Skip to main content

Dedfrydu pum dyn - gan gynnwys un ffermwr - ar ôl i brofion DNA ddatgelu eu bod yn rhan o gynllun i ddwyn gwartheg ar Ynys Môn

Mae grŵp o ddynion a gynllwyniodd i ddwyn gwartheg o fferm yn Ynys Môn wedi cael eu dedfrydu yn Llys y Goron Caernarfon.

Ar 10 Rhagfyr 2022, ar fferm ar gyrion Llanerch-y-medd, cafodd y da byw eu harchwilio gan eu perchennog a’u cadw yn y sied.  Pan ddaeth y ffermwr yn ei ôl y diwrnod canlynol, roedd rhai o’r gwartheg yn rhydd ac roedd 14 ar goll.

Defnyddiodd Heddlu Gogledd Cymru luniau teledu cylch cyfyng i ddod o hyd i lori a aeth i gyfeiriad y fferm, ac o gyfeiriad y fferm. Gwelwyd y lori yn ddiweddarach ar yr A55 yn mynd i gyfeiriad Wrecsam.

Llwyddodd yr heddlu i gysylltu'r cerbyd â Liam Kettleborough, 29. Cafodd ei arestio, ac wrth ddadansoddi ei ffôn daeth yr Heddlu o hyd i negeseuon rhyngddo ef a’r pedwar diffynnydd arall, Jack Billington, 23, Stanley Jones, 26, Michael McLeod, 57, a Clifford Smith, 65.

Roedd y negeseuon, ynghyd â data lleoliad eu ffonau symudol, yn dangos bod Billington, Jones, a McLeod wedi teithio i Ynys Môn ar 10 Rhagfyr 2022, ac yn ôl i ardal Wrecsam yn oriau mân y bore canlynol.

Yna, cafodd y cerbyd ei yrru i fferm Clifford Smith yn ardal Stoke-on-Trent.

Daeth y swyddogion o hyd i ddeuddeg o wartheg wedi’u dwyn ar ddwy fferm Smith, ac roedd profion DNA ar naw ohonynt yn profi eu bod wedi dod o’r fferm ar Ynys Môn.

Dywedodd Andrew Warman o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Roedd yn rhaid dod â thystiolaeth o wahanol ffynonellau ynghyd yn yr achos hwn.

“Roedd yr ymchwiliad yn drylwyr iawn, ac roedd hynny’n golygu bod Gwasanaeth Erlyn y Goron yn gallu cyflwyno tystiolaeth gref oedd yn dangos sut yr oedd pob unigolyn wedi chwarae rhan yn y drosedd.

“Mae troseddau gwledig yn cael effaith sylweddol ar gymunedau, gan effeithio ar fywoliaeth pobl, ac mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cymryd troseddau o’r fath o ddifri.”

Cafodd pob un o’r diffynyddion eu dedfrydu ar 20 Mawrth 2026 i’r canlynol:

  • Jack Billington – 14 mis o garchar wedi'i ohirio am 18 mis. Gorchmynnwyd i gwblhau 250 awr o waith di-dâl a gofyniad gweithgaredd adsefydlu 10 diwrnod. Cafodd hefyd ei wahardd rhag gyrru am flwyddyn a gorchmynnwyd iddo dalu iawndal o £1000
  • Stanley Jones – 19 mis o garchar wedi'i ohirio am ddwy flynedd. Gorchmynnwyd i gwblhau 200 awr o waith di-dâl a gofyniad gweithgaredd adsefydlu 10 diwrnod, ac i dalu iawndal o £1000
  • Liam Kettleborough – 19 mis o garchar wedi'i ohirio am ddwy flynedd. Gorchmynnwyd i gwblhau 250 awr o waith di-dâl a gofyniad gweithgaredd adsefydlu 10 diwrnod, ac i dalu iawndal o £1000
  • Micheal McLeod – 19 mis o garchar wedi'i ohirio am ddwy flynedd. Gorchmynnwyd i gwblhau cyrffyw chwe mis wedi'i fonitro'n electronig a thalu iawndal o £500
  • Clifford Smith – Pum mis o garchar wedi'i ohirio am flwyddyn. Gorchmynnwyd i gwblhau gofyniad gweithgaredd adsefydlu 25 diwrnod a blwyddyn o ofyniad triniaeth iechyd meddwl a hefyd dalu iawndal o £200.

Nodiadau i olygyddion

  • Daw Jack John Billington (Dyddiad Geni: 21/11/02) o'r Orsedd, Wrecsam
  • Daw Mark Anthony Jones (Dyddiad Geni: 8/9/1998) o Wrecsam
  • Daw Liam Kettleborough (Dyddiad Geni: 24/6/1995) o Rugby
  • Daw Michael McLeod (Dyddiad Geni: 25/1/1969) o Higher Kinnerton, Gaer
  • Plediodd pob un yn euog i gynllwynio i gyflawni bwrgleriaeth (9/12/2002 - 12/12/2022)
  • Daw Clifford Kelvin Smith (Dyddiad Geni: 11/1/1961) o Stoke-on-Trent
  • Plediodd Smith yn euog i drin nwyddau wedi’u dwyn (9/12/2022 – 12/12/2022)
  • Mae Andrew Warman yn Uwch Erlynydd y Goron yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) Cymru. 
Back to CPS News centre