Dedfrydu Grŵp Troseddu Cyfundrefnol am Lofruddiaeth yn Nhonysguboriau
Mae aelodau o gang cyffuriau a saethodd fenyw yn farw mewn tŷ yn Nhonysguboriau wedi cael eu dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd.
Aeth Marcus Huntley, 21 oed, Melissa Quailey-Dashper, 40 oed, a Jordan Mills-Smith, 34 oed, i’r eiddo ar 9 Mawrth 2025. Roedd Melissa Quailey-Dashper wedi cael cyfarwyddyd i gnocio’r drws, a phan agorodd Joanne Penney y drws, cafodd ei saethu gan Marcus Huntley.
Roedd dyn arall, Joshua Gordon, 28 oed, yn aros amdanynt mewn car. Ef oedd arweinydd grŵp troseddu cyfundrefnol o Gaerlŷr ac roedd wedi bod yn rhan o’r gwaith o gynllunio a threfnu’r saethu.
Plediodd Huntley yn euog i lofruddiaeth a chafwyd y tri pherson a oedd gydag ef yn euog o lofruddiaeth yn dilyn treial.
Cafwyd pumed person, Renaldo Daniel Baptiste, 39, yn euog o lofruddiaeth yn dilyn treial am ei ran yn y gweithredoedd o saethu a chyrchu’r gwn, a chafwyd Kristina Ginova, 22, aelod arall o’r grŵp troseddu cyfundrefnol, yn euog o lofruddiaeth hefyd.
Digwyddodd y llofruddiaeth yn sgil dau grŵp troseddu cyfundrefnol yn ymladd yn erbyn ei gilydd dros y fasnach cyffuriau anghyfreithlon. Nid oedd gan y dioddefwr gysylltiadau uniongyrchol â’r naill grŵp troseddu cyfundrefnol na’r llall, ond roedd yr eiddo lle cafodd ei saethu yn cael ei ddefnyddio gan y ddau grŵp i fasnachu cyffuriau.
Cafwyd dau ddiffynnydd arall, Laura John, 23 oed, a Donna James, 51 oed, yn euog o gynorthwyo troseddwr – Jordan Mills-Smith – i adael yr ardal yn dilyn y llofruddiaeth.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron: “Roedd y diffynyddion hyn yn barod i ddefnyddio trais yn erbyn masnachwyr cyffuriau eraill, ac arweiniodd eu gweithredoedd at farwolaeth drasig Joanne Penney.
“Gweithiodd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn agos gyda Heddlu De Cymru a chyflwynodd achos cryf i’r rheithgor i ddangos, er mai Huntley oedd yr un a daniodd y gwn, bod ei gyd-ddiffynyddion yr un mor euog o lofruddiaeth.
“Er bod yr achos wedi dod i ben erbyn hyn, byddwn yn dal i feddwl am deulu a ffrindiau Joanne, sydd wedi dioddef colled dorcalonnus.”
Cafodd Joshua Gordon ei ddedfrydu i garchar am oes a'i orchymyn i wasanaethu o leiaf 32 mlynedd.
Cafodd Renaldo Daniel Baptiste ei ddedfrydu i garchar am oes a'i orchymyn i wasanaethu o leiaf 42 mlynedd.
Cafodd Marcus Huntley ei ddedfrydu i garchar am oes a'i orchymyn i wasanaethu o leiaf 30 mlynedd a 146 diwrnod.
Cafodd Jordon Mills-Smith ei ddedfrydu i garchar am oes a'i orchymyn i wasanaethu o leiaf 27 mlynedd.
Cafodd Melissa Quailey-Dashper ei dedfrydu i garchar am oes a'i orchymyn i wasanaethu o leiaf 14 mlynedd.
Cafodd Kristina Ginova ei dedfrydu i garchar am oes a'i orchymyn i wasanaethu o leiaf 12 mlynedd.
Bydd pump diffynnydd, Laura John, Donna James, Sai Raj Manne, Molly Ruth Cooper a Callum Kelleher, yn cael eu dedfrydu am droseddau sy’n gysylltiedig â’r llofruddiaeth ar 6 Gorffennaf 2026.
Nodiadau i olygyddion
Bu farw Joanne Penney ar 9 Mawrth 2025 yn 40 oed.
Daw Joshua Gordon (dyddiad geni: 11/2/1998) o Swydd Gaerlŷr.
Daw Renaldo Daniel Baptiste (dyddiad geni: 25/1/1987) o Lundain, roedd yn yr carchar adeg y drosedd.
Daw Marcus Huntley (dyddiad geni: 4/9/2004) o Gaerdydd.
Daw Joshua Mills-Smith (dyddiad geni: 3/5/1992) o Gaerdydd.
Daw Melissa Quailey-Dashper (dyddiad geni: 11/9/1985) o Swydd Gaerlŷr.
Daw Kristina Ginova (dyddiad geni: 28/12/2003) o Swydd Gaerlŷr.
Dedfrydwyd yr holl ddiffynyddion uchod am lofruddiaeth ac am gymryd rhan yng ngweithgareddau grŵp troseddu cyfundrefnol.
Daw Tony Porter (dyddiad geni: 18/11/1956) o Swydd Gaerlŷr ac fe’i dedfrydwyd yn flaenorol i 22 mis yn y carchar am gymryd rhan yng ngweithgareddau grŵp troseddu cyfundrefnol.