ofn y broses, ofn peidio â chael eu credu, sioc, cyd-destun diwylliannol, embaras, rhwystrau ieithyddol ac ofn dialled gan y gymuned er mwyn riportio digwyddiad i’r heddlu ac y gefnogi erlyniad.

Mae gofyn i’r CPS oresgyn gofynion cyfreithiol a thystiolaethol sylweddol wrth geisio bwrw ymlaen ag erlyniad RASSO effeithiol, effeithlon a theg. Mae profi bod gweithgaredd rhywiol wedi digwydd heb ganiatâd yn fater allweddol mewn sawl achos. Nid yw rhywun yn rhoi caniatâd oni bai ei fod ef/hi, yn cytuno drwy ddewis i’r treiddiad a bod ganddynt y rhyddid a’r gallu i wneud y penderfyniad hwnnw. Wrth ymchwilio i’r honiad, dylid sefydlu pa gamau, os o gwbl, y cymerodd y sawl dan amheuaeth i gael y caniatâd a dylai’r erlyniad brofi nad oedd y sawl sydd dan amheuaeth yn credu’n rhesymol bod yr achwynwr yn rhoi caniatâd.

Mae’r achosion hyn yn dibynnu ar asesiad cytbwys a gofalus o’r holl dystiolaeth berthnasol, yn cynnwys unrhyw beth mewn perthynas â’r sawl sydd dan amheuaeth a’r sawl sy’n gwneud yr honiadau, i sicrhau bod yr achosion cywir yn cael eu herlyn a bod yr achos yn un teg. Gall hyn gynnwys craffu ar ddisgrifiadau o’r digwyddiad, archwiliadau fforensig ac ystyriaeth ofalus o ddeunydd digidol a lluniau teledu cylch cyfyng. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r cyfryngau cymdeithasol wedi cynnig cyfleoedd a sialensiau o safbwynt tystiolaeth. Mae’n rhaid i ymchwilwyr ac erlynwyr fel ei gilydd ddelio â swm sylweddol o ddeunydd a all fod yn berthnasol i’r erlyniad a bod angen ei ddatgelu.

Ymateb y CPS

Mae’r strategaeth hon yn dangos sut y byddwn yn cyflflawni ein nod o gulhau’r gwahaniaeth rhwng nifer yr achosion a gaiff eu riportio i’r heddlu a’r achosion sy’n cyrraedd y llys, yn ogystal ag annog mwy o bobl i ddod ymlaen i riportio eu profifiad gyda hyder. Rydym yn ymrwymo i weithio gyda’n partneriaid ym maes cyfifiawnder troseddol i sicrhau gwelliannau ym mhob cam o’r system.

Mae’r strategaeth hon yn dangos sut y byddwn yn cyflawni ein nod o gulhau’r gwahaniaeth rhwng nifer yr achosion a gaiff eu riportio i’r heddlu a’r achosion sy’n cyrraedd y llys, yn ogystal ag annog mwy o bobl i ddod ymlaen i riportio eu profiad gyda hyder. Rydym yn ymrwymo i weithio gyda’n partneriaid ym maes cyfiawnder troseddol i sicrhau gwelliannau ym mhob cam o’r system.

Sicrhawn y caiff pawb ei drin gyda pharch a’n bod yn gweithredu yn unol â’n rôl o sicrhau bod cyfiawnder ar gael i bawb. Bydd penderfyniadau gwaith achos yn cael eu gwneud yn deg, yn ddiduedd a gyda hygrededd er mwyn helpu i sicrhau cyfiawnder i ddioddefwyr, tystion, diffynyddion a’r cyhoedd. Wrth wneud penderfyniadau, dylai erlynwyr fod yn deg, yn annibynnol ac yn wrthrychol a bod ein penderfyniadau’n rhydd o unrhyw ragfarn neu ddylanwad anaddas ac amhriodol o unrhyw ffynhonnell. Dylai erlynwyr ymddwyn o blaid cyfiawnder ac nid dim ond er mwyn cael erlyniad.

Yn yr achosion RASSO a gaiff eu cyfeirio i’r CPS am benderfyniad cyhuddo, rydym yn ymrwymo i gynnig gwasanaeth teg, safonol, sensitif gan ymateb i anghenion unigol achwynwyr, ac yr un pryd amddiffyn hawl y sawl sydd dan amheuaeth. Rydym yn benderfynol o wneud ein rhan i helpu achwynwyr gymryd rhan lawn yn y broses cyfiawnder troseddol.

Caiff pob penderfyniad cyhuddo ei seilio ar yr un prawf dau-lefel sydd yn y Cod i Erlynwyr y Goron:

  • A yw’r dystiolaeth yn cynnig posibilrwydd realistig o erlyniad? Hynny yw, ar ôl clywed y dystiolaeth, a yw’r llys yn fwy tebygol na pheidio o gael y diffynnydd yn euog? A hefyd;
  • A oes angen erlyniad er budd y cyhoedd? Mae hynny’n golygu gofyn cwestiynau am ba mor ddifrifol yw’r drosedd, y niwed i’r dioddefwr, yr effaith ar gymunedau ac a yw erlyn yn ymateb cymesur.

I ateb anghenion y Cod o ran penderfyniadau ac asesu’r dystiolaeth dylai ein herlynwyr gael dealltwriaeth glir o’r cymhlethdodau sy’n amgylchynu’r drosedd o dreisio. Mae hyn yn cynnwys deall y newid mewn ymddygiad yn yr oes ddigidol, a’r amrywiol ffyrdd y gall dioddefwyr ymateb i droseddu, a’r modd mae troseddwyr yn chwilio am gyfle i droseddu.

Dulliau Strategol RASSO 2025

Bydd RASSO 2025 yn arwain yr hyn a wnawn dros y bum mlynedd nesaf, a’n cynorthwyo i ganolbwyntio ar y llefydd o bwys.

Mae pum thema’r strategaeth yn adlewyrchu amcanion strategol CPS 2025. Maent yn cynrychioli’r gallu sefydliadol sy’n ein cefnogi yn ein rôl graidd - sicrhau bod y person cywir yn cael ei erlyn am y drosedd gywir a dod â throseddwyr o flaen eu gwell lle bynnag y bo hynny’n bosibl. Nid oes hierarchaeth ymysg yr amcanion craidd - mae pob un cyn bwysiced â’r nesaf os ydym am wireddu ein gweledigaeth - a bydd y datblygiad yn cael ei asesu yn ôl nifer o fesurau llwyddiant.

  1. Ein pobl sydd wrth wraidd popeth a wnawn.
  2. Ein gallu digidol sy’n sicrhau ein llwyddiant.
  3. Drwy ein partneriaethau strategol, rydym yn siapio fframwaith cyfreithiol, polisi a gweithredol sy’n hwyluso ein rôl graidd: sef erlyniadau teg ac annibynnol.
  4. Mae gwaith achos o safon uchel yn hanfodol i weithredu cyfiawnder. Gweithiwn gyda phartneriaid ar draws y system cyfiawnder troseddol fel bod y cyhoedd yn fwy diogel.
  5. Mae pawb yn y CPS yn gwneud eu rhan yn darparu pob nod strategol. Mae popeth a wnawn yn cyfrannu at ein prif amcan o godi hyder y cyhoedd drwy ddarparu gwasanaethau sy’n deg ac yn ddealladwy i bob cymuned.

Tabl Nod a Chanlyniadau

RASSO 2025

Y Nod: Culhau’r gwahaniaeth rhwng nifer yr achosion RASSO a gaiff eu riportio a chanlyniadau cyfiawnder troseddol, a bod gan y cyhoedd mwy o hyder yn ymateb y CPS i’r achosion hyn.

Ein PoblGallu DigidolPartneriaethau strategolAnsawdd gwaith achosHyder y cyhoedd
  • Mae arweinwyr lleol a chenedlaethol yn weladwy ac yn angerddol wrth ddarparu rhaglen RASSO.
  • Arweiniad, hyfforddiant a chefnogaeth dysgu yn gwella safonau achosion gwaith.
  • Mae erlynwyr ac eiriolwyr yn deall y cymhlethdodau sydd ynghlwm â threisio ac ymddygiad dioddefwyr, fel effaith y trawma ar y cof a’r newid yn natur ymddygiad cyfarfyddiadau rhywiol.
  • Defnyddir adnoddau arbennig RASSO ar draws y CPS yn gyson.
  • Mae cefnogi llwyddiannau a lles timau RASSO yn eu galluogi i ffynnu.
  • Mae ymchwilwyr, erlynwyr, dioddefwyr yn ogystal â’r cyhoedd yn gyffredinol yn cydnabod yr angen am gydbwysedd rhwng anghenion ymchwiliadau â’r hawl i breifatrwydd yn yr oes ddigidol, ac yn parchu hynny.
  • Mae erlynwyr yn deal goblygiadau technoleg newydd ar gyfer erlyniadau RASSO.
  • Caiff manteision y dechnoleg newydd eu defnyddio gefnogi erlyniadau RASSO.
  • Ceir dealltwriaeth gyffredin ar draws y sector o’r hyn sy’n gyfrifol am wahaniaethau rhwng riportio a chanlyniadau cyfifiawnder troseddol.
  • Mae’r CPS a’r heddlu’n cyd-weithio ar lefel genedlaethol a lleol i ddarparu cynllun gweithredu RASSO ar y cyd.
  • Mae mewnwelediad y CPS, yn cyfrannu at strategaethau, cynlluniau gweithredol, polisïau a deddfwriaeth RASSO.
  • Mae arbenigedd a barn rhanddeiliaid yn cyfrannu at ein strategaeth, polisi a chanllawiau RASSO.
  • Mae dealltwriaeth dda o’r Prawf Cod a bydd yn dal yn cael ei ddefnyddio’n gywir ym mhob achos RASSO.
  • Mae prosesau effeithiol yn gwella ac yn cefnogi ein dulliau cyfathrebu a’n perthynas waith â’r heddlu.
  • Mae ein cynlluniau gweithredu yn gymesur, yn cael eu hegluro i’r heddlu ac yn cael eu gweithredu ganddynt.
  • Mae digon o eiriolwyr arbenigol ar gael sydd wedi cael eu cyfarwyddo’n effeithiol ar gyfer achosion RASSO.
  • Gwell dirnadaeth gyhoeddus o rôl y CPS mewn achosion RASSO.
  • Mwy o hyder yn ein dulliau RASSO ymhlith y cyhoedd.
  • Cyfathrebu â dioddefwyr a thystion RASSO yn amserol a sensitif I anghenion unigolion agored i niwed.
  • Mae’r CPS yn gweithio’n effeithiol gyda phartneriaid i hysbysu a chefnogi dioddefwyr.

Ein Pobl

Pobl yw ein hased fwyaf. Mae pob un o’n gweithwyr yn cyfrannu tuag at ddarparu cyfiawnder drwy erlyniadau teg ac annibynnol.

Cefnogwn ein pobl - yn erlynwyr, swyddogion paragyfreithiol, staff gweinyddol ac eiriolwyr arbenigol - wrth ddarparu’r gwasanaeth hwn drwy arweiniad cryf ac eglur ar bob lefel. Parhawn I sicrhau bod gan ein hunedau RASSO arbenigol adnoddau digonol; bod ein pobl yn derbyn arweiniad, hyfforddiant a chefnogaeth dysgu; a bod lles timau RASSO yn cael blaenoriaeth.

Wrth i’r byd, a natur troseddau rhyw newid o’n cwmpas, mae’n ofynnol bod gan ein pobl y sgiliau, yr arfau a’r gefnogaeth angenrheidiol i lwyddo.

Mae arweinwyr lleol a chenedlaethol yn weladwy ac angerddol wrth ddarparu rhaglen RASSO.

Bydd ein harweinwyr lleol a chenedlaethol yn arwain y gwaith o gyflwyno RASSO 2025, gan flaenoriaethu’r ddarpariaeth yn erbyn ei nod craidd ar bob lefel o fewn ein sefydliad.

Byddant yn weladwy ac yn hybu’r strategaeth yn angerddol yng nghwmni staff, partneriaid a rhanddeiliaid - yn lleol a chenedlaethol - yn bwrw mlaen â’n perwyl o ddarparu’r gwelliannau yr ydym i gyd eisiau ei gweld.

Arweiniad, hyfforddiant a chefnogaeth dysgu yn gwella safonau gwaith achos.

Byddwn yn blaenoriaethu dysgu fel bod gan bob un o’n cydweithwyr RASSO o hyd y sgiliau, yr arfau a’r gefnogaeth angenrheidiol i lwyddo. Bydd ein pobl yn derbyn arweiniad a hyfforddiant gorfodol o safon uchel sy’n parhau i esblygu er mwyn adlewyrchu’r newidiadau yn y gyfraith ac arferion cyfreithiol. Yn bwysig iawn, bydd hyfforddiant ac arweiniad hefyd yn cael ei ddiweddaru I adlewyrchu ein dealltwriaeth gynyddol o fregusrwydd dioddefwyr a chymhlethdodau troseddau.

Mae yna brofiad ac arbenigedd amhrisiadwy y tu allan i’r CPS a byddwn yn parhau i sicrhau bod ein rhaglen hyfforddi yn elwa o’r safbwyntiau allanol hwn. Er mwyn rhannu arbenigedd, byddwn yn annog ein pobl i greu cysylltiadau proffesiynol â Chynghorwyr Trais Rhywiol Annibynnol a gwasanaethau tebyg eraill yn ogystal â mudiadau i ddioddefwyr.

Awn ati i greu diwylliant lle mae cydweithwyr yn dysgu oddi wrth ei gilydd ac yn cefnogi ei gilydd, a lle caiff hunan-fyfyrio ei annog. Byddwn yn parhau i gefnogi staff i ddysgu o waith achos blaenorol - gan gynnwys beth aeth yn dda a beth allai fod wedi mynd yn well.

Mae erlynwyr ac eiriolwyr yn deall y cymhlethdodau sydd ynghlwm â threisio ac ymddygiad dioddefwyr, fel effaith y trawma ar y cof a’r newid yn natur ymddygiad cyfarfyddiadau rhywiol.

Wrth wneud penderfyniadau teg ac annibynnol yn unol â’r Cod i Erlynwyr y Goron, mae’n rhaid i’n herlynwyr ystyried yn ofalus yr holl dystiolaeth berthnasol o safbwynt gwybodus. Golyga hyn ddealltwriaeth gynhwysfawr o ddatblygiadau mewn technoleg, deinameg y drosedd, gan gynnwys tactegau troseddwyr, yn ogystal â chymhlethdodau treisio ac ymddygiad dioddefwyr. Ymrwymwn i godi ymwybyddiaeth o’r materion hyn ac o fythau a stereoteipio.

Mae camau breision ym myd technoleg wedi arwain at newidiadau cyflym yn cynnwys canfod cariad ar-lein, y defnydd o wefannau cymdeithasol a rhannu lluniau a negeseuon o natur rywiol ar y llwyfannau hyn. Mae hefyd gwell dealltwriaeth o’r ymateb seicolegol a ffisiolegol sy’n digwydd ar adeg o drawma sy’n gallu amharu ar allu unigolyn i gofio digwyddiad a chyflwyno disgrifiad rhesymegol a chyson o’u profiad. Ymrwymwn i godi ymwybyddiaeth o’r materion hyn i drwytho ein gwaith yn ogystal â mynd i’r afael ac unrhyw fythau neu stereoteipio drwy ein strategaethau achos ac eiriolaeth.

