Dedfrydu dynion am gynllwynio i ddwyn gan waith dur TATA
Mae tri o weithwyr Tata Steel UK, a gynllwyniodd â dyn arall nad oedd yn gweithio yno i ddwyn ingotau tun oedd werth bron i £1.2 miliwn, wedi cael eu dedfrydu yn Llys y Goron Abertawe.
Roedd Thomas Ashford, 35, Richard Jones, 29, a Stewart Jones, 56 yn gweithio yng ngwaith dur TATA yn Nhrostre, Llanelli. Fe wnaethant helpu Matthew Membury, 32, i gael mynediad at y safle ar sawl achlysur, a’i helpu i gymryd ingotau tun.
Yna, cafodd yr ingotau eu toddi a’u gwerthu i werthwyr sgrap.
Cafodd yr Heddlu wybod am y gweithgarwch a chafodd Ashford, Membury a Stewart Jones eu harestio wrth iddynt geisio gadael y safle gyda thun ar 11 Hydref 2024.
Wrth archwilio'r cerbyd, daethpwyd o hyd i dri chleddyf, a chyfaddefodd Matthew Membury mai ef oedd yn berchen arnynt.
Cafodd Richard Jones ei arestio yn ddiweddarach.
Dywedodd Craig Harding, o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Dyma weithred oedd wedi’i chynllwynio’n ofalus, a oedd yn cynnwys defnyddio cerdyn adnabod TATA ffug.
“Mae'r drosedd hon, yn enghraifft o dor-ymddiriedaeth eithafol gan y rhai oedd yn cael eu cyflogi gan y cwmni, ac roedd rhai ohonynt mewn swyddi rheoli a swyddi diogelwch. Mae wedi costio dros £1 miliwn i'r cwmni.
“Cyflwynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron dystiolaeth gref a arweiniodd at ble euog gan bob un o'r diffynyddion, sydd erbyn hyn wedi cael eu dwyn gerbron y llys am eu trachwant.”
Cafodd y diffynyddion eu dedfrydu fel a ganlyn:
- Thomas Ashford – tair blynedd a phedwar mis o garchar.
- Stewart Jones – tair blynedd a phedwar mis o garchar.
- Richard Jones – 20 mis o garchar, wedi'i ohirio am 2 flynedd, ynghyd â 250 awr o waith di-dâl a chyrffyw wedi'i fonitro'n electronig am 3 mis.
- Bydd Matthew Membury yn cael ei ddedfrydu yn nes ymlaen.
Ni ddaethpwyd o hyd i'r nwyddau, a bydd cyfreithwyr yn mynd ati yn awr i ystyried camau pellach.
Nodiadau i olygyddion
- Daw Matthew Membury (Dyddiad Geni: 26/8/1993) o Landŵr, Abertawe
- Daw Thomas William Neil Ashford (Dyddiad Geni: 16/9/1989) o Dai'r-gwaith, Brynaman
- Daw Stewart Jones (Dyddiad Geni: 2/6/1970) o Lanelli
- Daw Richard Jones (Dyddiad Geni: 10/5/1986) o Townhill, Abertawe
- Plediodd pob un yn euog i gynllwynio i ddwyn rhwng 10 Gorffennaf 2023 a 12 Hydref 2024.
- Plediodd Matthew Membury hefyd yn euog i 3 achos o fod ym meddiant eitem â llafn, oedd yn ymwneud â thri chleddyf
- Mae TATA Steel UK wedi colli gwerth £1,191,011.82
- Mae Craig Harding yn Uwch Erlynydd y Goron yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron Cymru.