Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Dyn 80 oed wedi’i ddedfrydu am lofruddio ei wraig mewn digwyddiad domestig trasig

|News, Violent crime , Domestic abuse

Mae dyn lofruddiodd ei wraig wedi cael ei ddedfrydu heddiw i garchar am oes yn Llys y Goron Abertawe.

Plediodd David Clarke yn euog i lofruddiaeth Helen Clarke ar 22 Medi 2023 gan dderbyn iddo ymosod arni dro ar ôl tro gyda morthwyl cyn ei throchi â phetrol a rhoi’r cerbyd ar dân.

Ar fore 22 Medi 2023 anfonodd David Clarke neges destun at ei blant yn dweud ‘Rwy’n eich caru chi’. Cafodd David a Helen Clarke eu dal ar deledu cylch cyfyng yn gadael eu cartref yng ngherbyd y diffynnydd am 7.48am. Yn ddiweddarach gwelwyd y cerbyd wedi’i barcio ar Lôn Sgeti. Roedd modd gweld y diffynnydd yn mynd at y gist ac ochr teithiwr y cerbyd, lle roedd Helen Clarke. Yna gwelodd tystion fflamau yn rhan ôl y cerbyd  cyn i’r diffynnydd gael ei weld yn dychwelyd i ochr gyrrwr y car.

Ceisiodd y personau oedd yn bresennol gael mynediad i’r cerbyd i gynorthwyo’r deiliaid; bu’r ymdrechion hyn yn aflwyddiannus gan iddynt gael eu gwthio ymaith gan y diffynnydd. Wedi hynny gyrroedd y  diffynnydd y cerbyd i mewn i draffig cyn troi i mewn i wrych. Cyrhaeddodd y gwasanaethau brys yn fuan wedyn.

Cafodd Helen Clarke anafiadau lluosog i’w phen a llosgiadau sylweddol i’w chorff a arweiniodd at ei marwolaeth ddeuddydd yn ddiweddarach.

Daethpwyd o hyd  forthwyl lwmp yn agos i’r lleoliad.

Dedfrydwyd David Clarke i garchar am oes a gorchmynnwyd iddo dreulio o leiaf 21 o flynyddoedd mlynedd ac wyth mis.

Dywedodd Rebecca Carter o’r CPS:  “Cafodd Helen Clarke ei llofruddio gan ei gŵr, o 53 mlynedd, mewn amgylchiadau ofnadwy. Bu hwn yn achos trasig. Mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad yn mynd at deulu Helen ar yr amser anodd hwn”.

Nodiadau i olygyddion

  • Mae Rebecca Carter yn Uwch Erlynydd y Goron yn CPS Cymru Wales.
  • Plediodd David CLARKE (DG: 19/03/1943) yn euog i lofruddiaeth yn Llys y Goron Abertawe ar 8 Rhagfyr 2023.
  • Bu farw Helen Clarke ar 24 Medi 2023 yn 77 oed.

Further reading

Scroll to top