Mae’r CPS yn adolygu’r ffordd yr ydym yn datblygu a chefnogi ein heiriolwyr. Byddwn yn cydweithio â’r Bar i sicrhau hyfforddiant cyfredol ar RASSO - gan gynnwys eiriolaeth ar sail dysgu o drawma; y newid yn natur ymddygiad rhywiol; a defnydd effeithiol o Adran 41 o Deddf Cyfiawnder Ieuenctid a Thystiolaeth Droseddol. Sicrhawn fod cwblhau’r hyfforddiant hwn yn hanfodol os am sicrhau lle ar restr eiriolwyr RASSO y CPS. Daliwn ati i sicrhau bod ein cyfarwyddiadau i eiriolwyr yn canolbwyntio ar faterion fel stereoteipio a mythau gan ystyried dulliau i gynnal asesiadau cyson a throsolwg o’u gwaith yn rheolaidd drwy arsylwi arbrofol a ffurflenni adroddiadau cwnsleriaid safonol.

Defnyddir adnoddau arbennig RASSO ar draws y CPS yn gyson.

Byddwn yn sicrhau bod gan ein tîm RASSO y gallu a’r capasiti i wneud penderfyniadau effeithlon mewn achosion cymhleth.

Cadwn olwg ar argaeledd adnoddau arbenigol RASSO a’r galw amdanynt. Cynlluniwn ymlaen I sicrhau ein bod yn ateb y galw, gan adnabod yr angen i hyfforddi ac gloywi sgiliau erlynwyr cyn cael eu penodi i unedau RASSO. Llwyddodd y CPS i sicrhau arian ychwanegol i gael mwy o erlynwyr a byddwn yn ystyried yn ofalus y pwysau ar unedau RASSO wrth eu dyrannu. Ond rydym yn cadarnhau mai dim ond y rheiny sy’n brofiadol ac wedi eu hyfforddi’n benodol ar gyfer y Gwaith fydd yn cael eu defnyddio yn ein timau RASSO.

Mae cefnogi llwyddiannau a lles timau RASSO yn eu galluogi i ffynnu.

Mae ein timau RASSO yn gweithio mewn byd cymhleth sy’n newid o hyd, ac maent yn angerddol dros eu gwaith. Maent yn ymroi i wneud penderfyniadau teg ac annibynnol i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell, ac maent yn deall pwysigrwydd canlyniadau positif i’r dioddefwyr a’r gymuned ehangach.

Mae’n hanfodol bod gan dimau RASSO y sgiliau a’r arfau sydd eu hangen arnynt i wneud eu gwaith a bod ganddynt adnoddau digonol. Ond bydd eu llwyddiant serch hynny yn dibynnu I raddau helaeth ar y gefnogaeth emosiynol a seicolegol a rown iddynt i ddelio â natur drom a thrawmatig y gwaith.

Trefnwn gefnogaeth benodol o fewn gwaith RASSO i fynd i’r afael â gor-weithio, blinder tosturi a thrawma dros rywun arall, a hynny’n ofalus ac yn sensitif.

Gallu Digidol

Mae camau breision mewn technoleg yn parhau i drawsnewid y ffordd rydym yn byw. Mae hefyd yn dylanwadu ar natur troseddau, yr achosion RASSO y byddwn yn eu herlyn, maint y dystiolaeth rydym yn ei dderbyn, a’r penderfyniadau mae dioddefwyr yn eu gwneud cyn ceisio unioni cam drwy’r system cyfiawnder troseddol. Gall technoleg hefyd gynnig cyfleoedd i adeiladu achosion cryfach a chefnogi erlyniadau teg ac effeithlon.

Daliwn ati i weithio gyda’n cydweithwyr yn yr heddlu i sicrhau dulliau gweithredu cytbwys rhwng gofynion ymchwiliad cynhwysfawr a’r hawl i breifatrwydd mewn erlyniadau RASSO, gan fanteisio ar ganllawiau buddiol y Comisiynydd Gwybodaeth a’r llysoedd3. Golyga hyn ddealltwriaeth glir o oblygiadau technoleg newydd yn ogystal â gwneud y gorau o’r cyfleoedd tystiolaethol a gyflwyna.

Mae ymchwilwyr, erlynwyr, dioddefwyr yn ogystal â’r cyhoedd yn gyffredinol yn cydnabod yr angen am gydbwysedd rhwng anghenion ymchwiliadau â’r hawl I breifatrwydd yn yr oes ddigidol.

Mae datgelu yn rhan sylfaenol o ymchwiliadau ac achosion teg. Mae rheidrwydd datgelu’n berthnasol i bob math o drosedd, ond mae achosion RASSO yn gallu creu sialensiau penodol o anodd yn sgil y corff mawr o dystiolaeth ddigidol berthnasol a gynhyrchir. Mae canllawiau’r CPS yn dweud yn eglur nad chwilio dyfeisiau digidol yw’r llwybr diofyn ym mhob achos. Mae’n hanfodol mai dim ond llwybrau ymholiad rhesymol y dylid eu dilyn i osgoi ymyrraeth ddi-alwamdano i fywydau personol achwynwyr. Lle bo angen tar golwg ar gyfathrebu electroneg, dylid ystyried dulliau cam wrth gam. Dylid cael ffocws i bob ymholiad, gan weithio o fewn fframwaith o dermau chwilio a dyddiadau.

Gweithiwn gyda’r heddlu i sicrhau bod achwynwyr yn parhau i gael gwybod am benderfyniadau a wneir parthed â’r archwiliad o declynnau ac ar beth yn union sy’n cael ei rannu a pham, yn ogystal â goblygiadau gwrthod mynediad at ddata.

Byddwn yn parhau i ddatblygu canllawiau i helpu ymchwilwyr ac erlynwyr i gynnal cydbwysedd rhwng gofynion yr ymchwiliad a’r hawl i breifatrwydd. Byddwn yn gweithio gyda’r heddlu i helpu’r cyhoedd ddeall effaith tystiolaeth ddigidol a thrydydd parti yn ein gwaith achos, gan gynnwys sut y byddwn yn penderfynu pa ddata i’w ganfod, sut a pham bod ei angen arnom fel rhan o ymchwiliad troseddol ac erlyniad, a sut y gellid ei ddefnyddio.

Mae erlynwyr yn deall goblygiadau technoleg newydd ar gyfer erlyniadau RASSO.

Fel mae technoleg yn parhau i esblygu, fe ddylwn ninnau hefyd. Rhown gymorth i’n pobl ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau digidol fel eu bod yn symud gyda’r oes a datblygiadau newydd i sicrhau cysondeb â’r Ddeddf Diogelu Data 2018 a chanllawiau, hyfforddiant a threfniadau’r Rheoliadau Cyffredinol Diogelu Data.

Bydd cymryd agwedd weithgar ac arloesol tuag at allu digidol yn ein galluogi i weithio’n effeithiol gyda’n partneriaid i wella’r ffordd y cyflawnir cyfiawnder. Gweithiwn yn agos â’r heddlu i edrych ar ddatrysiadau digidol er mwyn i ni allu ystyried tystiolaeth mewn modd amserol.

Mae’n hanfodol ein bod yn dadansoddi’r heriau a’r gofynion newidiol yn ystyrlon. Gweithiwn gydag asiantaethau ar draws y system cyfiawnder troseddol i gasglu a rhannu data er mwyn deall a gweld y darlun ehangach. Bydd y ddirnadaeth newydd hon yn cefnogi gwaith sy’n seiliedig ar dystiolaeth i ysgogi newid drwy’r system cyfiawnder troseddol a thu hwnt.

