English
Go Prosecute
i Uwch Erlynwyr y Goron
Secondiad am flwyddyn yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron i gefnogi cyn gyfreithwyr a bargyfreithwyr sydd wedi gadael y gyfraith droseddol i gael seibiant oddi wrth eu gyrfa ac sy’n dymuno dychwelyd.
Mae ceisiadau’n agor ar 9 Mehefin 2025.

Pam dylech chi ein hystyried ni
- Cewch ragflas go iawn:mae’n secondiad blwyddyn gyda'r opsiwn i'w ymestyn i ddwy flynedd. Ar ôl y secondiad, gallwch wneud cais am rôl gyfreithiol barhaol gyda ni neu gallech efallai ystyried ymarfer amddiffyn troseddol neu’r Bar troseddol hunangyflogedig.
- Datblygwch eich hun:efallai y byddwch yn teimlo bod angen i chi adennill eich hyder, gwella eich sgiliau erlyn neu gryfhau eich cysylltiad proffesiynol â Gwasanaeth Erlyn y Goron. Cewch weithio gyda chyfreithwyr profiadol i ennill profiad a chewch ddelio ag amrediad eang o achosion - gyda hyfforddiant wedi'i deilwra.
- Rhowch gynnig ar wahanol fath o waith:yn dibynnu ar eich profiad a’r patrwm gweithio y cytunwyd arno, gallech fod wedi’ch lleoli mewn uned ynadon, yn Llys y Goron, neu mewn uned Treisio a Throseddau Rhywiol Difrifol. Neu fe allech weithio mewn uned arbenigol fel ein Cyfarwyddiaeth Ryngwladol a Throseddau Cyfundrefnol Economaidd Difrifol, neu gyda CPS Direct, ein gwasanaeth y tu allan i oriau.
- Cewch weithio oriau hyblyg:pryd bynnag y mae hynny’n bosibl, rydym yn cynnig patrymau gweithio hyblyg fel gweithio’n rhan-amser, oriau cywasgedig, neu yn ystod y tymor yn unig.
- A buddion eraill y Gwasanaeth Sifil: Lwfans blynyddol o 25 diwrnod o wyliau, 3 diwrnod o wyliau i wirfoddoli, cymorth lles a phensiwn cyfrannol o 28.9%.
Stephen Parkinson, Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus, yn cyflwyno Go Prosecute i Uwch Erlynwyr y Goron.
Ydych chi’n gyfreithiwr neu’n fargyfreithiwr ar ganol eich gyrfa sy’n ystyried dychwelyd i’r gyfraith droseddol ar ôl seibiant? Ydych chi’n frwd dros sicrhau cyfiawnder.
‘Yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron, rydyn ni’n falch ac yn ddiolchgar bod gennym Far troseddol hunangyflogedig a phroffesiwn y cyfreithwyr. Ac rydyn ni eisiau chwarae rhan i’ch cefnogi yn eich ymarfer ehangach yn y system cyfiawnder troseddol.’
Stephen Parkinson, Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus Cymru a Lloegr
Rhagor o wybodaeth
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Go Prosecute i Uwch Erlynwyr y Goron neu os hoffech gael gwybod pan fydd y ceisiadau ar agor, anfonwch e-bost at [email protected].
Mae ceisiadau’n agor ar 9 Mehefin 2025.
Cael gwybodaeth ddiweddar am ein swyddi
Gallwch gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr i gael rhagor o wybodaeth am ein swyddi gwag yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron.