Pedoffil yn cael ei ddal mewn parti gwaith a’i ddedfrydu am ymosod yn rhywiol ar blentyn
Mae dyn 35 oed wedi cael ei garcharu yn Llys y Goron yr Wyddgrug am gam-drin plentyn yn rhywiol.
Cafodd Ben Caunce ei ddal ar ôl iddo ddangos lluniau ar ei ffôn i gydweithiwr mewn digwyddiad cymdeithasol. Arestiodd yr heddlu Caunce a chymryd ei ddyfeisiau electronig.
Pan archwiliwyd ei ddyfeisiau electronig, daethpwyd o hyd i 187 o luniau llonydd a 43 fideo a oedd yn perthyn i gategori A, sef y math mwyaf difrifol. Roedd rhai ohonynt yn dangos Caunce yn ymosod yn rhywiol ar blentyn.
Dywedodd Catherine Miles o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Mae Ben Caunce yn euog o gyflawni troseddau ffiaidd o gam-drin er mwyn cael boddhad rhywiol.
“Nid oedd y dystiolaeth ddigidol yn yr achos hwn yn gadael unrhyw amheuaeth ynghylch graddfa a difrifoldeb ei droseddau.
“Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi ymrwymo i ddod ag ysglyfaethwyr rhywiol o flaen eu gwell pryd bynnag y bodlonir ein prawf cyfreithiol.”
Cafodd Ben Caunce ei ddedfrydu ar 27 Ebrill 2026 i 16 mlynedd o garchar, gyda chyfnod trwydded estynedig o bum mlynedd, a gorchmynnwyd iddo gofrestru am oes fel troseddwr rhyw. Rhoddwyd Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol amhenodol iddo hefyd.
Nodiadau i olygyddion
- Mae cyfyngiadau adrodd yn berthnasol yn yr achos hwn. Holwch y Llys
- Daw Ben Caunce (Dyddiad Geni: 21/8/1990) o Mancot, Caer
- Plediodd yn euog i:
- 4 ymosodiad rhywiol ar blentyn dan 13 oed;
- 4 ymosodiad ar blentyn dan 13 oed drwy dreiddio;
- bod ym meddiant lluniau anweddus o blentyn - categori A;
- bod ym meddiant lluniau anweddus o blentyn - categori B;
- bod ym meddiant lluniau anweddus o blentyn- categori C;
- tynnu lluniau anweddus o blentyn - categori A;
- tynnu lluniau anweddus o blentyn - categori B;
- tynnu lluniau anweddus o blentyn - categori C;
- dangos lluniau anweddus o blant.
- Mae Catherine Owen yn Uwch Erlynydd y Goron yn uned Trais a Throseddau Rhywiol Difrifol (RASO) Gwasanaeth Erlyn y Goron Cymru
- Catherine Owen is a Senior Crown Prosecutor in the CPS Cymru-Wales RASSO (Rape and Serious Sexual Offences) unit.