Skip to main content

Pum unigolyn wedi’u dedfrydu am droseddau sy’n ymwneud â masnachu merched yn eu harddegau a’u cam-drin yn rhywiol

Mae grŵp o bedwar dyn ac un fenyw wedi’u dedfrydu yn Llys y Goron Caernarfon am eu rhannau mewn masnachu tair merch agored i niwed yn eu harddegau a’u cam-drin yn rhywiol.

Left to right: Iqbal, Arshad, Badshah, Singh, Gray

Cafwyd Mustafa Iqbal, 43, yn euog o dreisio dwy ferch, tra bod Mohammed Arshad, 36, a Ziaullah Badshah, 25, wedi’u cael yn euog o dreisio un o’r merched.

Dechreuodd y troseddu yn 2022 pan gyfarfu Iqbal â dwy o’r merched yn y Rhyl ac aeth â nhw i’w gartref.

Cyrhaeddodd Badshah ac Arshad yr eiddo. Yn ystod y noson, rhoddwyd canabis a fodca i’r merched.

Parhaodd y cyswllt rhwng y tri dyn a’r ddwy ferch, a daeth Jaswinder Singh, 61, yn rhan o’r sefyllfa drwy yrru’r merched o amgylch a rhoi canabis iddynt.

Dros yr wythnosau canlynol, cyfarfu Iqbal, Arshad a Badshah â’r un ddwy ferch a’u cam-drin yn rhywiol.

Aeth Singh ag un o’r merched a gafodd ei cham-drin i Lundain, a chysylltodd unigolyn pryderus â’r heddlu.

Cysylltodd trydedd merch yn y Rhyl, a oedd eisiau prynu cyffuriau, ag Iqbal, a wnaeth ei threisio sawl gwaith dros gyfnod o dri mis.

Rhoddodd Iqbal gyffuriau i Sarah Gray, 53, a oedd yn newydd i ardal y Rhyl, am iddi ganiatáu iddo ddefnyddio ei heiddo i gam-drin y drydedd ferch. Amharodd Gray hefyd ar dystiolaeth drwy geisio golchi DNA i ffwrdd.

Cyflawnodd Iqbal drosedd hefyd mewn perthynas â phederwydd merch yn ei harddegau, lle y torrodd Orchymyn Risg Caethwasiaeth a Masnachu a osodwyd gan lys ynadon, yn ei wahardd rhag cysylltu ag unrhyw un o dan 18 oed.

Meddai Louisa Robertson o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Manteisiodd Iqbal, Arshad a Badshah yn rhywiol ar y plant hyn gan ddefnyddio alcohol a chyffuriau i’w gorfodi.

“Roedd Singh a Gray wedi chwarae rhan mewn ecsbloetio merched agored i niwed.

“Mae unrhyw gam-drin rhywiol yn ffiaidd, ac mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cymryd pob cyhuddiad o gam-drin o ddifri.

“Dangosodd dioddefwyr y troseddau dychrynllyd hyn ddewrder mawr wrth siarad yn erbyn eu camdrinwyr, a’u cryfder nhw sydd wedi ein galluogi i ddwyn pawb a gyhuddwyd o flaen eu gwell.”

Dedfrydwyd yr amddiffynwyr ar 25 Medi 2026 i:

  • Mustafa Iqbal – 30 mlynedd o garchar gyda thrwydded estynedig am 5 mlynedd ac fe’i gorchmynnwyd i gofrestru fel troseddwr rhyw am oes. Gosodwyd Gorchymyn Atal Caethwasiaeth a Masnachu hefyd.
  • Mohammed Arshad – 19 mlynedd o garchar ac fe’i gorchmynwyd i gofrestru fel troseddwr rhyw am oes. Gosodwyd Gorchymyn Atal Caethwasiaeth a Masnachu hefyd.
  • Ziaullah Badshah – 17 mlynedd o garchar ac fe’i gorchmynwyd i gofrestru fel troseddwr rhyw am oes. Gosodwyd Gorchymyn Atal Caethwasiaeth a Masnachu hefyd.
  • Jaswinder Singh – 8 mlynedd o garchar a gosodwyd Gorchymyn Atal Caethwasiaeth a Masnachu.
  • Sarah Gray – 8 mlynedd o garchar a gosodwyd Gorchymyn Atal Caethwasiaeth a Masnachu.

 

Nodiadau i olygyddion

  • Mae cyfyngiadau adrodd yn berthnasol yn yr achos hwn. Gwiriwch â Llys y Goron
  • Daw Mustafa Iqbal (Dyddiad geni: 3/12/1982) o’r Rhyl. Fe’i cafwyd yn euog o 3 x masnachu plant, 3 x llafur gorfodol, 3 x cyflenwi cyffuriau, 4 x treisio, 3 x ymosodiad rhywiol, 3 x annog plentyn i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol, 1 x torri Gorchymyn Atal Caethwasiaeth a Masnachu
  • Daw Mohammed Arshad (Dyddiad geni: 11/12/1989) o’r Rhyl. Fe’i cafwyd yn euog o 2 x masnachu plant, 2 x llafur gorfodol, 1 x cyflenwi cyffuriau, 3 x treisio
  • Daw Ziaullah Badshah (Dyddiad geni: 1/1/2001) o’r Rhyl. Fe’i cafwyd yn euog o 2 x masnachu plant, 2 x llafur gorfodol, 1 x cyflenwi cyffuriau, 2 x treisio
  • Daw Jaswinder Singh (Dyddiad geni: 10/3/1965) o’r Rhyl. Fe’i cafwyd yn euog o 2 x masnachu plant, 1 x cyflenwi cyffuriau
  • Daw Sarah Gray (Dyddiad geni: 16/2/1973) o Gronant. Fe’i cafwyd yn euog o 2 x cyflenwi cyffuriau, 1 x annog llafur gorfodol, 1 x gwyrdroi cwrs cyfiawnder
  • Mae Louisa Robertson yn Erlynydd Arbenigol yn Uned Gwaith Achos Cymhleth Gwasanaeth Erlyn y Goron Cymru.
Back to CPS News centre