Dynion wedi eu dedfrydu am losgi bwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd ar ôl rhoi tŷ ar dân
e dau ddyn a roddodd dŷ teras ar dân yn Nhrethomas wedi cael eu dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd.
Roedd Dean Reddington, 40 oed, yn deithiwr yn y cerbyd Vauxhall a oedd yn cael ei yrru gan Dean Eastwood, 34 oed. Roeddent wedi gyrru i'r stryd yn Nhrethomas yn hwyr y nos ar 25 Mehefin 2025.
Roedd preswylydd y tŷ newydd barcio ei char ac roedd ar y stryd pan sylwodd ar y Vauxhall. Daeth y ddau ddyn allan o'u cerbyd, yn cario cynwysyddion gyda thiwbiau arnynt, ac aeth Reddington at dŷ'r fenyw a malu ffenestr. Yna gwelwyd fflamau yn llosgi blaen y tŷ.
Rhedodd y gyrrwr, Eastwood, ar ôl y fenyw a lwyddodd i ddianc.
Gyrrodd y ddau ddyn i ffwrdd o'r ardal a daeth yr heddlu o hyd iddynt yn fuan wedyn, wedi parcio ar y llain galed ar draffordd yr M4. Sylwodd y swyddog a oedd yn bresennol fod Reddington wedi cael briw ar ei law a oedd yn gwaedu.
Dywedodd Millie Davies o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Roedd gweithredoedd y ddau ddyn yn fwriadol ac wedi’u cynllunio, a hwythau wedi gyrru i Drethomas i roi'r tŷ ar dân.
“Wnaethon nhw ddim ystyried diogelwch unrhyw un a allai fod wedi bod yn yr eiddo na pherchnogion tai eraill.
“Mae'n rhaid bod hwn wedi bod yn brofiad brawychus i'r dioddefwr a'r preswylwyr eraill.
“Cyflwynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron dystiolaeth gref i’r Llys, a arweiniodd at yr euogfarnau hyn.”
Cafodd y ddau ddyn eu dedfrydu ar 16 Medi 2025 i chwech mlynedd a naw mis o garchar bob un.
Nodiadau i olygyddion
- Daw Dean Eastwood (dyddiad geni: 6/4/1991) o Ddulyn, Iwerddon.
- Daw Dean Reddington (dyddiad geni: 20/2/1985) o Ddulyn, Iwerddon.
- Mae Trethomas ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.
- Mae Millie Davies yn Uwch Erlynydd y Goron yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron Cymru.