Datganiad gan y CPS: Dedfrydu 30 o bobl am gymryd rhan yn reiadau Trelái
Mae tri deg o bobl wedi cael eu dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd am chwarae rhan yn yr anhrefn gyhoeddus sylweddol a ddigwyddodd yn Nhrelái, Caerdydd ar 22 Mai 2023.
Cafodd y gwrandawiadau dedfrydu eu cynnal dros dri diwrnod, o 17 i 19 Mehefin 2026, ar ôl y gwrandawiadau cynharach yn yr achos.
Roedd deg o bobl ifanc eisoes wedi cael eu dedfrydu am reiat, ac mae pum oedolyn wedi cael eu dedfrydu am droseddau eraill sy’n ymwneud â’r reiat.
Mae reiat yn cael ei gyflawni pan fydd 12 neu ragor o bobl yn gweithredu gyda'i gilydd gan ddefnyddio neu fygwth trais anghyfreithlon mewn ffordd a fyddai’n gwneud i berson rhesymol fod ag ofn am ei ddiogelwch, ac mae pob diffynnydd yn bwriadu neu’n ymwybodol o’r trais hwnnw.
Roedd yr aflonyddwch wedi achosi difrod eang i gartrefi, i gerbydau ac i eiddo, a chafodd 31 o swyddogion heddlu eu hanafu. Dyma un o’r erlyniadau trefn gyhoeddus mwyaf a wnaed gan CPS Cymru.
Dywedodd Nathan Fear o’r CPS: “Roedd y digwyddiadau hyn yn deillio o farwolaethau trasig Kyrees Sullivan a Harvey Evans, ac rydym yn dal i feddwl am eu teuluoedd.
“Yr hyn a ddilynodd oedd achos difrifol o anhrefn, gydag unigolion yn cymryd rhan mewn trais ac yn achosi difrod sylweddol yn y gymuned.
“Roedd hwn yn ddigwyddiad brawychus dros ben i’r trigolion lleol, gyda reiat ar eu strydoedd a’r tu allan i’w cartrefi.
“Roedd hwn yn erlyniad cymhleth a oedd yn cynnwys nifer o ddiffynyddion a llawer o dystiolaeth, gan gynnwys lluniau drôn, cyfryngau cymdeithasol a fideos camerâu corff yr heddlu. Roedd y gwaith gofalus a manwl hwnnw’n caniatáu i ni ddangos rôl pob person yn y reiat.
“Mae’r dedfrydau hyn yn adlewyrchu difrifoldeb y troseddu hwn ac yn anfon neges glir na fydd y math hwn o drais yn cael ei oddef.”
Ar 17 Mehefin 2026 dedfrydwyd y diffynyddion canlynol:
- Ashdon O’Dare – 6 mlynedd a 6 mis o garchar.
- Lee Robinson – 6 mlynedd a 6 mis o garchar.
- Luke Williams – 6 mlynedd o garchar.
- Michaela Gonzales – 5 mlynedd a 2 fis o garchar.
- Jordan Bratcher – 5 mlynedd a 6 mis o garchar.
- Tyler Stapleton – 4 blynedd a 4 mis o garchar.
- Harvey James - Gorchymyn Cymunedol 2 flynedd a oedd yn cynnwys 120 diwrnod o waith di-dâl.
- McKenzie Pring – 4 blynedd o ddalfa mewn Sefydliad Troseddwyr Ifanc.
- Jaydon Baston – 4 blynedd o garchar.
- Kieron Beccano – 5 mlynedd a 6 mis o garchar.
Ar 18 Mehefin 2026 dedfrydwyd y diffynyddion canlynol:
- Zayne Farrugia – 6 mlynedd o garchar.
- Jordan Webster – 5 mlynedd a 7 mis o garchar.
- Jaydon Westcott – 5 mlynedd a 2 fis o garchar.
- Jumana Fouad - Gorchymyn Cymunedol 2 flynedd a oedd yn cynnwys 15 diwrnod o Ofyniad Adsefydlu a Gweithgaredd.
- Lianna Tucker – Gorchymyn Cymunedol 2 flynedd a oedd yn cynnwys 25 diwrnod o Ofyniad Adsefydlu a Gweithgaredd.
- James Chappel – 4 blynedd a 4 mis o garchar.
- Jasmine Smith - Gorchymyn Cymunedol 2 flynedd a oedd yn cynnwys 20 diwrnod o Ofyniad Adsefydlu a Gweithgaredd.
- Jamie Bateman – 5 mlynedd a 9 mis o garchar.
- Liam Williams – 4 mlynedd a 3 mis o garchar.
