Skip to main content

Dedfrydu dyn i garchar am oes am lofruddio Shelley Davies yng Nghaerdydd

Mae dyn a ddefnyddiodd ei gar i daro dynes ar y ffordd wedi cael ei ddedfrydu am ei llofruddio yn Llys y Goron Caerdydd.

Roedd Kian Bateman, 19 oed, wedi bod y tu allan i Glwb Gwarchodlu Cartref Morgannwg yn Nhrelái ar 26 Medi 2025, lle cafodd ei weld yn anadlu ocsid nitrus.

Gwelodd Bateman ei frawd yn ffraeo gyda grŵp o bobl, ac yn ystod y ffrae honno, glaniodd Shelley Davies ar y llawr.

Yna, gyrrodd Bateman ei gar yn fwriadol at y grŵp, gan daro Ms Davies, oedd yn dal ar y llawr, a tharo ei phartner, David Bratcher, gan ei anafu’n ddifrifol.

Ar ôl clywed yr holl dystiolaeth yn yr achos, cafodd y rheithgor Bateman yn euog o lofruddiaeth ac o achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol.

Dywedodd Anthony Clarke o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Roedd y dystiolaeth gref a gyflwynwyd gan Wasanaeth Erlyn y Goron yn ddigon i fodloni’r rheithgor nad damwain oedd yr hyn a ddigwyddodd.

“Defnyddiodd y diffynnydd ei gar fel arf yn fwriadol , ac roedd canlyniad hynny’n ddinistriol.

“Bu i'w weithredoedd arwain at farwolaeth drasig menyw ifanc ac anafodd eraill.

“Er bod yr achos hwn wedi dod i ben, rydym ni’n dal i feddwl am deulu a ffrindiau Shelley Davies sydd wedi dioddef colled enfawr.”

Dedfrydwyd Kian Bateman i garchar am oes, a gorchmynnwyd iddo aros yno am o leiaf 17 mlynedd. Cafodd hefyd ei wahardd rhag gyrru am 21 mlynedd ac 109 diwrnodau, a’i orchymyn i ailsefyll prawf gyrru estynedig.

Nodiadau i olygyddion

  • Bu farw Shelley Davies ar 18 Hydref 2025, yn 38 oed
  • Daw Kian Bateman (Dyddiad Geni: 19/3/2007) o Drelái, Caerdydd
  • Plediodd yn euog i achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus ac achosi anaf difrifol drwy yrru’n beryglus
  • Fe’i cafwyd yn euog gan reithgor o lofruddiaeth ac achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol
  • Mae Anthony Clarke yn Uwch Erlynydd y Goron yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) Cymru. 
Back to CPS News centre