Caiff manteision y dechnoleg newydd eu defnyddio i gefnogi erlyniadau RASSO

Er bod y cynnydd yn swmp y dystiolaeth a gaiff ei greu gan dechnoleg newydd yn arwain at ystyriaethau ychwanegol i erlynwyr RASSO, gall hefyd gynnig cyfleoedd tystiolaeth i greu achosion cryfach. Mae’n hanfodol ein bod yn adnabod ac yn manteisio’n rhagweithiol ar y cyfleodd hyn o’r cychwyn cyntaf, fel rhan o’n strategaeth gyffredinol ar achosion.

Partneriaethau Strategol

Bydd ymateb effeithiol gan y system cyfiawnder troseddol i achosion RASSO yn golygu cyfraniad gan awdurdodau y tu hwnt i’r heddlu ac erlynwyr. Mae’r CPS yn gweithio wrth wraidd y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru a Lloegr. Rydym mewn lle da i adeiladu partneriaethau strategol ar draws asiantaethau cyfiawnder troseddol, y llywodraeth a mudiadau arbenigol y trydydd sector i sicrhau cyfiawnder effeithlon ac effeithiol.

Fe wnawn gyfraniad positif at gynghori a dylanwadu ar waith traws-Lywodraeth ar welliannau ar hyd y system, gan gynnwys newidiadau i’r gyfraith a pholisi er mwyn mynd i’r afael â phroblemau systemig.

Ceir dealltwriaeth gyffredin ar draws y sector o’r hyn sy’n gyfrifol am wahaniaethau rhwng riportio a chanlyniadau cyfifiawnder troseddol.

Mae’n rhaid i bartneriaid ar draws y sector gael cyd-ddealltwriaeth o’r hyn sy’n gyfrifol am ganlyniadau cyfiawnder troseddol RASSO, ar sail amrywiaeth o ddata meintiol ac ansoddol. Mae ymchwil a thystiolaeth yn ein galluogi i ddadansoddi ar y cyd sut mae achosion RASSO yn cael eu trin a pha welliannau sy’n bosib, er mwyn cefnogi dioddefwyr ac yn y pen draw cau’r gagendor rhwng riportio troseddau a chanlyniadau cyfiawnder troseddol.

Daw data perthnasol o wahanol ffynonellau, caiff ei recordio’n wahanol a thros gyfnodau gwahanol o amser. Gall hyn wneud tracio rhediad achosion penodol o’u cychwyn i’w diwedd yn anodd, gan greu rhwystrau rhag cyrraedd dadansoddiad ystyrlon. Drwy gyd-weithio agos rhwng partneriaid, gellir casglu data a’i ddefnyddio i daflu goleuni ar batrymau ac amrywiadau rhanbarthol. Defnyddiwn y wybodaeth hon i wella ymateb ar draws y system cyfiawnder troseddol yn lleol a chenedlaethol.

Daliwn ati i gymryd perchnogaeth ar y cyd o gynlluniau newid mawr o ran trawsnewid digidol sy’n cyfrannu at flaenoriaethau cyfiawnder troseddol traws-adrannol RASSO.

Mae’r CPS a’r heddlu’n cyd-weithio ar lefel genedlaethol a lleol i ddarparu cynllun gweithredu RASSO ar y cyd

Mae ymchwilio ac erlyn honiadau RASSO yn parhau i fod yn un o’r sialensiau pwysicaf sy’n wynebu pob un rhan o’r system cyfiawnder troseddol.

Ar y cyd â’r heddlu (cynllun Gweithredu RASSO ar y Cyd rhwng yr heddlu/CPS), rydym wedi ymrwymo i gynllun gwaith eang ei amrywiaeth. Bydd y cynllun hwnnw, a gaiff ei gyhoeddi yn nes ymlaen yn 2020/21, yn anelu at wella datblygiad achosion, ein helpu i adeiladu achosion cryfach o’r cychwyn cyntaf, a chyflymu’r amser a gymerir i ddod ag achosion i’r llys. Gweithiwn yn agos â grwpiau dioddefwyr arbenigol a fydd yn gallu cynnig cyngor arbenigol a mewnbwn i’r gwaith hwn.

Mae mewnwelediad y CPS, yn cyfrannu at strategaethau, cynlluniau gweithredol, polisïau a deddfwriaeth RASSO

Daliwn ati i weithio ochr yn ochr â’n partneriaid i gyflawni ein rôl o fewn yr adolygiad ehangach, traws-Lywodraeth o RASSO, a gynlluniwyd i adnabod a gweithredu gwelliannau ar draws y system. Daliwn ati i fuddsoddi yn ein perthynas ag adrannau’r Llywodraeth, asiantaethau cyfiawnder troseddol a mudiadau arbenigol y trydydd sector. Defnyddiwn y berthynas hon i ddatblygu sylfaen o dystiolaeth ar gyfer diwygio polisi a deddfwriaeth, gan dynnu ar asesiad cryno o effaith ac angen gweithredol a chymunedol.

Mae arbenigedd a barn rhanddeiliaid yn cyfrannu at ein strategaeth, polisi a chanllawiau RASSO

Mae partneriaeth ystyrlon, agored, cydweithiol gyda mudiadau arbenigol y trydydd sector yn hanfodol i ddarparu polisïau, cyngor a strategaethau RASSO o safon uchel. Gall y rhain, yn eu tro, gael effaith ar safon ein gwaith achos. Mae ein partneriaid trydydd sector hefyd yn cynnig mecanwaith adborth hanfodol ar beth sy’n gweithio - neu ddim - yn lleol ac yn genedlaethol.

Bydd barn yr arbenigwyr hyn yn parhau i drwytho ein gwaith. Daliwn ati i feithrin y berthynas hon ar lefel genedlaethol - drwy Grŵp Ymgynghorol Allanol Trais yn erbyn Menywod a Merched y CPS - ac yn lleol drwy Baneli Gwelliant a Chraffu Lleol ynghyd â grwpiau lleol eraill.

Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid ar draws y system cyfiawnder troseddol I gyflawni ein rhwymedigaethau datgelu a sicrhau bod ein penderfyniadau’n gytbwys, yn annibynnol ac yn deg â phawb.


Canolbwyntio ar y Cynllun Gweithredu ar y Cyd ar Dreisio rhwng yr Heddlu-CPS

Yn allweddol i lwyddiant RASSO 2025 mae darparu rhaglen waith eang, ar y cyd â’r heddlu I fynd i’r afael â materion fel datblygiad a rhediad achosion, adeiladu achosion cryf o’r cychwyn, a chyflymu’r amser a gymerir iddynt gyrraedd y llys.

Gweithiwn gyda’r heddlu i barhau i yrru’r gwaith ar allu digidol a datgelu tystiolaeth, gyda’r canllawiau i helpu ymchwilwyr ac erlynwyr wrth wraidd yr ymdrech i gynnal cydbwysedd rhwng gofynion ymchwiliad a’r hawl i breifatrwydd.

Mae Chweched Rhifyn y ‘Directors Guidance on Charging’ wrthi’n cael ei ddatblygu. Bydd yn cynnwys atodiad ar wahân yn delio’n benodol â’r cyngor cynnar a roir i’r heddlu gan erlynwyr.

Bydd grwpiau dioddefwyr a’r gwaith ymchwil diweddaraf ym maes trais rhywiol yn cynnig gwybodaeth werthfawr wrth i ni fwrw ymlaen â’r cynllun gweithredu ar y cyd. Byddwn hefyd yn monitro’r cynnydd drwy ddulliau ar y cyd o ddadansoddi data a goruchwylio perfformiad.

