Dedfrydu deliwr cyffuriau am drosedd caethwasiaeth fodern
Mae dyn o Gaerdydd a hudodd ferch yn ei harddegau i ddosbarthu a danfon cyffuriau ar ei ran wedi ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd.
Fe wnaeth Najib Arab, dyn yn ei ugeiniau, gwrdd â’r ferch ar ôl iddi anfon neges iddo ar Snapchat, ac fe roddodd ganabis iddi.
Bu'r ddau yn cwrdd yn gyson yn ystod yr wythnosau canlynol. Byddai Arab yn archebu tacsis i ddod â’r ferch i’w gartref, ac yno byddai hi’n dosbarthu canabis i fagiau. Byddai Arab yn dweud wrthi sut i guddio cyffuriau arni a sut i gymryd arian gan y bobl yr oedd hi’n rhoi'r cyffuriau iddynt.
Ar un achlysur, roedd y ferch yn ei harddegau wedi gorfod rhoi cetamin mewn bagiau ar wahân ac fe gafodd hi ychydig o'r cyffur i’w ddefnyddio ei hun.
Pan wnaeth yr heddlu chwilio tŷ Arab ym mis Mai 2024, cafodd y ferch ei chanfod yng nghefn yr eiddo ac roedd Arab yn y tŷ hefyd.
Fe wnaeth Arab wadu gwneud i'r ferch gymryd rhan yn ei waith delio cyffuriau, ond ar ôl clywed yr holl dystiolaeth oedd ar gael cafodd y rheithgor ef yn euog o drosedd caethwasiaeth fodern.
Dywedodd Louisa Robertson o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Fe wnaeth Najib Arab hudo plentyn bregus i gymryd rhan yn ei waith masnachu anghyfreithlon drwy roi cyffuriau am ddim iddi.
“Roedd o’n ei rheoli ac yn cynnig cyffuriau iddi fel ffordd o wneud iddi gydymffurfio.
“Mae'r ffordd y mae troseddwyr yn cam-fanteisio ar blant yn warthus.
“Bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn defnyddio holl rym y gyfraith i ddod â’r troseddwyr hynny sydd yn cam-fanteisio ar blant er budd eu henillion troseddol eu hunain gerbron y Llys.”
Dedfrydwyd Najib Arab ar 1 Gorffennaf 2025 i saith mlynedd o garchar gyda chyfnod trwydded estynedig o ddwy flynedd.
Diwedd.
Nodiadau i olygyddion
- Mae cyfyngiadau ar adrodd yn ein rhwystro rhag enwi’r ferch yn ei harddegau
- Mae Najib Arab yn dod o Pen y Wain Road, Caerdydd
- Fe blediodd Arab yn euog i Ymwneud â chyflenwi canabis (1 Mawrth 2024 - 17 Awst 2024); Ymwneud â chyflenwi cetamin (1 Mawrth 2024- 30 Mai 2024)
- Cafwyd Arab yn euog gan y rheithgor o’r drosedd o fynnu bod unigolyn yn cyflawni gwaith gorfodol / drwy rym, yn groes i adran 1(1)b o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015
- Mae Louisa Robertson yn Erlynydd Arbenigol yn Uned Gwaith Achos Cymhleth Gwasanaeth Erlyn y Goron Cymru.