Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Pa gymorth sydd ar gael i’ch helpu

Mae gennych hawl dan y Cod Dioddefwyr i gael eich cyfeirio at wasanaethau sy’n cefnogi dioddefwyr. Gallwch gysylltu â nhw eich hun neu gallwch ofyn i’ch cyswllt yn yr heddlu eich cyfeirio. Dyma rai enghreifftiau o’r mathau o wasanaethau a chymorth a allai fod yn ddefnyddiol i chi. 

Os oes angen help arnoch mewn argyfwng unrhyw bryd, ffoniwch 999. 

Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Rhywiol

Gall Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Rhywiol (a elwir hefyd yn ISVA), ddarparu cymorth, cyngor a help proffesiynol i ddioddefwyr trais rhywiol, p’un a ydych yn rhoi gwybod i’r heddlu ai peidio. Os byddwch yn rhoi gwybod am y digwyddiad i’r heddlu, gall eich cynghorydd eich cefnogi drwy’r broses cyfiawnder troseddol, gan gynnwys mynd gyda chi ar ddiwrnod y treial neu ymweliad llys cyn-treial. Mae yna dri grŵp ymbarél cenedlaethol sy’n darparu gwasanaethau ISVA:

Gallwch gysylltu ag unrhyw un o’r sefydliadau hyn i gael gwybod mwy am wasanaethau ISVA ac i wneud cais am ISVA. Gallwch hefyd ofyn i’r heddlu eich cyfeirio at wasanaeth ISVA.

Cwnsela a therapi

Ceir gwasanaethau arbenigol sy’n darparu cwnsela a therapi i ddioddefwyr trais rhywiol ac ymosodiad rhywiol difrifol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan y sefydliadau canlynol:

Gallwch hefyd gael gafael ar gwnsela a therapïau seicolegol eraill gan y GIG.

Dylech roi blaenoriaeth i’ch lles. Nid oes angen gohirio therapi neu gwnsela am unrhyw reswm sy’n gysylltiedig ag ymchwiliad neu erlyniad troseddol. Os ydych chi’n teimlo y byddai’n helpu, mae’n bwysig cael gafael arno cyn gynted â phosibl.

Y Gwasanaeth Tystion

Gall y Gwasanaeth Tystion, sy’n cael ei redeg gan Gyngor ar Bopeth, eich helpu i ddeall beth i’w ddisgwyl yn y llys drwy gynnig cymorth cyn-treial ac ymweliad â’r llys cyn y diwrnod. Mae hyn yn golygu y byddant yn eich tywys o amgylch llys ac yn egluro beth fydd yn digwydd ar y diwrnod.

Byddant yno hefyd i’ch cefnogi ar ddiwrnod y treial a gallant ddod gyda chi i ystafell y llys os byddai hynny o gymorth i chi. Gall yr heddlu eich cyfeirio at y Gwasanaeth Tystion neu gallwch ofyn am gymorth ganddynt eich hun drwy lenwi eu ffurflen fer. Yn Llundain, darperir cymorth cyn treial gan Gymorth i Ddioddefwyr.

Cymorth arbenigol arall

Mae sefydliadau arbenigol eraill sy’n darparu cymorth i ddioddefwyr trais a cham-drin rhywiol. Mewn llawer o achosion, mae’r cymorth y maent yn ei gynnig ar gael, ni waeth a ydych yn dewis rhoi gwybod i’r heddlu am y digwyddiad ai peidio. Os byddwch yn penderfynu rhoi gwybod am y digwyddiad, mae cymorth ar gael drwy gydol y broses cyfiawnder troseddol.

Mae sefydliadau arbenigol eraill sy’n darparu cymorth i ddioddefwyr trais a cham-drin rhywiol. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan Gwybodaeth i Ddioddefwyr a Thystion y Weinyddiaeth Cyfiawnder ac ar y dudalen cymorth trais a cham-drin rhywiol.

Cynllun a ariennir gan y llywodraeth yw’r Cynllun Digolledu am Anafiadau Troseddol, a’i nod yw digolledu dioddefwyr troseddau treisgar.

Efallai y bydd gennych hawl i gael iawndal os ydych wedi dioddef anaf neu golled o ganlyniad i drosedd. Mae’r cynllun wedi’i gynllunio i fod yn un o’r dewisiadau olaf i ddioddefwyr, nad oes ganddynt unrhyw ffordd arall o gael iawndal.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cynllun a’r terfynau amser ar gyfer gwneud cais yn y canllaw ar iawndal am anafiadau troseddol ar gov.uk.

Cymorth i roi eich tystiolaeth

Os bydd eich achos yn mynd i dreial, mae cefnogaeth ar gael i’ch helpu i roi eich tystiolaeth. Gallwch ddarllen mwy am hyn yn yr adran Cymorth i roi eich tystiolaeth.

Scroll to top