Skip to main content

Dyn wedi’i gael yn euog o anfon negeseuon tramgwyddus iawn

Mae dyn wedi’i gael yn euog heddiw (5 Mai 2026) yn Llys Ynadon Llandudno am anfon negeseuon tramgwyddus iawn, sydd yn droseddau casineb.

Anfonodd Gareth Bradley, 36, negeseuon a oedd yn cynnwys iaith wrth-Semitaidd, iaith wrth-Fwslimaidd ac iaith wrth-Gristnogol.

Plediodd yn euog i bum trosedd o anfon cyfathrebiadau ar rwydwaith cyfathrebu cyhoeddus a oedd yn dramgwyddus iawn neu’n fygythiol.

Dywedodd Rebecca Foster o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Mae troseddau casineb yn wirioneddol ffiaidd, ac yn cael effaith niweidiol iawn ar y dioddefwyr a’r gymuned ehangach.

“Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi ymrwymo i fynd i'r afael â throseddau casineb ac yn gweithio’n agos gyda’r heddlu a’n partneriaid ar draws y system cyfiawnder troseddol er mwyn dod â throseddwyr o flaen eu gwell pryd bynnag y bodlonir ein prawf cyfreithiol.”

Mae’r llys wedi gorchymyn adroddiadau cyn dedfrydu ar Gareth Bradley ac wedi gohirio’r achos ar gyfer dedfrydu.

Nodiadau i olygyddion

  • Daw Gareth Bradley (Dyddiad Geni: 15/11/1989) o Mount Pleasant, Dinbych.
  • Plediodd yn euog i 5 trosedd yn groes i adran 127 (1) (A) a (3) o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003, ac roedd pedwar o’r troseddau hynny yn dramgwyddus iawn.
  • Mae’r dedfrydu wedi’i ohirio hyd nes 10 Mehefin 2026.
  • Mae Rebecca Foster yn Uwch Erlynydd Rhanbarth y Goron yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) Cymru. 
Back to CPS News centre