English

Beth am wneud cais i fod yn hyfforddai cyfreithiol

Ymunwch â Gwasanaeth Erlyn y Goron fel hyfforddai cyfreithiol a chael dyfodol sy’n bwysig.

Ceisiadau yn agor ym mis Ionawr 2025.

Pam Gwasanaeth Erlyn y Goron?

Rydym yn amddiffyn y cyhoedd drwy erlyn y person cywir am y drosedd gywir. Rydym yn annibynnol ac yn gwneud penderfyniadau’n deg ac yn wrthrychol drwy ddilyn ein Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron.

Rôl fel erlynydd y goron wedi'i gwarantu wedyn

Ennill profiad gwerthfawr ym mhob maes cyfraith trosedd

Elwa ar weithio hyblyg a hybrid

Rhoi hyfforddiant ar waith mewn sefyllfa go iawn

Cael 25 diwrnod o wyliau bob blwyddyn, 30 diwrnod ar ôl 5 mlynedd

Pensiwn cyfrannol cystadleuol o hyd at 27%

Ydych chi’n fyfyriwr graddedig gyda gradd yn y gyfraith a chymhwyster Cwrs Ymarfer y Gyfraith (LPC) neu Gwrs Ymarfer y Bar (BPC) sy’n awyddus i fod yn gyfreithiwr neu’n fargyfreithiwr cwbl gymwys?

Eurgain, Hyfforddai Cyfreithiol

Mae Eurgain yn hyfforddai cyfreithiol sy’n siarad Cymraeg a Saesneg. Cafodd ei derbyn ar ein cynllun dwyieithog i hyfforddeion cyfreithiol, ac mae'n datblygu sgiliau a fydd yn cefnogi gyrfa lwyddiannus yn y gyfraith. 

Ann, Erlynydd y Goron

Mae Ann yn erlynydd y goron ddwyieithog. Mae’n gallu ymgysylltu’n fwy effeithiol â dioddefwyr a thystion Cymraeg a Saesneg yn ystod achosion. 

Pam ddylech chi ein hystyried ni

Mae ein hyfforddeion a’n disgyblion yn canmol ein sefydliad am fod yn agos-atoch ac yn gynhwysol. Bydd rôl fel erlynydd wedi’i gwarantu ar ôl cwblhau eich hyfforddiant yn llwyddiannus. Cewch foddhad yn eich swydd wrth weithio i Wasanaeth Erlyn y Goron, ac rydym yn darparu technoleg gyfreithiol wych i’ch helpu yn eich gwaith. Rydym yn gofalu am eich lles, ac yn cynnig hyblygrwydd a gweithio hybrid i gael cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith.

Mae ein llwybrau hyfforddeion cyfreithiol ar agor ledled Cymru a Lloegr, ac mae llwybr Cymraeg dwyieithog ar gael. 

Ceisiadau yn agor ym mis Ionawr 2025.