Skip to main content

Dyn oedd yn ceisio gorfodi dyled gyffuriau yn cael ei ddedfrydu am ymosod, gyrru’n beryglus a throseddau yn ymwneud ag arfau tanio

Mae dyn a aeth i eiddo yn ne Cymru i orfodi dyled gyffuriau wedi cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd.

Gyrrodd Michael Dumbuya, 27 oed, o Lundain i orfodi dyled gyffuriau, ond aeth i gartref dyn oedd heb ddim i'w wneud â'r mater.

Cafodd y dioddefwr ei lusgo o’i wely yn oriau mân y bore ar 20 Medi 2025, a chael ei ddyrnu a’i gicio dro ar ôl tro, cyn i’r ymosodwr adael.

Llwyddodd yr heddlu i ddod o hyd i gerbyd yr unigolyn oedd dan amheuaeth ar yr M4 ger Caerllion ac fe wnaethant ei ddilyn tan gyffordd 17 lle cafodd wrthdrawiad â gyrrwr arall.

Cafodd Dumbuya ei weld yn dringo allan o’r ffenestr ar ochr y gyrrwr ac fe gafodd ei arestio.

Yng nghar Dumbuya, daeth yr heddlu o hyd i arf tanio bychan, balaclafa, menig, a gwn carbon deuocsid.

Dywedodd Millie Davies o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Profiad dychrynllyd yn wir fyddai cael dieithryn yn ymosod arnoch yn eich cartref ganol nos.

“Roedd Michael Dumbuya wedi cynllunio’r ymosodiad ac wedi arfogi ei hun ag arfau peryglus cyn ymosod ar y dioddefwr.

“Cyflwynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron dystiolaeth oedd yn dangos bod olion DNA Dumbuya ar yr arfau tanio a bod gwaed y dioddefwr ar ei ddillad.

“Ceisiodd Dumbuya ddianc rhag yr heddlu drwy yrru’n gyflym iawn am bellter hir ar y draffordd, gan feddwl dim am ddiogelwch eraill.”

Dedfrydwyd Dumbuya ar 19 Rhagfyr 2025 i 14 mlynedd a 5 mis o garchar gyda thrwydded estynedig o bedair blynedd. Cafodd hefyd ei wahardd rhag gyrru am 15 mlynedd ac 8 mis a gorchmynnwyd iddo gymryd prawf gyrru estynedig.ar 10 Hydref 2025.

Nodiadau i olygyddion

  • Daw Michael Dumbuya (Dyddiad Geni: 27/3/1988) o York Street, Llundain.

  • Plediodd Dumbuya yn euog i yrru’n beryglus; bod ym meddiant arf tanio gyda’r bwriad o beryglu bywyd; bod ym meddiant arf tanio gyda’r bwriad o godi ofn; achosi niwed corfforol. 

  • Mae Millie Davies yn Uwch Erlynydd y Goron yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron Cymru. 

Back to CPS News centre