Dyn wedi’i gael yn euog o anfon negeseuon tramgwyddus iawn
DIWEDDARIAD: Cafodd Gareth Bradley ei ddedfrydu ar 10 Mehefin 2026 i orchymyn cymunedol dwy flynedd a oedd yn cynnwys 25 diwrnod o weithgarwch adsefydlu a 120 diwrnod o ofyniad monitro.
Cyhoeddwyd yn wreiddiol ar 5 Mai 2026
Mae dyn wedi’i gael yn euog heddiw (5 Mai 2026) yn Llys Ynadon Llandudno am anfon negeseuon tramgwyddus iawn, sydd yn droseddau casineb.
Anfonodd Gareth Bradley, 36, negeseuon a oedd yn cynnwys iaith wrth-Semitaidd, iaith wrth-Fwslimaidd ac iaith wrth-Gristnogol.
Plediodd yn euog i bum trosedd o anfon cyfathrebiadau ar rwydwaith cyfathrebu cyhoeddus a oedd yn dramgwyddus iawn neu’n fygythiol.
Dywedodd Rebecca Foster o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Mae troseddau casineb yn wirioneddol ffiaidd, ac yn cael effaith niweidiol iawn ar y dioddefwyr a’r gymuned ehangach.
“Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi ymrwymo i fynd i'r afael â throseddau casineb ac yn gweithio’n agos gyda’r heddlu a’n partneriaid ar draws y system cyfiawnder troseddol er mwyn dod â throseddwyr o flaen eu gwell pryd bynnag y bodlonir ein prawf cyfreithiol.”
Mae’r llys wedi gorchymyn adroddiadau cyn dedfrydu ar Gareth Bradley ac wedi gohirio’r achos ar gyfer dedfrydu.
Nodiadau i olygyddion
- Daw Gareth Bradley (Dyddiad Geni: 15/11/1989) o Mount Pleasant, Dinbych.
- Plediodd yn euog i 5 trosedd yn groes i adran 127 (1) (A) a (3) o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003, ac roedd pedwar o’r troseddau hynny yn dramgwyddus iawn.
- Mae’r dedfrydu wedi’i ohirio hyd nes 10 Mehefin 2026.
- Mae Rebecca Foster yn Uwch Erlynydd Rhanbarth y Goron yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) Cymru.