Skip to main content

Carcharu gyrrwr peryglus am ddwyn tarw dur a’i yrru mewn i dafarn

Roedd Daniel Morgan, 35, wedi bod yn yfed yn nhafarn The New Inn yng Nghefn Rhigos ar 4 Rhagfyr 2025. Gwylltiodd a bygwth dychwelyd gyda tharw dur.

Yna aeth Morgan i fferm ei dad a chymryd tarw dur, gan ei ddefnyddio i wthio tryc Isuzu allan o'r ffordd wrth iddo yrru o’r fferm.

Yna gyrrodd Morgan y tarw dur yn ôl i’r dafarn a gyrru mewn i'r cyntedd blaen gan achosi gwerth dros £22,000 o ddifrod.

Roedd tad Morgan, ac aelod arall o’r teulu wedi ceisio ei atal drwy rwystro'r ffordd gyda thryc a threlar, ond gyrrodd Morgan y tarw dur dros y cerbydau ac yna gyrrodd i ffwrdd.

Dywedodd Ryan Randall o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Dangosodd Morgan ddiystyrwch llwyr o ddiogelwch pobl eraill a allai fod wedi bod yn y dafarn.

“Nid gwrthdrawiad damweiniol oedd hwn, ond bygythiad a gyflawnwyd, gan ddifrodi adeilad a cherbydau, yn ogystal ag atal busnes rhag masnachu ac effeithio ar fywoliaeth y landlord a'r ffermwr.

“Cyflwynwyd tystiolaeth gref gerbron Gwasanaeth Erlyn y Goron, a phlediodd y diffynnydd yn euog.”

Cafodd Daniel Morgan ei ddedfrydu ar 14 Mai 2026 i 40 mis o garchar a chafodd ei wahardd rhag gyrru am 3 blynedd a 3 mis. Gorchmynnwyd iddo hefyd gymryd prawf gyrru estynedig.

Nodiadau i olygyddion

  • Daw Daniel Morgan (dyddiad geni: 12/10/1990) o’r Rhigos, Aberdâr
  • Plediodd yn euog i gymryd cerbyd gwaethygedig; Gyrru’n beryglus; Difrodi eiddo a pheidio ag ystyried a oedd yn peryglu bywyd
  • Mae pob trosedd wedi’i dyddio ar 4 Rhagfyr 2025
  • Mae Ryan Randall yn Uwch Erlynydd y Goron yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) Cymru. 
Back to CPS News centre