Skip to main content

Dyn oedd yn byw “oddi ar y grid” wedi’i garcharu am ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol

Mae dyn a ymosododd ar ei bartner a rheoli ei chyswllt â’i theulu a’i chymuned wedi cael ei garcharu yn Llys y Goron Casnewydd.

Roedd Antonio Villafane, 67, sydd hefyd yn cael ei alw’n Anthony Manson, yn byw gyda’i bartner mewn carafán ger Tyndyrn yn Sir Fynwy.

Dros gyfnod o bron i chwe blynedd, bu’n cam-drin ei bartner drwy ei chloi yn y garafán, cyfyngu ar yr hyn roedd hi’n ei fwyta neu ei gorfodi i fwyta, ac ymosod arni. Byddai hefyd yn ei chlymu, yn rheoli ei chyswllt â’i theulu ac yn ei gorfodi i weithio ar y tir.

Weithiau byddai Villafane yn defnyddio arfau i ymosod arni. Ar un achlysur defnyddiodd brocer tân poeth i’w llosgi, ac ar achlysur arall defnyddiodd ffon gerdded i’w tharo ar ei phen. Roedd hefyd wedi taro ei choes gyda neddyf, sef arf tebyg i fwyell.

Byddai yn gorfodi ei bartner i wisgo fêl dros ei hwyneb i guddio ei chleisiau.

Dywedodd Villafane wrth y dioddefwr y byddai'n prynu tir yn enwau’r ddau ohonynt, ac fe’i perswadiodd hi i drosglwyddo £250,000 i’w gyfrif banc. Defnyddiodd yr arian i brynu’r tir yn ei enw ef yn unig.

Dywedodd Sarah Harding, o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Mae Antonio Villafane yn ddyn treisgar ac ystrywgar.

“Roedd yn rheoli pob agwedd o fywyd ei bartner, gan benderfynu beth roedd hi’n ei wneud, pwy oedd hi’n ei weld, a beth roedd hi’n ei wisgo.

“Gwadodd Villafane y troseddau, ond arweiniodd y dystiolaeth gref a gyflwynwyd gan Wasanaeth Erlyn y Goron at ddyfarniad euog gan y rheithgor.

“Dangosodd y dioddefwr ddewrder aruthrol a daeth llawer o’r dystiolaeth yn uniongyrchol ganddi hi. Rydym yn ddiolchgar iawn iddi am ei holl gymorth yn yr achos hwn.
 
“Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cymryd pob achos o gam-drin domestig o ddifri a byddwn ni’n parhau i weithio gyda’n partneriaid yn y system cyfiawnder troseddol i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell.”

Cafodd Antonio Villafane ei ddedfrydu ar 26 Tachwedd 2025 i gyfanswm o wyth mlynedd o garchar a gwnaed gorchymyn atal amhenodol.

Nodiadau i olygyddion

  • Daw Antonio Angel Villafane, sydd hefyd yn cael ei alw’n Anthony Louis Manson, (dyddiad geni: 7/12/1957) o Dyndyrn, Sir Fynwy
  • Fe’i cafwyd yn euog o chwe throsedd, sef:
    • Ymddygiad rheolaethol neu orfodaethol mewn perthynas agos neu deuluol (rhwng 29 Rhagfyr 2022 a 25 Gorffennaf 2022) oedd yn cynnwys; bygwth y dioddefwr dro ar ôl tro, ei phwnio, ei llosgi â phocer, ceisio ei boddi, rheoli ei chyswllt â’i theulu, ei gorfodi i weithio ar y tir, gwneud iddi wisgo burqa i guddio ei hanafiadau, ei tharo a ffon gerdded a throsglwyddo £250,000 i’w gyfrif banc ef
    • Clwyfo anghyfreithlon rhwng 1 Ionawr 2015 a 25 Gorffennaf 2022
    • Gwir niwed corfforol (â phrocer tân) rhwng 1 Ionawr 2015 a 25 Gorffennaf 2022
    • Gwir niwed corfforol (â neddyf) rhwng 1 Ionawr 2015 a 25 Gorffennaf 2022
    • Twyll rhwng 1 Ionawr 2015 a 31 Rhagfyr 2020
    • Tagu bwriadol rhwng 29 Rhagfyr 2015 a 25 Gorffennaf 2022
  • Mae Sarah Harding yn Uwch Erlynydd y Goron yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron Cymru.
Back to CPS News centre