Skip to main content

Dyn yn cael ei ddedfrydu i garchar am oes am lofruddio ei wraig

Mae dyn o Gaerdydd a drywanodd ei wraig i farwolaeth mewn maes parcio wedi cael ei garcharu am oes yn Llys y Goron Caerdydd.

Trywanodd Thisara Weragalage, 38, ei wraig, Niwunhellage Dona Nirodha Kalpani Niwunhella (oedd yn cael ei galw’n Nirodha), sawl gwaith mewn maes parcio i breswylwyr yn ardal Glanyrafon, Caerdydd.

Roedd y cwpl wedi gwahanu ers misoedd, ond ar fore 21 Awst 2025, aeth Weragalage i’r maes parcio gan wybod bod ei wraig wedi parcio ei char yno. Roedd wedi prynu cyllyll y diwrnod cynt a defnyddiodd un ohonynt i ladd Nirodha.

Dywedodd Emma Davies o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Roedd Thisara Weragalage wedi cynllunio ei ymosodiad. Bu’n ymweld â’r ardal sawl gwaith cyn yr ymosodiad a phrynodd arf i lofruddio.

“Roedd ei ragfwriad yn ffactor sylweddol yn y llofruddiaeth frawychus hon.

“Roedd y dystiolaeth gref a gyflwynwyd gerbron Gwasanaeth Erlyn y Goron yn dangos ei fwriad, ac fe blediodd y diffynnydd yn euog.

“Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn gweithio gyda'r heddlu i adeiladu achosion cryf yn erbyn y rhai sy’n cyflawni trais yn erbyn menywod a merched, ac mae ein herlynwyr yn sicrhau bod mwy o ddioddefwyr y troseddau ffiaidd hyn yn cael y cyfiawnder y maent yn ei haeddu.

“Rydym yn cydymdeimlo â theulu a ffrindiau Nirodha, sydd wedi dioddef colled enfawr.”

Ar 20 Chwefror 2026, dedfrydwyd Thisara Weragalage i garchar am oes, a gorchmynnwyd iddo aros yno am o leiaf 23 mlynedd a naw mis.
 

Nodiadau i olygyddion

  • Daw Thisara Weragalage (Dyddiad Geni: 12/11/1987) o Glos Bessemer, Caerdydd.
    Plediodd yn euog i lofruddio.
  • Bu farw Nirodha Niwunhella ar 21 Awst 2025 yn 32 oed.
  • Mae Emma Davies yn Uwch Erlynydd y Goron yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron Cymru. 
  • Darllenwch am ein dull gweithredu wedi'i ddiweddaru ar gyfer erlyn troseddau rhywiol difrifol a threisio, troseddau seibr, stelcio a cham-drin domestig yn y fersiwn lawn o strategaeth Trais yn erbyn Menywod a Merched Gwasanaeth Erlyn y Goron 2025-2030, ar ein gwefan: Strategaeth Trais yn erbyn Menywod a Merched 2025-2030 | Gwasanaeth Erlyn y Goron.

 

Back to CPS News centre