Skip to main content

Dedfrydu dynion am gynllwynio i ddwyn gan waith dur TATA

Mae tri o weithwyr Tata Steel UK, a gynllwyniodd â dyn arall nad oedd yn gweithio yno i ddwyn ingotau tun oedd werth bron i £1.2 miliwn, wedi cael eu dedfrydu yn Llys y Goron Abertawe.

Roedd Thomas Ashford, 35, Richard Jones, 29, a Stewart Jones, 56 yn gweithio yng ngwaith dur TATA yn Nhrostre, Llanelli. Fe wnaethant helpu Matthew Membury, 32, i gael mynediad at y safle ar sawl achlysur, a’i helpu i gymryd ingotau tun.

Yna, cafodd yr ingotau eu toddi a’u gwerthu i werthwyr sgrap.

Cafodd yr Heddlu wybod am y gweithgarwch a chafodd Ashford, Membury a Stewart Jones eu harestio wrth iddynt geisio gadael y safle gyda thun ar 11 Hydref 2024.

Wrth archwilio'r cerbyd, daethpwyd o hyd i dri chleddyf, a chyfaddefodd Matthew Membury mai ef oedd yn berchen arnynt.

Cafodd Richard Jones ei arestio yn ddiweddarach.

Dywedodd Craig Harding, o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Dyma weithred oedd wedi’i chynllwynio’n ofalus, a oedd yn cynnwys defnyddio cerdyn adnabod TATA ffug.

“Mae'r drosedd hon, yn enghraifft o dor-ymddiriedaeth eithafol gan y rhai oedd yn cael eu cyflogi gan y cwmni, ac roedd rhai ohonynt mewn swyddi rheoli a swyddi diogelwch. Mae wedi costio dros £1 miliwn i'r cwmni.

“Cyflwynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron dystiolaeth gref a arweiniodd at ble euog gan bob un o'r diffynyddion, sydd erbyn hyn wedi cael eu dwyn gerbron y llys am eu trachwant.”

Cafodd y diffynyddion eu dedfrydu fel a ganlyn:

  • Thomas Ashford – tair blynedd a phedwar mis o garchar.
  • Stewart Jones – tair blynedd a phedwar mis o garchar.
  • Richard Jones – 20 mis o garchar, wedi'i ohirio am 2 flynedd, ynghyd â 250 awr o waith di-dâl a chyrffyw wedi'i fonitro'n electronig am 3 mis.
  • Bydd Matthew Membury yn cael ei ddedfrydu yn nes ymlaen.

Ni ddaethpwyd o hyd i'r nwyddau, a bydd cyfreithwyr yn mynd ati yn awr i ystyried camau pellach.

Nodiadau i olygyddion

  • Daw Matthew Membury (Dyddiad Geni: 26/8/1993) o Landŵr, Abertawe
  • Daw Thomas William Neil Ashford (Dyddiad Geni: 16/9/1989) o Dai'r-gwaith, Brynaman
  • Daw Stewart Jones (Dyddiad Geni: 2/6/1970) o Lanelli
  • Daw Richard Jones (Dyddiad Geni: 10/5/1986) o Townhill, Abertawe
  • Plediodd pob un yn euog i gynllwynio i ddwyn rhwng 10 Gorffennaf 2023 a 12 Hydref 2024.
  • Plediodd Matthew Membury hefyd yn euog i 3 achos o fod ym meddiant eitem â llafn, oedd yn ymwneud â thri chleddyf
  • Mae TATA Steel UK wedi colli gwerth £1,191,011.82
  • Mae Craig Harding yn Uwch Erlynydd y Goron yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron Cymru.
Back to CPS News centre