Skip to main content

Dyn o Dde Cymru wedi’i ddedfrydu am annog digwyddiadau “swatting”

Mae dyn o dde Cymru a arestiwyd yn dilyn ymchwiliad rhyngwladol i ddigwyddiadau lle gwneir galwadau ffug i’r gwasanaethau brys wedi cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd.

Defnyddiodd Callum Dare, 26 oed, y we dywyll i annog digwyddiadau “swatting” yng Nghymru ac yn yr UDA, ac yna i frolio amdanynt.

Mae “Swatting” yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio gweithred o aflonyddu ar ddioddefwr drwy anfon heddlu arfog i leoliad y person hwnnw ar ôl rhoi gwybod am argyfwng ffug.

Un o’r digwyddiadau oedd adroddiad ffug a wnaethpwyd i Adran Heddlu Los Angeles am fomiau dan gadeiriau ym Mhrifysgol California, a bu’n rhaid i bawb adael y safle.

Mewn digwyddiad arall, cafodd newyddiadurwr o Gaerdydd galwad ffug yn ddweud bod bom mewn gwesty yng nghanol dinas Caerdydd lle'r oedd bomiau hoelion a gwystlon, a bu’n rhaid i’r heddlu gau’r ardal.

Pan arestiwyd Dare gan yr heddlu, fe wnaethant atafaelu ei ddyfeisiau electronig a dod o hyd i ffeiliau’n ymwneud â thwyll gwe-rwydo soffistigedig oedd wedi’i ddylunio i gymryd manylion personol neu fanylion talu defnyddwyr y we dywyll er mwyn i dwyllwyr gael eu defnyddio.

Dywedodd Louisa Robertson o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Rhoddodd Callum Dare bobl mewn perygl drwy annog yr heddlu arfog i ymateb i ffug ddigwyddiadau, er mwyn rhoi gwefr iddo’i hun.

“Pan fo galwadau diangen fel hyn yn cael eu gwneud, mae nifer o wasanaethau brys yn gorfod ymateb, ac maent yn cael eu tynnu oddi wrth bobl sydd wir angen cymorth.

“Roedd gwaith cydweithio rhyngwladol rhwng asiantaethau gorfodi’r gyfraith ac erlynwyr mewn gwahanol awdurdodaethau wedi galluogi i wasanaeth Erlyn y Goron adeiladu achos cryf yn erbyn Dare, a dangos cymaint o effaith y mae ei droseddau wedi ei chael ar bobl, gan sicrhau nad oedd ganddo fawr ddim dewis ond pledio’n euog.

“Rwy’n gobeithio y bydd y ddedfryd yma heddiw yn atal eraill rhag cyflawni troseddau fel hyn.”

Dedfrydwyd Callum Dare i gyfanswm o 2 flynedd a 3 mis o garchar.

Nodiadau i olygyddion

  • Daw Callum Dare (dyddiad geni: 30/1/2000) o Donysguboriau
  • Plediodd yn euog i annog neu gynorthwyo i drefnu cyfathrebu maleisus a meddu ar eitemau i’w defnyddio mewn twyll
  • Mae Louisa Robertson yn Erlynydd Arbenigol yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron Cymru.
     
Back to CPS News centre