Dedfrydu rheibiwr rhywiol yn dilyn canfod cyfatebiaeth DNA mewn ‘achos hanesyddol’ sy’n dyddio’n ôl dri degawd
Mae dyn a ymosododd yn rhywiol ar ferch ysgol wrth iddi gerdded adref o’r llyfrgell bron i dri degawd yn ôl wedi cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Casnewydd.
Ar 23 Medi 1997, ymosododd Richard Downey, sydd bellach yn 55 oed, yn rhywiol ar ferch yn ei harddegau oedd yn gwisgo ei gwisg ysgol ar lwybr troed ger Wyllie, Coed-duon. Wedi’i arfogi â thyrnsgriw, ymddangosodd Downey y tu ôl i’r dioddefwr a rhoi ei ddwylo dros ei cheg. Yn ystod yr ymosodiad, bu i Downey gyffwrdd y ferch yn rhywiol a’i hatal wrth iddo fastyrbio. Llwyddodd y dioddefwr ifanc i redeg i ffwrdd ar ôl cael trafferth.
Casglwyd sampl DNA o semen oddi ar esgid y dioddefwr ar y pryd, ond ni lwyddwyd i’w gyfateb. Ond, arweiniodd datblygiad fforensig yn 2022 at adnabod Downey a’i arestio.
Ar ôl clywed tystiolaeth yr achos, cafodd y rheithgor ef yn euog o dair trosedd, oedd i gyd yn ymwneud â’r ymosodiad ar y ferch 13 oed.
Dywedodd Catherine Miles o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Bu i Richard Downey ymosod yn rhywiol ar blentyn mewn modd dychrynllyd a brawychus wrth iddi gerdded adref o’r llyfrgell.
"Efallai ei fod yn meddwl y gallai osgoi cael ei gosbi am ei drosedd ar ôl yr holl flynyddoedd, ond llwyddodd tystiolaeth DNA a gyflwynwyd yn y treial brofi ei fod yn euog.
“Mae ei ddedfryd heddiw yn dangos bod Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi ymrwymo i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell pan fodlonir y prawf cyfreithiol i wneud hynny, ni waeth faint o amser sydd wedi mynd heibio.
“Rydym ni’n gobeithio bod y dioddefwr yn cael rhywfaint o gysur o wybod bod ei hymosodwr wedi cael ei ddwyn gerbron y llys o’r diwedd.”
Cafodd Richard Downey ei ddedfrydu i wyth mlynedd o garchar gyda chyfnod trwydded estynedig o ddwy flynedd. Gorchmynnwyd iddo gofrestru fel troseddwr rhyw am oes a gwnaed yn destun Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol a Gorchymyn Atal am gyfnod amhenodol.
Nodiadau i olygyddion
- Mae cyfyngiadau adrodd yn berthnasol yn yr achos hwn. Holwch y Llys
- Daw Richard Downey (Dyddiad Geni: 1/11/1970) o Landevaud, Casnewydd
- Fe’i cafwyd yn euog o ddwy drosedd o ymosod yn anweddus ac un drosedd o ymosod yn anweddus ar blentyn
- Cafodd y ddedfryd ei rhoi ar 23 Ionawr 2026
- Mae Catherine Miles yn Uwch Erlynydd y Goron yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) Cymru
- Darllenwch am ein dull gweithredu wedi'i ddiweddaru ar gyfer erlyn troseddau rhywiol difrifol a threisio, troseddau seibr, stelcio a cham-drin domestig yn y fersiwn lawn o strategaeth Trais yn erbyn Menywod a Merched Gwasanaeth Erlyn y Goron 2025-2030, ar ein gwefan: Strategaeth Trais yn erbyn Menywod a Merched 2025-2030 | Gwasanaeth Erlyn y Goron (yn Saesneg).