Cargipiwr yn cael ei ddedfrydu am ddwyn oddi ar yrrwr Tacsi yn Abertawe
Mae dyn sydd wedi ei gael yn euog o fygwth gyrrwr tacsi gyda siswrn gan ei orfodi i adael ei gerbyd, wedi ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe.
Camodd Nicholas Daniel, 34, i mewn i dacsi yn ardal Waunarlwydd, Abertawe ar 29 Gorffennaf 2024. Aeth y tacsi ag ef i siop ar Hen Heol Abertawe. Ar ôl bod yn y siop, aeth Daniel yn ôl i gefn y tacsi, cyn bygwth y gyrrwr gyda siswrn a’i orfodi i adael y cerbyd ac i roi’r allweddi iddo.
Gyrrodd Daniel y Skoda Octavia oddi yno, a chafodd ei weld gan yr heddlu ar Clasemont Road. Ceisiodd yr heddlu ei stopio, ond gyrrodd Daniel i ffwrdd yn gyflym gan wyro ar draws y ffordd. Defnyddiwyd dyfais i geisio tynnu'r aer allan o deiars y car er mwyn ei stopio, ond gwyrodd Daniel y car a’u hosgoi. Wrth wneud hynny, collodd Daniel reolaeth ar y cerbyd ac aeth i mewn i gar oedd wedi parcio.
Wedi’r gwrthdrawiad, gofynnodd yr heddlu am sampl o waed gan Daniel er mwyn iddynt allu ei ddadansoddi, ond gwrthododd.
Dywedodd Abul Hussain, o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Roedd Nicholas Daniel wedi dwyn cerbyd oddi ar yrrwr tacsi yng ngolau’r dydd, ac wrth geisio dianc gyrrodd yn beryglus gan achosi gwrthdrawiad. Roedd ei ymddygiad yn fyrbwyll ac wedi rhoi pobl mewn perygl.
“Mae gyrwyr tacsi yn darparu gwasanaeth gwerthfawr i’r cyhoedd, ac ni ddylen nhw orfod profi ymddygiad bygythiol a threisgar gan eu cwsmeriaid.
“Cyflwynwyd tystiolaeth gref ger bron Gwasanaeth Erlyn y Goron, a phlediodd Daniel yn euog.”
Dedfrydwyd Nicholas Daniel i orchymyn ysbyty amhenodol, a chafodd ei wahardd rhag gyrru am ddwy flynedd. Gorchmynnwyd iddo hefyd gymryd prawf gyrru estynedig.
Nodiadau i olygyddion
- Mae Nicholas Aubery Roland Daniel (Dyddiad Geni: 29/7/2000) yn dod o Felindre, Abertawe
- Plediodd Daniel yn euog i’r canlynol: lladrata; gyrru’n beryglus; gwrthod â rhoi sampl o waed i’w ddadansoddi; gyrru heb drwydded; gyrru heb yswiriant
- Cafodd y ddedfryd ei rhoi ar 1 Hydref 2025
- Mae Abul Hussain yn Uwch Erlynydd y Goron yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron Cymru.