Dyn wedi’i ddedfrydu am lofruddio ei fam
Mae dyn 18 oed a laddodd ei fam â morthwyl wedi cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron yr Wyddgrug.
Cynlluniodd Tristan Roberts y drosedd yn ystod yr wythnosau cyn y llofruddiaeth, gan ymchwilio i ddulliau lladd, a phrynu arfau posibl fel cyllyll a bwyell.
Dechreuodd ymosod ar ei fam, Angela Shellis, 45 oed, yn eu cartref ym Mhrestatyn, yn hwyr gyda’r nos ar 23 Hydref 2025. Yna, fe’i perswadiodd i adael y tŷ, gan ddweud wrthi y byddai’n mynd â hi i gael cymorth meddygol.
Cerddodd y ddau drwy Warchodfa Natur Prestatyn lle tynnodd forthwyl o’i fag cefn a lladd ei fam drwy ei tharo sawl gwaith ar ei phen.
Cafodd tystiolaeth ddigidol ei hadfer o liniadur Roberts a oedd yn dangos, ynghyd â’r gwaith cynllunio yr oedd wedi’i wneud, ei fod wedi ymchwilio i sut i gael gwared ar olion gwaed a DNA.
Dywedodd Andrew Slight o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Roedd lefel y cynllunio a wnaeth Tristan Roberts cyn cyflawni’r drosedd ddychrynllyd hon yn fanwl ac yn fwriadus.
“Mae’n rhaid bod eiliadau olaf ei fam wedi bod yn frawychus, ond wnaeth y diffynnydd ddim dangos gofid nac edifeirwch am ei weithredoedd.
“Roedd y dystiolaeth gref a gyflwynwyd gerbron Gwasanaeth Erlyn y Goron yn rhoi darlun clir ac yn dangos bwriad Roberts, a arweiniodd ato’n pledio’n euog.
“Er bod yr achos hwn wedi dod i ben, rydyn ni’n dal i feddwl am deulu a ffrindiau Angela sy’n teimlo’r ergyd ofnadwy o’i cholli.”
Dedfrydwyd Tristan Roberts i garchar am oes ar 25 Mawrth 2026, a gorchmynnwyd iddo aros yno am o leiaf 22 mlynedd a chwe mis.
Nodiadau i olygyddion
- Daw Tristan Thomas Roberts (dyddiad geni: 13/10/2007) o Brestatyn
- Dywedodd adroddiadau seiciatrig fod y diffynnydd yn ffit i bledio
- Plediodd yn euog i lofruddiaeth, a gyflawnwyd ar 24 Hydref 2025
- Bu Angela Shellis farw yn 45 oed
- Mae Andrew Slight yn Uwch Erlynydd y Goron yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) Cymru.