- Jamie Jones (Jamie Martin gynt) – 5 mlynedd a 2 fis o garchar.
Ar 19 Mehefin 2026 dedfrydwyd y diffynyddion canlynol:
- Connor O’Sullivan – 5 mlynedd o garchar.
- Callum O’Sullivan – 3 mlynedd a 9 mis o garchar.
- Lee-Martin McQuade – 6 mlynedd a 4 mis o garchar.
- Gemma Virgin – 3 mlynedd ac 8 mis o garchar.
- Malaki McQuade – 6 mlynedd o ddalfa mewn Sefydliad Troseddwyr Ifanc.
- Liam Black – 6 mlynedd a 9 mis o ddalfa mewn Sefydliad Troseddwyr Ifanc.
- Matthew Evans – 6 mlynedd a 4 mis o garchar.
- Cameron Carter – 5 mlynedd a 6 mis mewn Sefydliad Troseddwyr Ifanc.
- Ryan Knight – 5 mlynedd a 4 mis o garchar.
- Kyle Telemaque – 5 mlynedd a deg mis mewn Sefydliad Troseddwyr Ifanc.
Nodiadau i olygyddion
- Mae Nathan Fear yn Ddirprwy Brif Erlynydd y Goron yn CPS Cymru.
- Ashdon O’Dare - (dyddiad geni: 13.11.1997) o Drelái, Caerdydd – reiat
- Lee Robinson - (dyddiad geni: 2.11.1996) – reiat
- Luke Williams - (dyddiad geni: 2.10.1993) o Gaerau, Caerdydd– reiat
- Michaela Gonzales – (dyddiad geni: 5.7.1998) o Drelái, Caerdydd – reiat
- Jordan Bratcher - (dyddiad geni: 1.7.1998) o Lanishen, Caerdydd – reiat a meddu ar ganabis ar 20.9.23
- Tyler Stapleton - (dyddiad geni: 25.02.2000) o Drelái, Caerdydd - reiat
- Zayne Farrugia - (dyddiad geni: 7.5.2000) o Gaerau, Caerdydd- reiat
- Jordan Webster - (dyddiad geni: 6.12.1995) o Drelái, Caerdydd- reiat
- Jaydon Westcott - (dyddiad geni: 19.8.2004) o Drelái, Caerdydd - reiat
- Jumana Fouad - (dyddiad geni: 17.7.2006) o Drelái, Caerdydd – reiat
- Lianna Tucker - (dyddiad geni: 2.2.2006) o Drelái, Caerdydd - reiat
- Connor O’Sullivan - (dyddiad geni: 3.4.1999) o Gaerau, Caerdydd - reiat
- Callum O’Sullivan - (dyddiad geni: 25.10.2000) o Drelái, Caerdydd - reiat
- Lee-Martin McQuade - (dyddiad geni 08.02.1996) o Drelái, Caerdydd -
- Gemma Virgin - (dyddiad geni 05.02.1981) o Drelái, Caerdydd - reiat
- Malaki McQuade - (dyddiad geni 16.09.2006) o Drelái, Caerdydd - reiat
- Liam Black - (dyddiad geni 30.10.2004) o Drelái, Caerdydd - reiat
- Harvey James - (dyddiad geni: 20.11.2005) o’r Tyllgoed, Caerdydd – reiat a meddu ar ganabis ar 17.7.23
- McKenzie Pring (dyddiad geni: 2.12.2004) o Gaerau, Caerdydd – reiat
- Jayden Baston (dyddiad geni: 29.7.2004) o Gaerau, Caerdydd– reiat
- Kieron Beccano (dyddiad geni: 1.11.1998) o Drelái, Caerdydd – reiat
- James Chappell (dyddiad geni 04.04.1995) o’r Barri - reiat
- Jasmine Smith (dyddiad geni 28.05.2005) o’r Mynydd Bychan, Caerdydd - reiat
- Liam Williams (dyddiad geni 22.02.2005) o Dredelerch, Caerdydd - reiat
- Jamie Stephen Bateman (dyddiad geni 27.04.1998) o Gaerau, Caerdydd - reiat
- Jamie Martin (dyddiad geni: 22.12.2000) o Lanrhymni, Caerdydd – reiat
- Cameron Francis Carter (dyddiad geni 10.08.2005) o Drelái, Caerdydd - reiat
- Ryan Knight (dyddiad geni: 19.10.2004) o’r Sblot, Caerdydd- reiat
- Kyle Telemaque (dyddiad geni: 17.10.2005) o Drelái, Caerdydd - reiat
- Matthew Evans (dyddiad geni: 29.8.2003) o Drelái, Caerdydd – reiat.