Mae’r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus a Swyddog Arweiniol Cyfiawnder Troseddol y Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC) yn atebol am y gwaith hwn. Maent yn derbyn cefnogaeth ar lefel strategol gan Uwch Swyddogion Cyfrifol o’r CPS a’r heddlu, ac ar lefel gweithredol gan weithgor a sawl grŵp prosiect i ymgymryd â meysydd penodol o’r gwaith.


Ansawdd Gwaith Achos

Caiff pob penderfyniad cyhuddo ei seilio ar yr un prawf dau-lefel sydd yn y Cod i Erlynwyr y Goron:

  • A yw’r dystiolaeth yn cynnig posibilrwydd realistig o erlyniad? Hynny yw, ar ôl clywed y dystiolaeth, a yw’r llys yn fwy tebygol na pheidio o gael y diffynnydd yn euog? A hefyd;
  • A oes angen erlyniad er budd y cyhoedd? Mae hynny’n golygu gofyn cwestiynau am ba mor ddifrifol yw’r drosedd, y niwed i’r dioddefwr, yr effaith ar gymunedau ac a yw erlyn yn ymateb cymesur.

Yn aml, mae’n rhaid i’n timau RASSO wneud penderfyniadau anodd ac ansicr. Yn unol â’r prawf dau-lefel sy’n ofynnol gan y Cod, dylai pob penderfyniad fod yn deg, yn wrthrychol ac yn annibynnol, yn seiliedig ar ffeithiau a rhinweddau pob achos unigol. Wrth asesu os oes posibilrwydd realistig o erlyniad ai peidio, dylai erlynwyr gymryd yn ganiataol y bydd y rheithgor sy’n gwrando ar yr achos yn wrthrychol, yn ddiduedd ac yn rhesymol, wedi eu cynghori’n gywir ac yn gweithredu’n unol â’r gyfraith.

Byddwn yn cefnogi ac yn grymuso ein herlynwyr RASSO i ddelio’n effeithiol ag achosion cymhleth gan ddarparu’r gefnogaeth fydd ei hangen arnynt i wneud penderfyniadau o safon uchel yn unol â’r Cod.

Nid ydym yn gweithio mewn gwagle ac rydym yn dibynnu ar waith partneriaid eraill yn y maes cyfiawnder troseddol. Daliwn ati i weithio’n agos gyda’n partneriaid yn yr heddlu i ddatblygu a darparu safonau lleol a chenedlaethol ar y cyd gan ddal ein gilydd yn gyfrifol am eu cyflawni.

Bydd ein heiriolwyr yn chwarae rhan allweddol mewn sicrhau cyfiawnder yn y llysoedd, nid yn unig drwy eu heiriolaeth ond drwy eu sgiliau cyfathrebu, eu cefnogaeth i achwynwyr a thystion, a’u cymorth i’r farnwriaeth. Drwy gydnabod eu harbenigedd, eu sgiliau a’u hymroddiad, mae’r strategaeth yn amlinellu ein hymrwymiad i ddarparu eiriolaeth o safon uchel a chost-effeithlon mewn achosion RASSO.

Mae dealltwriaeth dda o’r Prawf Cod a bydd yn dal yn cael ei ddefnyddio’n gywir ym mhob achos RASSO.

Mae erlyn y person cywir am y drosedd gywir wrth wraidd popeth a wnawn. Nid oes gennym unrhyw dargedau graddfeydd euogfarnau o fewn y CPS - dylai pob penderfyniad i gyhuddo gael ei wneud ar sail asesiad pob achos unigol yn unig, ac yn unol â’r Cod i Erlynwyr y Goron.

Byddwn yn parhau i graffu’n ofalus ar bob penderfyniad drwy ein Cynllun Hawl Dioddefwyr I Adolygiad, sicrwydd ansawdd gwaith achos, prosesau sicrwydd cenedlaethol sy’n caniatáu asesiadau meintiol ac ansoddol o berfformiad ar draws yr holl achosion treisio waeth beth yw rhyw’r dioddefwr neu’r diffynnydd, Paneli Craffu a Phaneli Cynhwysiant Lleol lle mae gwirfoddolwyr yn gallu adlewyrchu pryderon cymunedol lleol, a phaneli rheoli gwaith achos. Byddwn yn onest a thryloyw pan fyddwn yn gwneud camgymeriadau fel ein bod yn gallu parhau i ddysgu a gwella.

Cynhaliodd Arolygiaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron Ei Mawrhydi (HMCPSI) arolwg i gefnogi’r adolygiad traws-Lywodraeth. Roeddem yn croesawu eu canfyddiadau bod ein proses gwneud penderfyniadau yn dda, ond rydym yn cydnabod bod gwaith i’w wneud eto yn enwedig o ran gwella’r cyfathrebu rhyngom â’n cydweithwyr yn yr heddlu a chymesuredd ein cynlluniau gweithredu.

Mae prosesau effeithiol yn gwella ac yn cefnogi ein dulliau cyfathrebu a’n perthynas waith â’r heddlu

Mae gweithio gyda’r heddlu fel rhan o’r tîm erlyn yn hanfodol. Mae cydweithio effeithiol rhwng ymchwilwyr ac erlynwyr o’r dechrau’n deg yn sicrhau bod y dystiolaeth gywir yn cael ei chasglu ac i adeiladu’r achos cryfaf posib. Mae pob sefydliad yn ddibynnol ar y llall i weithio’n effeithiol.

Pan fydd achosion yn ein cyrraedd drwy law’r heddlu, fe rown gyngor clir ac amserol ar gryfderau’r achos a pha dystiolaeth sydd ei hangen i adeiladu achos sy’n debygol o lwyddo. Bydd hyn yn galluogi ymchwilwyr i gael ymgysylltiad adeiladol â’r amddiffyniad yn gynnar yn yr achos a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i achwynwyr ar sut mae’r achos yn mynd rhagddo.

Mae ein cynlluniau gweithredu yn gymesur, yn cael eu hegluro i’r heddlu ac yn cael eu gweithredu ganddynt

Mae ffeil tystiolaeth o safon yn adlewyrchu gwaith da ar ran ymchwilwyr yr heddlu. Fel tîm yr erlyniad, mae’r CPS a’r heddlu eisiau sicrhau bod yr achosion hyn yn cael eu hymchwilio’n sydyn ac yn effeithiol. Byddwn yn cynnig arweiniad pellach ar ddarparu cyngor cynnar i’r heddlu gan ganolbwyntio ar y CPS yn ychwanegu gwerth cyfreithiol yn gynnar yn yr ymchwiliad i helpu’r heddlu i ganolbwyntio ar y llwybrau ymholiadau mwyaf rhesymol o’r dechrau un. Byddwn yn gwella gweithrediad ein cynlluniau gweithredu drwy geisiadau cymesur, amserlenni clir, a phwyntiau dwysáu cadarn er mwyn lleihau nifer yr achosion a gwblheir yn weinyddol a chyflymu’r broses o ddod ag achosion cadarn i’r llys.

Mae digon o eiriolwyr arbenigol ar gael sydd wedi cael eu cyfarwyddo’n effeithiol ar gyfer achosion RASSO

Mae rôl eiriolwyr yn ganolog i’n gwaith. Mae penodi’r eiriolwyr cywir ar gyfer yr achos cywir yn sylfaen i’r modd y byddwn yn cynnal eiriolaeth hyblyg, wydn ac o safon uchel sy’n cynnig y gwasanaeth gorau i achwynwyr a thystion.

Sicrhawn fod digon o eiriolwyr arbenigol ar gael a’u bod wedi’i cyfarwyddo’n effeithiol ar gyfer achosion RASSO. Bydd pob eiriolwyr mewnol ac allanol yn cynnig eiriolaeth o safon uchel yn unol â’r Cod i Erlynwyr y Goron. Bydd hyn yn cefnogi cyfiawnder drwy ddarparu gwasanaethau eiriolaeth hyblyg, gwydn a chynaliadwy.

