Skip to main content

Dedfrydu tri dyn am achosi gwerth £117k o dwyll yn y DVLA

Dedfrydwyd tri dyn yn Llys y Goron Abertawe heddiw, yn dilyn cynllwyn gan un o weithwyr y DVLA a dau ddyn arall i dwyllo’r asiantaeth.

Roedd Matthew Holloway, 32, yn gweithio i’r asiantaeth a manteisiodd ar ei allu i gael mynediad swyddogol er mwyn trin a ffugio cofnodion a dogfennau cerbydau.

Roedd Joshua Sawyer, 32, ac Ashley Harris, 44, yn rhoi cyfarwyddiadau i Holloway am y dogfennau a’r cofnodion yr oeddent eisiau iddo eu newid, ac roeddent yn ei dalu i wneud hynny.

Cyfanswm y golled ariannol i’r DVLA oedd £117,500.

Dywedodd Lisa McCarthy o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Roedd y dystiolaeth yn dangos ymdrech drefnus i newid dogfennau cerbydau, gan gynnwys newid cofnodion i guddio gwir statws a hanes cerbydau.

“Roedd gan Holloway swydd gyda’r DVLA ac roedd pobl yn ymddiried ynddo, ond manteisiodd ar ei safle, fel y gwnaeth Harris a Sawyer, er budd ariannol.

“Roedd eu troseddau’n peri risg o lygru system cofrestru cerbydau’r DU, system y mae’r cyhoedd, y diwydiant modur ac asiantaethau gorfodi'r gyfraith yn dibynnu arni er mwyn cael gwybodaeth gywir.”

Cafodd y tri dyn eu dedfrydu fel a ganlyn:

  • Matthew Holloway – pum mlynedd a thri mis o garchar
  • Ashley Harris – dwy flynedd ac wyth mis o garchar
  • Joshua Sawyer – dwy flynedd a phedwar mis o garchar.

Nodiadau i olygyddion

  • Daw Matthew David Holloway (Dyddiad Geni: 2/9/1993) o Gellifedw, Abertawe
  • Daw Joshua John Sawyer (Dyddiad Geni: 3/3/1994) o Dreforys, Abertawe
  • Daw Ashley Keith Harris (Dyddiad Geni: 3/7/1981) o Lansamlet, Abertawe
  • Plediodd pob un ohonynt yn euog i Gynllwynio i gyflawni twyll (rhwng 1 Ionawr 2021 a 31 Gorffennaf 2022)
  • Mae Lisa McCarthy yn Uwch Erlynydd y Goron yn Uned Gwaith Achos Cymhleth Gwasanaeth Erlyn y Goron Cymru.
Back to CPS News centre