Carcharu dyn am geisio llofruddio ei gyn-bartner
Mae dyn o Gaerfyrddin a ymosododd ar ei gyn-bartner gyda chyllell wedi cael ei garcharu yn Llys y Goron Abertawe.
Aeth James McKenna, 58, â chyllell gegin gydag ef i Barc Caerfyrddin ar 29 Ionawr 2026, ac arhosodd yn y llwyni am ei gyn-bartner a oedd yn mynd â’i chi am dro.
Pan oedd hi’n agos, daeth McKenna allan o’r llwyni a’i thrywanu dro ar ôl tro gan achosi clwyfau i’w brest, ei braich a’i llaw.
Daeth parafeddygon i'r lleoliad a thrin y dioddefwr. Roedd McKenna eisoes wedi rhedeg i ffwrdd o’r ardal, a daeth yr heddlu o hyd iddo ar 2 Chwefror 2026 yn Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth.
Yn ystod y treial yn Llys y Goron Abertawe, cyfaddefodd McKenna iddo fynd i’r parc gyda’r gyllell gyda’r bwriad o’i defnyddio i frifo ei gyn-bartner, ond roedd yn gwadu'r cyhuddiad o ymgais i lofruddio.
Fodd bynnag, ar ôl i'r rheithor wrando'r holl dystiolaeth yn yr achos, cafwyd McKenna yn euog o ymgais i lofruddio.
Dywedodd Lucy Mansfield o Wasanaeth Erlyn y Goron: "Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cymryd trais yn erbyn menywod a merched o ddifrif.
"Roedd gweithredoedd McKenna yn oer ac yn fwriadol, gan fynd â chyllell yn fwriadol i fan cyhoeddus i ymosod ar ei gyn-bartner.
"Cyflawnodd drais dychrynllyd, a fyddai wedi bod yn frawychus i’r dioddefwr.
“Byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid yn y system cyfiawnder troseddol i fynd i’r afael â’r troseddau ffiaidd hyn.”
Dedfrydwyd James McKenna ar 9 Hydref 2026 i 24 mlynedd o garchar a gosodwyd gorchymyn atal amhenodol hefyd.
Nodiadau i olygyddion
- Daw James John McKenna (dyddiad geni: 24/8/1968) o Gaerfyrddin.
- Plediodd yn euog i achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol a meddu ar eitem â llafn.
- Cafodd rheithgor ef yn euog o ymgais i lofruddio, ar ôl treial llawn.
- Mae Lucy Mansfield yn Uwch Erlynydd y Goron yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) Cymru.