Skip to main content

Carcharu treisiwr am ymosod ar berson yn ei arddegau oedd yn agored i niwed


Mae dyn a brynodd arfau cyn treisio person yn ei arddegau oedd yn byw mewn llety â chymorth wedi ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd.

Roedd Jay Jenkins-Lang, 23, yn cael ei hebrwng i Lys Ynadon Casnewydd gan weithwyr cymorth ym mis Mehefin 2023, ar ôl cael ei gyhuddo o droseddau yn ymwneud ag arfau tanio ac arfau ymosodol. Ond, rhedodd oddi wrth y gweithwyr cymorth a gadael mewn tacsi.

Trafaeliodd i Gwmbrân, gan stopio ar y ffordd i brynu gwn aer a bwledi.

Aeth Jenkins-Lang i’r eiddo yng Nghwmbrân, sy’n darparu llety byw â chymorth, ac yno fe  wnaeth ymosod a threisio’r person ifanc 17 oed, tra yr oedd ym meddiant yr arfau yr oedd wedi eu prynu yn gynharach.

Cafodd ei arestio ychydig oriau yn ddiweddarach yn ardal Cwmbrân, yn gwisgo fest trywanu, ac roedd yn dal ym meddiant yr arf, y bwledi a chyllell.

Gwadodd Jenkins-Lang y cyhuddiadau, ac yn ystod ei dreial ym mis Medi 2024, cyflwynodd lythyr gerbron y llys, a oedd yn ymddangos fel pe bai wedi dod gan y dioddefwr, yn ymddiheuro am ei fframio, ond yn ddiweddarach profwyd bod y llythyr yn ffug.

Dywedodd Catherine Miles o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Bu i Jay Jenkins-Lang achosi i berson yn ei arddegau oedd yn agored i niwed ddioddef trosedd erchyll.

“Ni ddangosodd unrhyw edifarwch am ei weithredoedd, gan geisio perswadio'r rheithgor bod y dioddefwr wedi dweud celwydd ac wedi cyfaddef i’w fframio mewn llythyr.

“Cyflwynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron dystiolaeth gref oedd yn profi nad oedd y llythyr wedi dod gan y dioddefwr.

“Trwy ddewrder y dioddefwr yn dod ymlaen yr ydym wedi gallu dod â’r treisiwr hwn o flaen ei well.”

Cafodd Jay Jenkins-Lang ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ar 13 Ebrill 2026 i ddeng mlynedd o garchar gyda thrwydded estynedig o chwe blynedd.

Mae'n rhaid iddo gofrestru fel troseddwr rhyw am oes.  Gosododd y Llys orchymyn atal amhenodol. 
 

Nodiadau i olygyddion

  • Mae cyfyngiadau adrodd yn berthnasol yn yr achos hwn. Holwch Lys y Goron.
  • Daw Jay Jenkins-Lang (Dyddiad Geni: 30/11/2002) o Bont-y-pŵl.
  • Fe’i cafwyd yn euog o dreisio; achosi gwir niwed corfforol; bod ym meddiant arf tanio ffug wrth gyflawni trosedd; cyflawni gweithred gyda’r bwriad o wyrdroi cwrs cyfiawnder, yn dilyn treial.
  • Plediodd yn euog i fod ym meddiant eitem gyda llafn neu bwynt; bod ym meddiant arf tanio ffug a bwledi mewn man cyhoeddus; bod ym meddiant arf ymosodol mewn man cyhoeddus a chyflawni difrod troseddol. 
  • Mae Catherine Miles yn Uwch Erlynydd y Goron yn nhîm Trais a Throseddau Rhywiol Difrifol (RASSO) Gwasanaeth Erlyn y Goron Cymru
     
Back to CPS News centre