Dedfrydu bachgen yn ei arddegau am drywanu athrawes yn yr ysgol
Mae bachgen 16 oed wedi cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe am drywanu athrawes yn ei phen.
Aeth y disgybl, a oedd yn 15 oed bryd hynny, i ystafell ddosbarth yn Ysgol Gyfun Aberdaugleddau ar 5 Chwefror 2026 lle’r oedd yr athrawes a gofynnodd iddi wirio rhywfaint o’i waith.
Yna, tynnodd gyllell gegin o’i fag a thrywanu’r athrawes gan anafu top ei phen. Cafodd yr athrawes doriadau i’w dwylo hefyd wrth iddi geisio gafael yn y gyllell i’w hatal rhag cael ei defnyddio eto a llwyddodd i dynnu’r gyllell o afael y bachgen.
Rhedodd y bachgen i ffwrdd a chafodd ei arestio gan yr heddlu yn nes ymlaen y prynhawn hwnnw.
Yn y Llys, cyfaddefodd y bachgen na ellir ei enwi oherwydd ei oed, fod ganddo lafn ar dir yr ysgol ond gwadodd iddo geisio llofruddio’r athrawes.
Ar ôl gwrando'r holl dystiolaeth yn yr achos, canfu rheithgor nad oedd y bachgen yn euog o ymgais i lofruddio ond yn euog o glwyfo gan fwriadu achosi niwed corfforol difrifol.
Dywedodd Jonathan Pritchard o Wasanaeth Erlyn y Goron: "Roedd hwn yn drais brawychus yn erbyn athrawes a oedd yn gwneud ei gwaith.
"Mae cyllyll yn achosi anafiadau ofnadwy sy’n gallu arwain yn aml at ganlyniadau angheuol.
"Roedd yr athrawes wedi bod yn ddewr iawn mewn digwyddiad cwbl frawychus.
"Roedd y dystiolaeth gref a gyflwynwyd gan Wasanaeth Erlyn y Goron wedi arwain at yr euogfarnau hyn, a gobeithio byddant yn rhoi rhywfaint o gysur i ddioddefwr yr ymosodiad erchyll hwn.”
Dedfrydwyd y bachgen ar 3 Medi 2026 i bedair blynedd a hanner o garchar.
Nodiadau i olygyddion
- Mae cyfyngiadau adrodd yn berthnasol yn yr achos hwn. Holwch Lys y Goron.
- Mae Jonathan Pritchard yn Uwch Erlynydd y Goron yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron Cymru.