Dedfrydu gang cyffuriau am gynllwyn i fewnforio canabis
Mae aelodau o grŵp troseddu cyfundrefnol a ddefnyddiodd wasanaethau danfon parseli i gludo lot fawr o ganabis i'r DU o UDA wedi cael eu dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd.
Datgelodd yr ymchwiliad mai Abubakr Khawar, 28, oedd yn gweithredu fel arweinydd y grŵp – yn rhoi cyfarwyddyd i bobl eraill dderbyn y parseli, neu’n nodi eiddo i'w defnyddio i dderbyn y parseli.
Byddai'r parseli wedyn yn cael eu hailddosbarthu i gyflenwyr a defnyddwyr eraill.
Llwyddodd Llu'r Ffiniau i ryng-gipio 327kg o ganabis a oedd i fod i gael ei ddanfon i eiddo a ddefnyddid gan y grŵp. Byddai gwerth y cyffuriau ar y stryd wedi bod tua £3.2 miliwn.
Dywedodd Jenny Hopkins o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Roedd y grŵp hwn yn drefnus iawn ac yn hynod soffistigedig yn eu troseddu.
“Roeddent yn trefnu ac yn rheoli danfoniadau dros yr Iwerydd i oddeutu 80 eiddo yn y DU ac yna'n defnyddio rhwydwaith dosbarthu helaeth i symud y cyffuriau ymlaen.
“Roeddent wedi ceisio osgoi cael eu dal yn gyfrifol am eu troseddau drwy newid eu patrymau dosbarthu’n rheolaidd, ond cawsant eu dal serch hynny.
“Datblygodd Gwasanaeth Erlyn y Goron achos cryf o'r dystiolaeth, a arweiniodd at yr euogfarnau hyn.
“Mae'r achos hwn yn dangos ymrwymiad Gwasanaeth Erlyn y Goron a phartneriaid gorfodi'r gyfraith i chwalu cadwyni cyflenwi cyffuriau a dod â'r rhai sy'n ymwneud â throseddau cyfundrefnol difrifol o flaen eu gwell."
Plediodd y diffynyddion canlynol yn euog i ddwy drosedd, sef cynllwynio i fynd yn groes i adran 170 o Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979, a chynllwynio i gyflenwi canabis:
- Cafodd Abubakr Khawar ei ddedfrydu i wyth mlynedd o garchar
- Cafodd Abdu Husain ei ddedfrydu i chwech mlynedd o garchar
- Cafodd Mohammed Nural Hussain ei ddedfrydu i chwech mlynedd o garchar
- Cafodd Solomon Bertram ei ddedfrydu i 22 mis o garchar
- Cafodd Ceiron Jones ei ddedfrydu i 26 mis o garchar
- Cafodd Kyle Solowyk ei ddedfrydu i 34 mis o garchar
- Cafodd Andrew Pethers ei ddedfrydu i dair mlynedd o garchar
- Cafodd Daniel Marshall ei ddedfrydu i 32 mis o garchar.
Cafwyd y ddau ddiffynnydd canlynol yn euog o'r un troseddau ar ôl treial llawn:
- Dedfrydwyd Sean Montgomery i dair mlynedd a chwech mis o garchar
- Dedfrydwyd Steven Munroe i 32 mis o garchar.
Nodiadau i olygyddion
- Jenny Hopkins yw Prif Erlynydd y Goron ar gyfer Gwasanaeth Erlyn y Goron Cymru
- Digwyddodd y troseddau rhwng 9 Tachwedd 2022 a 9 Rhagfyr 2024
- Daw Abubakr Khawar (dyddiad geni: 17/10/1996) o Lanyrafon, Caerdydd
- Daw Abdu Husain (dyddiad geni: 14/08/1996) o Lecwydd, Caerdydd
- Daw Mohammed Nural Hussain (dyddiad geni: 11/09/1996) o Lanyrafon, Caerdydd
- Daw Solomon Bertram (dyddiad geni: 29/03/1989) o Lanisien, Caerdydd
- Daw Ceiron Jones (dyddiad geni: 06/07/1996) o'r Eglwys Newydd, Caerdydd
- Daw Kyle Solowyk (dyddiad geni: 14/12/1995) o'r Barri
- Daw Sean Montgomery (dyddiad geni: 30/03/2001) o Dredelerch, Caerdydd
- Daw Andrew Pethers (dyddiad geni: 09/11/1988) o Bentre Llaneirwg, Caerdydd
- Daw Daniel Marshall (dyddiad geni: 11/01/1985) o Dreharris, Merthyr Tudful
- Daw Stephen Munroe (dyddiad geni: 19/06/1980) o’r Sblot, Caerdydd.