Bydd ein proses o benodi eiriolwyr yn gofyn mai dim ond yr eiriolwyr hynny gyda’r profiad a’r sgiliau perthnasol a chyfredol a gaiff eu dewis i’r panel RASSO. Bydd gofyn i’r eiriolwyr hyn gynnig gwasanaethau eiriolaeth erlyn o safon uchel i gyrraedd anghenion ein hamcanion a’n nod mewn achosion RASSO.

Hyder y Cyhoedd

Os ydym am godi hyder y cyhoedd yna mae’n rhaid i ni drin pawb yn deg – ac yn anad dim – mewn modd sydd yn helpu i bobl ddeall y penderfyniadau rydym yn eu gwneud.

Ymrwymwn i weithio gydag achwynwyr a gwella’r gefnogaeth a rown iddynt. Parhawn i gydweithio â grwpiau dioddefwyr arbennig a phartneriaid eraill i sicrhau bod dioddefwyr a thystion yn cael mynediad hawdd at wybodaeth am ein rôl. Sicrhawn fod achwynwyr a thystion yn derbyn gwasanaeth o safon uchel drwy gydol pob achos, gan gydnabod pwysigrwydd cyfathrebu ag empathi.

Mae sicrhau bod y sawl sydd dan amheuaeth a diffynyddion, yn cael eu trin yn deg yn ganolog i’n gwaith o gynnal cyfraith a threfn. Mae’n rhaid i ni sicrhau bod y person cywir yn cael ei erlyn am y drosedd gywir drwy wneud penderfyniadau ystyrlon mewn modd amserol gan gydymffurfio â’n goblygiadau datgelu.

Gwell dirnadaeth gyhoeddus o rôl y CPS mewn achosion RASSO

Po fwyaf mae’r cyhoedd yn ei ddeall am ein rôl ac â hyder yn y penderfyniadau a wnawn, y mwyaf tebygol ydynt o: droi at yr heddlu mewn achos o gam-drin, a chefnogi erlyniadau fel dioddefwyr neu dystion; ymrwymo â’r broses a chredu bod canlyniadau’n rhai teg a chyfiawn. Mae hyn yn ein galluogi i gynnig cyfiawnder ac erlyn troseddwyr a thrwy hynny, cadw’r cyhoedd yn ddiogel. Rydym yn ymrwymo i sicrhau tegwch a chyfiawnder i bawb sy’n ymwneud ag achosion RASSO.

Byddwn yn cyhoeddi canllawiau clir a hygyrch i’r cyhoedd sy’n egluro’r gwahaniaeth rhwng nifer sylweddol y troseddau a gaiff eu riportio i’r heddlu a chanlyniadau cyfiawnder troseddol, yn ogystal ag amlinellu gwaith y CPS ar RASSO. Byddwn hefyd yn cyfleu canlyniadau ein Gwaith achos yn gyson drwy amrywiol lwyfannau i annog gwell dealltwriaeth gyhoeddus o sut mae ein gwaith yn helpu i’w cadw’n ddiogel.

Mwy o hyder yn ein dulliau RASSO ymhlith y cyhoedd

Er mwyn i’r cyhoedd ymddiried yn y gwasanaeth a ddarparwn, mae’n rhaid iddynt fod yn hyderus bod ein penderfyniadau yn rhai teg ac effeithiol. Rhaid i ni allu dangos ein bod yn deall a bod gennym empathi tuag at achwynwyr RASSO, yn ogystal â sicrhau bod pawb sydd dan amheuaeth a phob diffynnydd bob amser yn cael eu trin yn deg gan y CPS.

Daliwn ati i weithio i ddeall beth sydd wrth wraidd yr hyder yn ein sefydliad. Croesawn ac ymatebwn i unrhyw graffu ar ein gwaith gan adrannau eraill o’r Llywodraeth a grwpiau dioddefwyr arbenigol. Byddwn yn cyhoeddi canllawiau ar gyfer dioddefwyr RASSO fel eu bod yn gwybod beth i’w ddisgwyl gennym ni a beth, yn ei dro, y byddwn ninnau’n ei ddisgwyl ganddyn nhw a pham. Gweithiwn yn agos â mudiadau arbenigol yn y trydydd sector er mwyn helpu i ddatblygu a rhannu’r gwaith hwn.

Cyfathrebu â dioddefwyr a thystion RASSO yn amserol a sensitif i anghenion unigolion agored i niwed

Ni fydd pob achwynwr neu dyst yn cytuno â phob penderfyniad a wnawn nac ychwaith ganlyniad pob achos. Ond ni ddylai hyn olygu eu bod yn teimlo fel na chawsant eu trin yn deg. Mae’n rhaid i ni i gyd - waeth beth yw ein rôl - wrando’n ofalus ar achwynwyr a thystion a chynnig esboniadau clir, effeithiol o’n penderfyniadau gydag empathi. Pan fo achwynwyr yn anhapus â phenderfyniad, mae ganddynt yr hawl i ofyn am gyfarfod â’r erlynydd i gael eglurhad pellach o’r penderfyniad, gofyn am adolygiad o’r penderfyniad mewn rhai achosion priodol, neu droi at ein ap cwynion newydd ar-lein i fynd â’r mater yn bellach.

Byddwn yn parhau i wella ansawdd ein cyfathrebu i sicrhau ei fod yn amserol, ei fod yn ystyried ein cymunedau amrywiol, a bod yn sensitif i anghenion y rheiny sydd yn arbennig o agored i niwed.

Daliwn ati i wneud cais am y mesurau arbennig sydd eu hangen ar ddioddefwyr neu dystion bregus neu dan fygythiad i gyflwyno eu tystiolaeth orau drwy gydol yr achos. Cyn iddynt gyflwyno eu tystiolaeth, byddwn yn siarad â’r achwynwr neu’r tyst i egluro’n union beth allant ei ddisgwyl yn y llys.

Mae ein timau RASSO wedi derbyn hyfforddiant arbenigol ar gyfathrebu’n effeithiol a gydag empathi gyda dioddefwyr. Mae Uned Cyswllt Dioddefwyr penodol ym mhob Ardal, gydag enw cyswllt ar gyfer achwynwyr a thystion i sicrhau llwybrau cyfathrebu ac atebolrwydd clir.

Mae’r CPS yn gweithio’n effeithiol gyda phartneriaid i hysbysu a chefnogi dioddefwyr

Mae angen dull traws-asiantaethol er mwyn cyfathrebu’n effeithiol a chefnogi dioddefwyr. Rydym wedi ymgysylltu â phartneriaid wrth adolygu’r Cod Ymarfer i Ddioddefwyr Trosedd (Y Cod i Ddioddefwyr) ac wedi ymrwymo i gydymffurfio’n gyflym â’i amcanion i wella profiad dioddefwyr.

Byddwn yn cydweithio’n agos â’r heddlu a mudiadau arbenigol yn y trydydd sector i sicrhau bod dioddefwyr yn derbyn y wybodaeth gywir a chyson yn ogystal â theimlo eu bod yn cael eu cefnogi’n dda a bod eu llais yn cael ei glywed.

Darparu

Mae arweinwyr ar draws y CPS yn gyd-atebol am gyflflawni RASSO 2025. I’w cefnogi yn hyn o beth, mae Cyfarwyddwr Strategaeth a Pholisi’r CPS a Chyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol y CPS yn Uwch-swyddogion Cyfrifol ar gyfer y strategaeth. Caiff y gwaith ei weithredu drwy amrywiaeth o grwpiau prosiect i ymgymryd â meysydd gwaith penodol.

