Skip to main content

Carcharu dau am gynllwynio i lofruddio

Mae menyw a'i chariad wedi cael eu carcharu am gynllwynio i lofruddio ei gŵr.

Roedd Ethel Michelle Mills, 46 oed, a elwir yn Michelle, wedi bod yn cael perthynas y tu allan i’w phriodas, gyda Geraint Berry sy'n 46 oed. Gyda'i gilydd, fe wnaethon nhw gynllwynio i lofruddio ei gŵr.

Ar 20 Medi 2024, pan oedd Mrs Mills a'i gŵr, Christopher Mills, yn eu carafán yng Nghenarth, rhuthrodd dau ddyn mewn mygydau i mewn ac ymosod ar Mr Mills. Roedd gan y tresmaswyr glymau cebl, masgiau nwy ac arfau tanio ffug gyda nhw.

Llwyddodd Mr Mills i ymladd yn erbyn y tresmaswyr, ac fe wnaethon nhw ffoi o’r maes carafanau. Fodd bynnag, cawson nhw eu canfod yn cuddio mewn llwyni ychydig bellter i ffwrdd gan hofrennydd yr heddlu.

Canfu’r heddlu nodyn hunanladdiad ffug, a oedd yn ymddangos fel pe bai wedi’i ysgrifennu gan Mr Mills, ond a oedd â DNA ar y sêl yn cyfateb i DNA ei wraig Michelle Mills.

Cafwyd Michelle Mills a Geraint Berry yn euog o gynllwynio i lofruddio gan reithgor yn Llys y Goron Abertawe, ar ôl clywed yr holl dystiolaeth yn yr achos.

Plediodd trydydd diffynnydd, Steven Thomas, yn euog o fod ag arf tanio ffug yn ei feddiant, gyda'r bwriad o achosi ofn trais. Cafodd y rheithgor ef yn ddieuog o gynllwynio i lofruddio.

Dywedodd Georgia Jones o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Dyma gynllwyn cythreulig, dideimlad a llofruddiol a ddyfeisiwyd gan wraig a'i chariad i ladd ei gŵr.

“Roedd y dystiolaeth yn rhoi darlun clir a oedd yn dangos bod y ddau ddiffynnydd wedi bod yn trafod gwahanol ffyrdd o ladd Mr Mills yn ystod yr wythnosau cyn yr ymosodiad.

“Fodd bynnag, chwalwyd eu cynlluniau pan lwyddodd Mr Mills i ymladd yn ddewr yn erbyn ei ymosodwyr.
 
“Hoffem ddiolch i Mr Mills, a'r tystion eraill, am eu cefnogaeth drwy gydol yr achos hwn, gan ein galluogi i ddod â'r troseddwyr hyn o flaen eu gwell.”

Dedfrydwyd Ethel Michelle Mills a Geraint Berry i 19 mlynedd o garchar. Dedfrydwyd Steven Thomas i 12 mis o garchar.

Dedfrydwyd y tri ar 19 Rhagfyr 2025 yn Llys y Goron Abertawe.

Nodiadau i olygyddion

  • Daw Ethel Michelle Mills (Dyddiad Geni: 17/9/1979) o Langennech, Sir Gaerfyrddin
  • Cafwyd Mills yn euog o gynllwynio i lofruddio Christopher Mills (rhwng 1/7/2024 a 22/9/2024) ac o wneud gweithredoedd gyda’r bwriad o wyrdroi cwrs cyfiawnder (rhwng 19/9/2024 a 22/9/2024)
  • Daw Geraint Maverick Berry (Dyddiad Geni: 17/10/1978) o Glydach, Abertawe
  • Cafwyd Berry yn euog o gynllwynio i lofruddio Christopher Mills (rhwng 1/7/2024 a 22/9/2024) a phlediodd yn euog o fod ag arf tanio ffug yn ei feddiant, gyda’r bwriad o achosi ofn trais (rhwng 19/9/2024 a 22/9/2024)
  • Daw Steven Derwyn Thomas (Dyddiad Geni: 21/2/1978) o Flaengwynfi, Castell-nedd Port Talbot
  • Plediodd Thomas yn euog i fod ag arf tanio ffug yn ei feddiant, gyda'r bwriad o achosi ofn trais (rhwng 19/9/2024 a 22/9/2024)
  • Mae Georgia Jones yn Uwch Erlynydd y Goron yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) Cymru.
Back to CPS News centre