Skip to main content

Dyn o Orseinon wedi'i garcharu am ymgais i lofruddio

Mae dyn ugain oed a drywanodd ddyn arall y tu allan i dafarn yng Ngorseinon wedi cael ei ddedfrydu i garchar yn Llys y Goron Abertawe.

Digwyddodd yr ymosodiad y tu allan i'r New Lodge yng Ngorseinon, Abertawe yn oriau mân 22 Mehefin 2025.

Roedd Kane Evans eisoes wedi cweryla gyda phobl mewn car y tu allan i'r dafarn yn gynharach y noson honno. Camodd Morgan Hopkins, y dioddefwr, i mewn i dawelu'r sefyllfa, gan berswadio Evans i fynd oddi yno.

Rai oriau'n ddiweddarach, roedd Mr Hopkins y tu allan i'r dafarn pan ddaeth Evans ato gyda chyllell yn ei feddiant. Defnyddiodd y gyllell honno i drywanu Mr Hopkins sawl gwaith.

Dywedodd Nia Sturgess o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Roedd hwn yn ymosodiad didrugaredd a chreulon a achosodd anafiadau ofnadwy.

“Dewisodd Kane Evans ddod â'r gyllell i'r dafarn, a'i defnyddio, ac mae bellach yn wynebu cyfiawnder am ei weithredoedd.

“Cyflwynwyd tystiolaeth gref gerbron Gwasanaeth Erlyn y Goron, a phlediodd y diffynnydd yn euog.

“Yn rhy aml o lawer, gall trais gyda chyllyll fod yn angheuol.

“Diolch byth, nid oedd hynny'n wir yn yr achos hwn, a gobeithiwn y bydd Mr Hopkins yn gwella'n llwyr.”

Ar 19 Rhagfyr 2025 yn Llys y Goron Abertawe, cafodd Kane Evans ei ddedfrydu i 17 mlynedd a chwe mis o garchar gyda thrwydded estynedig o bum mlynedd.

Nodiadau i olygyddion

  • Daw Kane Marc Evans (dyddiad geni: 22/10/2004) o Orseinon, Abertawe
  • Plediodd yn euog i ymgais i lofruddio a bod â gwrthrych â llafn yn ei feddiant
  • Cafodd Morgan Hopkins ddeg anaf i'w dorso a'i fraich
  • Mae Nia Sturgess yn Uwch Erlynydd y Goron yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron Cymru.
Back to CPS News centre