Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Dedfrydu nain a thaid i garchar am oes am lofruddio’u hŵyr

|News, Domestic abuse

Mae nain a thaid bachgen dwyflwydd oed wedi eu dedfrydu i garchar am oes am ei lofruddio.

Roedd Michael Ives, 48 oed, a'i wraig Kerry Ives, 46 oed gartref gyda'u hŵyr, Ethan Ives, ar 14 Awst 2021. Roedd mam Ethan, Shannon Ives, 26 oed, mewn ystafell i fyny’r grisiau pan gafodd ei galw i lawr y grisiau a gweld bod ei mab yn anymwybodol a ddim yn ymateb.

Galwodd Kerry Ives y gwasanaethau brys ar ôl oedi am 18 munud. Sylwodd y parafeddygon bod gwefusau Ethan yn sych ac wedi cracio a bod ganddo gleisiau ar ei gorff.

Cofnododd y tîm meddygol yn yr ysbyty bod Ethan yn ddadhydradedig ac yn dioddef o ddiffyg maeth. Roedd yn dangos arwyddion o anaf difrifol i’w ben.

Er i’r tîm meddygol wneud eu gorau glas, bu farw Ethan ar 16 Awst 2021.

Daeth ymchwiliad yr heddlu o hyd i nifer fawr o dystiolaeth teledu cylch cyfyng o gartref yr Ives a oedd yn dangos y gamdriniaeth gorfforol ac emosiynol yr oedd Ethan wedi’i dioddef yn yr wythnosau cyn ei farwolaeth.

Gwadodd Michael a Kerry Ives mai nhw oedd yn gyfrifol am farwolaeth Ethan gan honni mai eu merch, Shannon, oedd i’w beio am ei anafiadau.

Cyfaddefodd Shannon Ives nad oedd hi wedi cymryd unrhyw gamau i warchod ei mab rhag ei rhieni, er ei bod hi’n gwybod eu bod yn peri risg iddo. Dywedodd Shannon bod arni eu hofn.

Ar ôl clywed holl dystiolaeth yr achos, cafodd y rheithgor Michael a Kerry Ives yn euog o lofruddiaeth a chreulondeb tuag at blentyn. Cafwyd Shannon Ives yn euog o achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn ac o greulondeb tuag at blentyn.

Dywedodd Nicola Rees o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Dyma un o’r achosion mwyaf dychrynllyd i mi orfod delio ag o fel erlynydd.

“Roedd y dystiolaeth teledu cylch cyfyng, oedd yn dangos Ethan yn cael ei dargedu a’i gam-drin, yn dorcalonnus. Anaml y gwelir gweithredoedd mor eithafol o greulondeb corfforol ac emosiynol.

“Defnyddiodd Gwasanaeth Erlyn y Goron dystiolaeth teledu cylch cyfyng o gartref yr Ives i ddangos i’r rheithgor sut roedd Ethan yn cael ei drin. Arweiniodd y dystiolaeth at yr euogfarnau hyn.

“Dylai’r diffynyddion, oedd yn nain, yn daid ac yn rhiant i’r plentyn, fod wedi gofalu ac amddiffyn Ethan, ond ni wnaethant hynny.

“Rydym yn cydymdeimlo â thad a theulu Ethan sydd wedi dioddef colled dorcalonnus.”

Cafodd y tri diffynnydd eu dedfrydu ar 3 Hydref 2025 yn Llys y Goron yr Wyddgrug. Cafodd Michael Ives ei ddedfrydu i garchar am oes a gorchymyn i dreulio o leiaf 23 mlynedd. Cafodd Kerry Ives ei dedfrydu i garchar am oes a gorchymyn i dreulio o leiaf 17 mlynedd. Cafodd Shannon Ives ei dedfrydu i 12 mlynedd o garchar.

Nodiadau i olygyddion

  • Daw Michael Ives (dyddiad geni: 9/9/1977) o Garden City, Glannau Dyfrdwy
  • Daw Kerry Ives (dyddiad geni: 2/1/1979) o Garden City, Glannau Dyfrdwy
  • Daw Shannon Ives (dyddiad geni: 2/1/1997) o Garden City, Glannau Dyfrdwy
  • Bu farw Ethan Ives ar 16 Awst 2021 yn ddwyflwydd a thri mis oed
  • Mae Nicola Rees yn Erlynydd Arbenigol yn Uned Gwaith Achos Cymhleth Gwasanaeth Erlyn y Goron Cymru. 

Further reading

Scroll to top