Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Y dyfarniad a’r ddedfryd

Mae gennych hawl dan y Cod Dioddefwyr i gael gwybodaeth am ganlyniad yr achos. Gallwch ddewis mynd i’r llys i glywed y rheithfarn. Fodd bynnag, nid yw byth yn glir pryd y bydd rheithgor yn dod i benderfyniad – gallai gymryd oriau neu sawl diwrnod.  

Gallwch hefyd ddewis bod yn bresennol yn y gwrandawiad dedfrydu. Os byddwch yn dewis peidio â dod, bydd eich cyswllt yn yr heddlu yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr hyn sy’n digwydd. 

I ganfod y diffynnydd yn ‘euog’, rhaid i’r rheithgor fod yn siŵr bod y diffynnydd yn euog. Weithiau byddwch yn clywed hyn yn cael ei ddisgrifio fel ‘yn siŵr y tu hwnt i amheuaeth resymol’ neu yn ‘fodlon fel eich bod yn siŵr’.

Os nad yw’r rheithgor yn siŵr a yw’r diffynnydd yn euog yna rhaid iddynt ei gael yn ‘ddieuog’. 

Mae’r barnwr yn gofyn i’r rheithgor ddod i ddyfarniad unfrydol – mae hynny’n golygu y dylent i gyd gytuno a yw’r diffynnydd yn ‘euog’ neu’n ‘ddieuog’. Os na allant wneud hynny ar ôl ystyried a thrafod y dystiolaeth yn ofalus, gall y barnwr ganiatáu iddynt ddod i benderfyniad mwyafrif o 10 o bobl o leiaf. 

Os ceir diffynnydd yn ‘Ddieuog’, mae’r achos wedi dod i ben a chaiff adael y llys. Os yw wedi cael ei gadw yn y carchar yn ystod y treial, bydd yn cael ei ryddhau ar unwaith.

Os ceir y diffynnydd yn ddieuog, nid yw hynny’n golygu nad oeddech wedi’ch credu neu fod pobl yn meddwl eich bod yn dweud celwydd. Mae’n golygu’n syml na allai’r rheithgor fod yn ‘fodlon fel eu bod yn siŵr’ bod y diffynnydd yn euog.

Os ceir y diffynnydd yn ‘euog’, gall y barnwr naill ai ddedfrydu’r diffynnydd ar unwaith neu gall ohirio’r gwrandawiad dedfrydu i ofyn am ragor o wybodaeth i’w helpu i benderfynu beth ddylai’r ddedfryd fod.

Gall hyn gynnwys adroddiad ‘cyn-dedfrydu’, a ysgrifennir gan y gwasanaeth prawf, sy’n darparu asesiad annibynnol o’r troseddwr a’r risgiau a berir ganddo.

Byddwn hefyd yn rhoi eich ‘Datganiad Personol Dioddefwr’ i’r llys os ydych wedi ysgrifennu un. Bydd yr heddlu’n gofyn i chi a hoffech chi ysgrifennu un yn ystod yr ymchwiliad – dyma eich cyfle chi i egluro sut mae’r drosedd wedi effeithio arnoch chi. Os hoffech ddarparu datganiad personol dioddefwr wedi’i ddiweddaru, dylech siarad â’ch cyswllt yn yr heddlu, a fydd yn trefnu i chi wneud hyn.

Os hoffech ddarllen eich ‘Datganiad Personol Dioddefwr’ yn uchel i’r llys, yna gallwn wneud cais i’r llys i chi gael gwneud hyn. Fel arall, bydd yr erlynydd yn ei ddarllen i’r llys ar eich rhan.

Os hoffech ddarllen eich ‘Datganiad Personol Dioddefwr’ i’r llys eich hun, mae gennych hawl i gael mesurau arbennig i wneud hynny a byddwn yn talu am eich treuliau fel o’r blaen.

Yna bydd y barnwr yn defnyddio’r wybodaeth honno i benderfynu pa ddedfryd y bydd y diffynnydd yn ei derbyn yn unol â’r canllawiau dedfrydu ar gyfer y drosedd y mae wedi’i gael yn euog ohoni.

Pennir canllawiau dedfrydu gan y Cyngor Dedfrydu yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr. Gallwch ddarllen rhagor am ddedfrydu ar eu gwefan.

Os yw’r diffynnydd wedi’i gadw yn y carchar yn disgwyl am y treial, bydd fel arfer yn cael ei anfon yn ôl i’r carchar i aros am y ddedfryd os yw’n debygol y bydd yn cael dedfryd o garchar gan y barnwr. Fel arfer, bydd unrhyw amser y mae’r diffynnydd eisoes wedi’i dreulio yn y carchar yn aros am y treial yn cyfrif fel rhan o’i ddedfryd.

Os byddwch yn penderfynu peidio â dod i’r gwrandawiad dedfrydu, yna bydd yr heddlu’n rhoi gwybod i chi beth ddigwyddodd ar ôl iddo orffen.

Os na all y rheithgor ddod i benderfyniad (naill ai ‘euog’ neu ‘ddieuog’), yna rhaid i erlynydd Gwasanaeth Erlyn y Goron benderfynu a ddylid cynnal treial arall ai peidio. Byddai’n rhaid i’r treial hwn ddechrau o’r newydd, gan wrando ar yr holl dystiolaeth eto, gyda rheithgor newydd sbon.

I wneud y penderfyniad hwnnw, bydd yn ystyried ein prawf dau gam eto:

  • A oes digon o dystiolaeth o hyd i ddarparu siawns realistig o gael euogfarn – a oes unrhyw beth wedi newid yn ystod y treial cyntaf ac a yw’r tystion yn dal yn fodlon ac ar gael i roi tystiolaeth eto?
  • A yw’r treial yn dal er budd y cyhoedd – er enghraifft, a fyddai oedi hyd nes y byddai treial newydd yn newid unrhyw beth ac a yw’r oedi hwnnw’n gymesur â’r ddedfryd y byddai’r diffynnydd yn debygol o’i chael?
  • Bydd yr erlynydd hefyd yn ystyried eich barn chi fel dioddefwr.

Os penderfynwn fwrw ymlaen â threial newydd, bydd y llys yn pennu dyddiad ar gyfer cychwyn y treial.

Os penderfynwn beidio â bwrw ymlaen â threial arall, rhaid i ni wneud penderfyniad ffurfiol i beidio â chynnig tystiolaeth. Mae hynny’n golygu bod yr achos yn cael ei stopio, bydd y diffynnydd yn cael ei ryddhau ac yn cael ei ddyfarnu’n ddieuog o’r trosedd(au) yn ffurfiol.

Pa gymorth sydd ar gael ar ôl i’r treial ddod i ben?

Mae llawer o wasanaethau cymorth yn parhau i ddarparu cymorth ar ôl i dreial ddod i ben. Gall mynd drwy dreial fod yn anodd ac mae’n naturiol bod angen mwy o amser a chymorth arnoch i brosesu’r hyn sydd wedi digwydd.

Mae gan Gymorth i Ddioddefwyr dimau ledled Cymru a Lloegr sy’n gallu cynnig cymorth lleol ac mae eu llinell gymorth genedlaethol ar agor 24/7. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn victimsupport.org.uk/help.

Scroll to top