Datganiad gwrth-hiliol ar gyfer Gwasanaeth Erlyn y Goron
Gwasanaeth Erlyn y Goron yw’r prif awdurdod erlyn yng Nghymru a Lloegr, a nhw sy’n gyfrifol am benderfynu a ddylai unigolion gael eu cyhuddo o droseddau difrifol. Mae ein penderfyniadau’n effeithio’n fawr ar fywydau dioddefwyr a diffynyddion, sy’n golygu bod angen cyrraedd y safonau uchaf o ran atebolrwydd a thryloywder.
Cydnabyddir yn eang fod cynrychiolaeth anghymesur o leiafrifoedd ethnig o fewn y system cyfiawnder troseddol cyfan. Rydym ni wedi cynnal ein hymchwil ein hunain ac wedi cyhoeddi cynllun gweithredu i fynd i’r afael â hyn.
Mae ein holl gymunedau yn disgwyl ac yn haeddu system cyfiawnder troseddol y gallent fod yn hyderus ynddi, heb boeni bod hunaniaeth hil unigolyn yn cael effaith negyddol ar eu canlyniadau cyfiawnder troseddol.
Rydym ni’n gwrthwynebu hiliaeth a phob math o wahaniaethu ac yn ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol gan feithrin cydraddoldeb, tegwch a chyfiawnder o fewn ein sefydliad ac yn y gymuned ehangach.
Wrth i ni fwrw ymlaen â’n gwaith i fod yn sefydliad gwrth-hiliol, byddwn yn parhau i fynd ati’n fwriadol i ystyried a yw ein polisïau, ein prosesau, ein gweithdrefnau, ein diwylliant, ein gweithleoedd, ein hymddygiad, ein harferion, y ffordd rydym yn rhyngweithio, a’n perthnasoedd ag asiantaethau eraill yn dangos rhagfarn hiliol a allai arwain at ganlyniadau a phrofiadau anghymesur, gan gynnwys penderfyniadau erlyn ar gyfer diffynyddion o leiafrifoedd ethnig, a byddwn yn mynd i'r afael â hynny.
Y tair blynedd nesaf
Mae’r datganiad hwn yn nodi rhai o'r camau pellach rydym ni’n eu cymryd i fod yn wirioneddol wrth-hiliol ac mae’n seiliedig ar ein Dyletswydd Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus. Rydym ni’n gwybod bod mwy o waith i’w wneud eto. Dros y tair blynedd nesaf, byddwn ni’n gweithio tuag at y canlynol:
Dileu rhagfarn wrth wneud penderfyniadau
- Dileu unrhyw ragfarn hiliol o’n prosesau gwneud penderfyniadau a gweithio gydag asiantaethau eraill y system cyfiawnder troseddol i fynd i’r afael ag anghymesuredd hiliol ac ennyn hyder y cyhoedd.
- Mynd ati’n rhagweithiol i nodi, herio a mynd i’r afael â gwahaniaethau a rhagfarn hiliol ar lefel unigol, sefydliadol a systemig. Heb eu herio, mae’r rhagfarnau hyn yn cyfrannu at gynrychiolaeth anghymesur a thriniaeth annheg i leiafrifoedd ethnig yn y system cyfiawnder troseddol.
- Dal ati i fonitro ein penderfyniadau cyhuddo ac adrodd yn gyhoeddus ar ein canfyddiadau.
Gwreiddio newid systemig a diwylliant o ddysgu
- Gwreiddio egwyddorion gwrth-hiliol i gefnogi ein cenhadaeth graidd o sicrhau cyfiawnder drwy erlyn yn annibynnol a theg. Mae hyn yn golygu gweithio mewn partneriaeth â’n staff, pobl sydd â phrofiad uniongyrchol, academyddion, sefydliadau cymdeithas sifil a phartneriaid cyfiawnder troseddol eraill i arfogi pobl â’r ddealltwriaeth a’r adnoddau i fynd i’r afael â hiliaeth a rhagfarn ym mhob un o feysydd ein gwaith.
- Meithrin diwylliant cynhwysol a gwrth-hiliol lle caiff pob unigolyn ei drin ag urddas a pharch. Byddwn yn herio hiliaeth systemig a hiliaeth gan unigolion, gan hyrwyddo tegwch ar sail hil a dal ati i feithrin amgylchedd cydweithredol a pharchus, lle caiff addysg a deialog am ragfarn ar sail hil ei annog.
Denu a datblygu talent o leiafrifoedd ethnig
- Ymdrechu i sicrhau bod ein gwasanaeth erlyn yn adlewyrchu amrywiaeth y cymunedau rydym ni’n eu gwasanaethau, drwy sicrhau bod ein strategaethau recriwtio yn canolbwyntio ar ddenu, datblygu a chadw unigolion talentog o bob cefndir, gan gynnwys pobl o gymunedau sy’n cael eu tangynrychioli.
- Parhau i ddadansoddi’r holl ddata cyflogaeth - gan gynnwys recriwtio, cadw, dyrchafu, cyfleoedd dysgu a disgyblu - er mwn canfod, deall a mynd i’r afael ag unrhyw wahaniaethau ar sail hil.
Ymgysylltu â chymunedau mewn ffordd ystyrlon a phwrpasol
Ymgysylltu â’r cymunedau rydym ni’n eu gwasanaethu yn effeithiol a mynd i'r afael yn well ag effeithiau hiliaeth a rhagfarn.
- Parhau i ofyn am fewnbwn ac adborth gan gymunedau, gan gynnwys cymunedau lleiafrifoedd ethnig a rhanddeiliaid i lywio ein polisïau a’n harferion. Mae’r ymgysylltu hwn yn hanfodol i feithrin ymddiriedaeth a sicrhau ein bod yn deall pryderon y gymuned yr effeithir arnynt fwyaf, a mynd ati’n fwriadol i ystyried effaith ein polisïau a’n hymarferion.
Bod yn onest ac yn atebol
- Bod yn onest ac yn atebol gyda’n pobl a’n cymunedau wrth geisio mynd i’r afael â gwahaniaethu a rhagfarn ar sail hil.
- Cyhoeddi adroddiadau ar ein cynnydd, gan dynnu sylw at ein llwyddiannau a nodi’r meysydd y mae angen eu gwella ymhellach. Drwy fod yn atebol, byddwn yn dangos ein hymrwymiad i newid gwirioneddol a pharhaus.
Cymryd agwedd dim goddefgarwch tuag at hiliaeth
Ni fydd ymddygiad hiliol yn cael ei oddef mewn unrhyw ffordd. Mae gennym brosesau clir a hygyrch ar gyfer rhoi gwybod am wahaniaethu neu aflonyddu, ac rydym yn sicrhau bod pob digwyddiad yn cael sylw gyda chanlyniadau priodol. Mae pawb yn ein sefydliad yn haeddu teimlo’n ddiogel a theimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu.