Skip to main content

Carcharu dyn am dreisio merch yn ei harddegau

Mae dyn 34 oed a aeth â merch ifanc yn ei harddegau i garafán a'i threisio wedi cael ei dedfrydu yn Llys y Goron Abertawe.

Cerddodd Leon Kidner gyda’r ferch 15 oed i’r garafán ym Mhentywyn, Sir Gaerfyrddin, lle rhoddwyd alcohol a chanabis iddi.

Gofynnodd i’r ferch gael rhyw gydag ef a gwrthododd hi, ond pan syrthiodd i gysgu, fe’i treisiodd.

Cafodd Kidner ei gyhuddo o dair trosedd, yr oedd yn eu gwadu, ond ar ôl clywed yr holl dystiolaeth yn yr achos, cafodd ei ddyfarnu’n euog o’r tair trosedd.

Dywedodd Samantha Mainwaring o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Roedd Leon Kidner wedi manteisio ar y sefyllfa er mwyn cael boddhad rhywiol.

“Defnyddiodd ei bŵer dros y ferch i’w meddwi, gan ei gwneud hyd yn oed yn fwy bregus i’w ymosodiad.

“Roedd tystiolaeth gref Gwasanaeth Erlyn y Goron i’r rheithgor wedi arwain at yr euogfarnau hyn, gan wrthbrofi honiad Kidner bod y gweithredoedd rhywiol yn gydsyniol.

“Roedd y dioddefwr wedi bod yn ddewr drwy riportio’r troseddau a chefnogi’r achos.

“Mae’r treisiwr hwn wedi dod o flaen ei well oherwydd ei chryfder hi.”

Cafodd Leon Kidner ei ddedfrydu ar 2 Mawrth 2026 i ddeng mlynedd o garchar, a Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol am oes. Gorchmynnwyd iddo hefyd gofrestru fel troseddwr rhyw am oes a gosodwyd gorchymyn atal am oes.

Nodiadau i olygyddion

  • Mae cyfyngiadau adrodd yn berthnasol yn yr achos hwn. Holwch y Llys
  • Leon Kidner (Dyddiad geni: 28/1/1992) o Bentywyn, Sir Gaerfyrddin
  • Roedd rheithgor wedi’i gael yn euog o dreisio a 2 ymosodiad drwy dreiddio
  • Cyflawnwyd pob trosedd ar 13 Mehefin 2025
  • Mae Samantha Mainwaring yn Uwch Erlynydd y Goron yn nhîm Trais a Throseddau Rhywiol Difrifol (RASSO) Gwasanaeth Erlyn y Goron Cymru
  • Darllenwch am ein dull gweithredu wedi'i ddiweddaru ar gyfer erlyn troseddau rhywiol difrifol a threisio, troseddau seibr, stelcio a cham-drin domestig yn y fersiwn lawn o strategaeth Trais yn erbyn Menywod a Merched Gwasanaeth Erlyn y Goron 2025-2030, ar ein gwefan: Strategaeth Trais yn erbyn Menywod a Merched 2025-2030 | Gwasanaeth Erlyn y Goron
Back to CPS News centre