Bydd ein cynlluniau busnes a gyhoeddir bob blwyddyn yn adlewyrchu cynnydd y gwaith hwn yn erbyn pob un o bum nod strategol y CPS 2015 a’r mesurau llwyddiant cyfatebol. Byddwn hefyd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’n grwpiau dioddefwyr yn lleol a chenedlaethol ar y datblygiadau yn erbyn y ddarpariaeth.

Byddwn yn asesu effaith darparu’r gweithgareddau hyn yn rheolaidd drwy amrywiol fesurau llwyddiant sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau a safon y gwasanaeth a ddarperir gan y CPS. Bydd hyn yn caniatáu asesiad o lawer o agweddau o’n gwaith.

  • Trefn briodol ar gyfer gwneud penderfyniadau cyfreithiol
  • Gwneud penderfyniadau cyhuddo yn amserol
  • Bodloni rhwymedigaethau datgelu
  • Ansawdd y llythyrau a anfonir at ddioddefwyr
  • Dioddefwyr a thystion sy’n cytuno â’r datganiad: “Rwy’n teimlo bod y CPS yn gwrando
  • arnaf yn y llys”
  • Panel cymunedol sy’n cytuno â’r datganiad: “Mae’r CPS yn ymateb i’n hadborth”
  • Y cyhoedd sy’n cytuno â’r datganiad: “Rwy’n hyderus bod y CPS yn effeithiol wrth erlyn pobl a gyhuddir o droseddau”
  • Achosion yn cael eu gollwng ar y trydydd gwrandawiad neu wedi hynny
  • Ymateb yn amserol i gyfarwyddiadau’r barnwr a chydymffurfio â nhw
  • Pledio’n euog yn y gwrandawiad cyntaf

Mae’r tabl canlynol yn rhoi trosolwg o bethau i’w cyflawni yn 2020/21. Caiff ei ddiweddaru eleni ac mewn blynyddoedd i ddod i adlewyrchu unrhyw ymrwymiadau ychwanegol sy’n codi o gwblhau’r adolygiad traws-Lywodraeth i ymateb y system cyfiawnder troseddol i achosion o RASSO; cynllun gweithredu ar drais ar y cyd rhwng y CPS a’r heddlu; a chyd-adolygiad yr arolygiaeth i sut mae’r heddlu a’r CPS yn delio ag achosion RASSO.

Tabl 1: Trosolwg o’r Camau Gweithredu ar gyfer 2020/21
Ein Pobl 
  • Llunio strategaeth arweinyddiaeth ar RASSO i ganolbwyntio ar waith y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus, y Prif Weithredwr, Prif Erlynwyr y Goron, Penaethiaid Unedau RASSO a chydweithwyr eraill ar lefel uchel.
  • Cynnal cynhadledd genedlaethol, ar y cyd â’r heddlu yn dilyn yr arolwg traws-Lywodraeth, gyda gweithdai rhanbarthol i ddarparu hyfforddiant arbenigol i’n hymchwilwyr ac erlynwyr, gan gynnwys dulliau sy’n canolbwyntio ar y troseddwr a dulliau sy’n canolbwyntio ar drawma (cynllun gweithredu ar dreisio ar y cyd rhwng y CPS/heddlu).
  • Adolygu’r strategaeth recriwtio, datblygu a chefnogi ar gyfer unedau RASSO.
  • Sicrhau bod strategaeth eiriolaeth ehangach y CPS yn adlewyrchu persbectif RASSO, gan gynnwys materion capasiti, cyfarwyddyd a goruchwyliaeth mewn achosion RASSO.
  • Adolygu a diweddaru canllawiau cyfreithiol ar RASSO i gefnogi gwaith ein herlynwyr.
  • Darparu hyfforddiant pellach i erlynwyr, eiriolwyr a rheolwyr RASSO ar gymesuredd a datgelu mewn achosion RASSO yn ogystal â hyfforddiant ychwanegol ar drawma.
  • Cwblhau canllawiau ar therapi cyn-achos.
  • Darparu adnoddau i gynyddu’r ddealltwriaeth a’r defnydd o dystiolaeth fforensig mewn achosion RASSO (cynllun gweithredu ar dreisio ar y cyd rhwng y CPS/heddlu).
Gallu Digidol
  • Darparu arweiniad, ar y cyd â’r heddlu, ar gasglu data o wahanol declynnau digidol a llwyfannau gwefannau cymdeithasol (cynllun gweithredu ar dreisio ar y cyd rhwng y CPS/heddlu).
  • Ymateb i adroddiad Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar dynnu data oddi ar ffonau symudol a sicrhau bod ein harferion yn cydymffurfio â’r Ddeddf Diogelu Data.
  • Gwerthuso cynadleddau cynllunio achos cynnar i sicrhau bod yr heddlu ac erlynwyr yn cytuno ar strategaeth eglur ar gyfer yr achos o’r cychwyn.
  • Cefnogi’r heddlu i dreialu Dogfen Rheoli Gwybodaeth Newydd I gofnodi’r dulliau a ddefnyddiwyd ganddynt i sicrhau eu bod wedi dilyn llwybrau ymholi rhesymol o’r dechrau.
Partneriaethau
Strategol
  • Gweithredu argymhellion yr adolygiad traws-Lywodraeth.
  • Rhoi ar y waith y Cynllun Gweithredu ar Dreisio ar y cyd rhwng y CPS/heddlu.
  • Lansio diweddariad o’r protocol ar dreisio ar y cyd â’r heddlu (cynllun gweithredu ar dreisio ar y cyd rhwng y CPS/heddlu).
  • Creu gweithgor traws-asiantaeth RASSO i ystyried y ffordd orau o gasglu, rhannu a dadansoddi data o wahanol rannau o’r system cyfiawnder troseddol.
Ansawdd Gwaith Achos
  • Gweithredu’r argymhellion yn Adroddiad Treisio HMCPSI.
  • Gweithredu proses newydd o ddarparu cyngor ymchwiliadol yn gynnar mewn achosion RASSO. Bydd hyn yn cynnwys ystyried cynnydd effeithiol mewn ymchwiliadau RASSO a system effeithiol rhwng yr heddlu a’r CPS - gan gynnwys achosion a ddychwelwyd at yr heddlu cyn- cyhuddiad (cynllun gweithredu ar dreisio ar y cyd rhwng y CPS/heddlu).
  • Adnewyddu’r rhestr o eiriolwyr sy’n aelodau o’r panel ar gyfer 2020-2024.
Hyder y Cyhoedd
  • Parhau i drafod â grwpiau dioddefwyr gan gynnwys drwy Grŵp Ymgynghorol Allanol Trais yn Erbyn Menywod a Merched, Fforwm Dioddefwyr Gwrywaidd, ac yn lleol drwy Baneli Craffu a Phaneli Cynhwysiant Lleol.
  • Cyhoeddi datganiad polisi cyhoeddus RASSO.
  • Cyhoeddi taith ddigidol, gam wrth gam, drwy’r broses I ddioddefwyr RASSO, gan gynnwys egluro rôl y CPS.
  • Gwella’r cyfathrebu â dioddefwyr achosion ac erlyniadau RASSO, gan gynnwys adolygu’r hyfforddiant ar Gyfathrebu a Chyswllt â Dioddefwyr yn ogystal â materion fel adran 41 o’r Ddeddf Cyfiawnder Ieuenctid a Thystiolaeth Droseddol. Archwilio’r gefnogaeth a’r hyfforddiant ychwanegol i sicrhau cyfathrebu ag empathi (cynllun gweithredu ar dreisio ar y cyd rhwng y CPS/ heddlu).
  • Treialu model newydd ar gyfer cyfathrebu â dioddefwyr (cynllun gweithredu ar dreisio ar y cyd rhwng y CPS/heddlu).
  • Sicrhau bod yr amrediad o fesurau arbennig yn cael eu defnyddio’n effeithiol.
  • Gwella’r cyfathrebu â’r cyswllt gyda Chynghorwyr Troseddau Rhyw Annibynnol (cynllun gweithredu ar dreisio ar y cyd rhwng y CPS/heddlu).

Mae’r tabl canlynol yn nodi’r camau gweithredu sydd eisoes wedi’i cyflawni yn 2020/21:

Tabl 2: Camau Gweithredu a Gyflflawnwyd yn 2020/21
Ein Pobl 
  • Mae ein huwch-arweinwyr yn parhau i weithio gyda rhanddeilaid arbenigol i gryfhau gwybodaeth.
  • Rydym yn cynnig amrywiaeth o hyfforddiant RASSO i erlynwyr, eiriolwyr a rheolwyr, gan gynnwys modiwl ar effaith trawma a chwrs cynefino diwygiedig i weithwyr newydd.
  • Rydym wedi cyhoeddi canllawiau drafft ar ganllawiau therapi cyn-achos i ymgynghori arnynt.
  • Rydym wedi datblygu adnoddau addysgol ar gyfer ein timau RASSO ar y newid yn natur ymddygiad rhywiol.
  • Rydym wedi cyhoeddi pecyn i erlynwyr sy’n ystyried achosion o drais rhywiol o fewn yr un rhyw, a thrais rhywiol yn ymwneud ag achwynwr neu ddiffynnydd croes-rywiol.
  • Rydym yn parhau i gynnig gweithdai Cefnogaeth Lles a gweithdai sy’n benodol ar gyfer Rheolwyr Llinell, sy’n orfodol i bob aelod o staff a rheolwyr llinell.
  • Rydym wedi cyhoeddi adolygiad o’r polisi cylchdroi cyfredol mewn unedau RASSO, gan adlewyrchu barn erlynwyr RASSO.

Mae’r gwaith cenedlaethol hwn yn deillio o amrywiaeth o waith lleol. Er enghraifft:

  • Mae ‘CPS Direct’ wedi datblygu cymorth ychwanegol i staff ar ffurf hyfforddiant gwydnwch i erlynwyr ar ddyletswydd er mwyn rhoi sylw i’r heriau o weithio ar eu pen eu hunain a gweithio y tu allan I oriau.
  • Mae CPS Glannau Merswy-Swydd Gaer wedi cefnogi hyfforddiant i’w cydweithwyr lleol yn yr heddlu ar rôl y CPS, ymchwilio effeithiol ac ymrwymiadau datgelu.
Gallu Digidol
  • Fel rhan o’n Cynllun Cenedlaethol ar Wella Datgelu rydym wedi darparu hyfforddiant gorfodol i’r holl dimau RASSO sy’n ymdrin â llwybrau ymholiad rhesymol, fel mai dim ond y ceisiadau hynny sy’n angenrheidiol ac yn gymesur a gaiff eu gwneud ym mhob achos; a
  • Gwnaethom fynnu bod erlynwyr RASSO yn cwblhau Dogfennau Rheoli Datgelu a’u bod wedi cael hyfforddiant gorfodol arnynt fel bod erlynwyr yn canolbwyntio ar strategaeth ddigidol mewn achosion.
Partneriaethau
Strategol
  • Rydym yn parhau i gymryd rhan gadarnhaol yn yr adolygiad traws-Lywodraeth ar ymateb y system cyfiawnder troseddol I drais ac ymosodiadau rhyw ar oedolion.
  • Rydym yn datblygu cynllun gweithredu RASSO ar y cyd â’r heddlu gyda’r bwriad o’i gyhoeddi’n ddiweddarach eleni.
  • Am y tro cyntaf rydym wedi cyflwyno data’r CPS bob chwarter ar erlyniadau achosion o dreisio.
  • Rydym yn parhau i fonitro a goruchwylio perfformiad achosion o dreisio ar sail feintiol ac ansoddol.

Mae’r gwaith cenedlaethol hwn yn deillio o amrywiaeth o waith lleol. Er enghraifft:

  • Mae sawl Ardal CPS yn cynnal Paneli Craffu a Chynhwysiant Lleol, sy’n ystyried achosion o dreisio er mwyn adnabod problemau a dysgu gwersi i sicrhau gwelliannau yn y dyfodol ynghyd â lledaenu arferion gorau.
  • Mae CPS De Ddwyrain Lloegr wedi sefydlu ac ehangu aelodaeth Cynllun Gwelliant RASSO yn lleol gan dynnu ynghyd tair ardal lluoedd yr heddlu yn ogystal â chynrychiolydd o Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi. Diben y grŵp yw uno prosesau a mecanweithiau adrodd sefydledig er mwyn goruchwylio perfformiad a chyflawni arfer gorau.
  • Mae CPS De Llundain wedi cynnal cyfweliadau anffurfiol rhwng cyfreithiwr RASSO a swyddog i drafod pynciau penodol fel darparu cyngor ymchwiliadol cynnar a llwybrau ymholiadau rhesymol. Ffilmiwyd y cyfweliadau a’u dangos fel rhan o’r Cwrs Hyfforddiant Uwch ar Ddiogelu.
Ansawdd
Gwaith Achos
  • Rydym wedi asesu ein perfformiad o safbwynt RASSO drwy ein Proses Sicrhau Ansawdd fewnol Trais yn Erbyn Menywod a Merched.

Mae’r gwaith cenedlaethol hwn yn deillio o amrywiaeth o waith lleol. Er enghraifft:

  • Mae sawl Ardal CPS wedi sefydlu clinigau a chymorthfeydd gyda chyd-weithwyr yn yr heddlu i drafod strategaeth achosion. Yn ogystal ag adeiladu achosion cryfach, maent hefyd wedi gwella cyfathrebu yn y gwaith a chysylltiadau waith.
  • Mae CPS De Llundain wedi defnyddio recordiadau o gyfweliadau fideo (lle’r oeddent ar gael) i gefnogi datganiadau effaith ar ddioddefwyr. Mae’r adborth gan y farnwriaeth wedi bob yn gadarnhaol a bod y darlun gweledol o brofiad erchyll dioddefwyr wedi bod o fudd mawr i’r Llysoedd a’r drefn ddedfrydu.
Hyder y Cyhoedd
  • Rydym wedi lansio hyfforddiant newydd ar Gyfathrebu a Chyswllt â Dioddefwyr i wella ansawdd y gwasanaeth a gynigir I ddioddefwyr RASSO.

Mae’r gwaith cenedlaethol hwn yn deillio o amrywiaeth o waith lleol. Er enghraifft:

  • Mae CPS Dwyrain Nottingham yn aelod o’r rhwydwaith ‘Sexual Violence Action Network (SVAN)’ sy’n tynnu sefydliadau’r sector statudol a gwirfoddol at ei gilydd i sicrhau bod yna ddulliau effeithiol o weithio mewn partneriaeth mewn achosion o drais rhywiol. Mae SVAN wedi llwyddo i’r fath raddau fel ei fod bellach yn fodel a ddefnyddir gan gynghorau eraill mewn dinasoedd erail  i fynd i’r afael â thrais rhywiol; y rheswm yn rhannol yw cryfder y bartneriaeth a gwerthoedd cyffredin y sefydliadau sy’n aelodau.
  • Mae sawl Ardal CPS yn cyfarfod yn rheolaidd gyda Chynghorwyr Trais Rhywiol Annibynnol i adnabod a mynd i’r afael â phryderon.


 

Available to download

Dreisio a Throseddau Rhyw Difrifol (RASSO) 2025
Scroll to top